Helpu rhywun i ddefnyddio GOV.UK One Login
Beth y gallwch ac na allwch ei wneud pan fyddwch yn helpu rhywun rydych yn eu hadnabod greu GOV.UK One Login a phrofi eu hunaniaeth.
Gallwch helpu rhywun rydych yn eu hadnabod i greu GOV.UK One Login a phrofi eu hunaniaeth i gael mynediad at wasanaethau’r llywodraeth. Efallai eu bod yn ffrind, aelod o’r teulu, neu’n rhywun rydych yn ei gefnogi fel rhan o’ch swydd.
Mae’r canllawiau hyn yn dweud wrthych beth allwch chi ac na allwch eu helpu i wneud. Gallwch rannu hyn gyda’r person rydych yn eu helpu fel eu bod nhw’n gwybod beth i’w ddisgwyl pan maent yn defnyddio GOV.UK One Login.
Beth allwch chi helpu gyda
Dylech adael i’r person rydych yn eu helpu gwblhau cymaint o’r camau ag y gallant ar eu pennau eu hunain, ond mae yna ychydig o bethau y gallwch chi helpu gyda.
Gadael i rywun fenthyg eich ffôn neu gyfrifiadur
Gallwch adael i’r person rydych yn eu helpu i fenthyg eich ffôn neu’ch cyfrifiadur os nad oes ganddynt eu ffôn eu hunain.
Ni fydd eu gwybodaeth bersonol yn cael ei storio ar eich dyfais.
Os oes gan eich ffôn neu gyfrifiadur reolwr cyfrinair, gwnewch yn siŵr nad yw’r person rydych yn eu helpu yn ei ddefnyddio i gadw eu manylion GOV.UK One Login. Ni ddylent gadw cyfrinair na gosod allwedd mynediad ar eich ffôn neu gyfrifiadur.
Atgoffwch nhw i fewngofnodi o GOV.UK One Login ar ôl iddynt orffen.
Bydd rhywfaint o wybodaeth dechnegol am eich dyfais yn cael ei chasglu gan GOV.UK One Login pan fydd y person rydych yn eu helpu yn ei ddefnyddio. Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd i ddarganfod pa fath o wybodaeth fydd yn cael ei chasglu.
Helpu rhywun i ddefnyddio’r ap GOV.UK One Login
Os oes gan y person rydych yn eu helpu ID gyda llun, y ffordd gyflymaf o brofi eu hunaniaeth yw trwy ddefnyddio’r ap GOV.UK One Login. Byddant yn cael eu tywys i’r ap pan fydd yn amser i’w ddefnyddio.
Gallwch helpu’r person i lawrlwytho’r ap ar eu ffôn eu hunain. Byddant yn cael cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn, ond gallwch helpu i ddangos iddynt beth i’w wneud.
Bydd angen iddynt hefyd sganio eu ID gyda llun wrth ddefnyddio’r ap. Gallwch wneud hyn drostynt os ydynt yn cael trafferth dal y ffôn neu eu ID gyda llun yn llonydd.
Os oes gan eu ID gyda llun sglodyn ynddo, fel pasbort y DU, gofynnir iddynt hefyd ei sganio mewn ffordd wahanol. Bydd angen iddynt roi’r ffôn ar ben y ddogfen. Gallwch eu helpu i wneud hyn - mae’n broses debyg i dalu am rywbeth gyda cherdyn digyffwrdd.
Gadael i rywun ddefnyddio’r ap GOV.UK One Login ar eich ffôn
Os oes gennych ap GOV.UK One Login eisoes ar eich ffôn ac rydych wedi mewngofnodi iddo gyda’ch manylion, bydd angen i chi allgofnodi cyn i chi adael i rywun arall ei ddefnyddio. Mae hyn oherwydd bod yr ap yn cofio pa fanylion a ddefnyddiwyd y tro diwethaf i chi fewngofnodi iddo.
I allgofnodi o’r ap, ewch i’r tab Gosodiadau a thapio Allgofnodi. Gofynnir i chi gadarnhau eich bod am allgofnodi gan fod hyn yn dileu’r holl wybodaeth yn yr ap, gan gynnwys fersiynau digidol o unrhyw ddogfennau rydych wedi’u harbed.
