Skip to main content
Prif Weithredwr

Tim Moss

Bywgraffiad

Ymunodd Tim Moss â DVLA fel Prif Weithredwr ym mis Mawrth 2025.

Addysg

Mae gan Tim radd Meistr yn y Celfyddydau (MA) mewn Gwyddorau Naturiol o Brifysgol Caergrawnt a gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) o Brifysgol Abertawe.

Gyrfa

Mae gan Tim fwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y Gwasanaeth Sifil.

Cyn ymuno â DVLA, roedd yn Brif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Cyffredinol gwasanaethau corfforaethol ac arolygiaethau yn Llywodraeth Cymru. Roedd yn gyfrifol am ddigidol, data a thechnoleg, cyllid, adnoddau dynol, ystadau, diogelwch, gwasanaethau cyfreithiol, masnachol a chaffael.

Cyn hynny, roedd Tim yn Brif Weithredwr yn y Swyddfa Eiddo Deallusol yng Nghasnewydd. Roedd hefyd yn Gofrestrydd Cwmnïau Cymru a Lloegr ac yn Brif Weithredwr yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd.

Mae gyrfa Tim yn cynnwys 12 mlynedd mewn rolau gweithredol uwch yn y diwydiant gweithgynhyrchu.

Prif Weithredwr

Mae’r Prif Weithredwr yn goruchwylio pob agwedd ar DVLA. Mae hefyd yn sicrhau bod DVLA yn cefnogi blaenoriaethau ehangach yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a’r llywodraeth.

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Prif Weithredwr a Rheolwr Cyffredinol, IPO
  • Prif Weithredwr, Cofrestrydd Cwmnïau