Unwaith y bydd y person rydych yn eu helpu wedi gorffen profi eu hunaniaeth, gwnewch yn siŵr eu bod yn allgofnodi o’r ap. Yna byddwch yn gallu mewngofnodi gyda’ch manylion eich hun pan fyddwch ei angen. Os ydych yn cael unrhyw broblemau mewngofnodi yn ôl, ceisiwch ddileu’r ap a’i lawrlwytho eto.
Beth na allwch helpu gyda
Dylech bob amser osgoi rhoi gwybodaeth i mewn ar ran y person rydych yn eu helpu.
Creu eu GOV.UK One Login
Dim ond y person rydych yn eu helpu ddylai allu mewngofnodi i’w GOV.UK One Login.
Pan fyddant yn creu eu GOV.UK One Login, dylech ddweud wrthynt am ddefnyddio cyfeiriad e-bost a rhif ffôn sydd naill ai’n perthyn iddynt neu bod ganddynt fynediad hawdd iddo. Os nad oes ganddynt eu cyfeiriad e-bost eu hunain, gallwch eu helpu i sefydlu un.
Peidiwch â dewis cyfrinair ar eu rhan - er y dylech eu hannog i ddewis cyfrinair nad ydynt yn ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.
Dylai eu cyfrinair fod yn rhywbeth mae dim ond hwy sy’n ei wybod. Os ydych yn eu helpu i greu GOV.UK One Login yn bersonol, dylech edrych i ffwrdd pan fyddant yn dewis eu cyfrinair.
Mewngofnodi i’w GOV.UK One Login
Fel arfer, bydd angen i’r person rydych yn eu helpu roi cod diogelwch i fewngofnodi. Bydd hyn yn helpu i gadw eu GOV.UK One Login yn ddiogel. Bydd y cod yn cael ei anfon i’w rhif ffôn, neu gallant ddefnyddio ap dilysydd.
Peidiwch byth â rhoi eu cyfrinair nac unrhyw godau diogelwch ar eu cyfer pan fyddant yn mewngofnodi.
Efallai y gofynnir iddynt sefydlu allwedd mynediad pan fyddant yn mewngofnodi. Bydd hyn yn gadael iddynt fewngofnodi yn yr un ffordd ag y maent yn datgloi eu ffôn, cyfrifiadur neu dabled, yn hytrach na gyda chyfrinair a chod diogelwch.
Gallwch eu helpu i sefydlu eu allwedd mynediad, ond gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud hyn ar eu ffôn neu gyfrifiadur eu hunain.
Ni ddylech byth sefydlu allwedd mynediad ar gyfer person arall. Os na allant gofio beth yw eu allwedd mynediad neu sut i’w ddefnyddio, efallai na fyddant yn gallu mewngofnodi i GOV.UK One Login.
Profi eu hunaniaeth
Bydd angen i’r person rydych yn eu helpu sganio eu wyneb pan fyddant yn profi eu hunaniaeth gyda’r ap GOV.UK One Login.
Os ydych yn eu helpu yn bersonol, ceisiwch osgoi edrych dros eu hysgwydd pan fyddant yn gwneud hyn. Ni fydd y sgan wyneb yn gweithio os yw’n adnabod mwy nag un person.
Gallant brofi eu hunaniaeth drwy roi eu manylion ac ateb cwestiynau diogelwch os na allant ddefnyddio’r ap. Dim ond y person rydych yn eu helpu ddylai allu ateb y cwestiynau diogelwch hyn. Ni ddylech geisio gwneud hyn ar eu rhan.
Dylech edrych i ffwrdd pan fyddant yn ateb y cwestiynau diogelwch os ydych yn eu helpu yn bersonol.
Cysylltu â GOV.UK One Login os ydych angen mwy o help.
Updates to this page
-
Added what you can and cannot help with if the person you’re helping is using a passkey to sign in to GOV.UK One Login.
-
Added instructions about how to sign out of the GOV.UK One Login app on your phone before you let someone else use it
-
Added information about what happens to any digital documents you've saved in the app when you sign out to let someone else borrow your phone.
-
Added guidance about the help you can give someone using the GOV.UK One Login app to prove their identity.
-
Added Welsh translation.
-
First published.