Diwygio grŵp TAW
Defnyddiwch ffurflen VAT50/51 i ddiwygio neu i dynnu grŵp TAW sy’n bodoli eisoes.
Defnyddiwch y ffurflen hon i ddiwygio grŵp TAW sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys:
- ychwanegu neu dynnu cwmnïau
- gwneud cais i ddiddymu
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Ychwanegu aelodau at grŵp sy’n bodoli eisoes
Ar gyfer pob aelod arfaethedig o’r grŵp, bydd angen y canlynol arnoch:
- ei statws ymgorffori, rhif a dyddiad ymgorffori (os yw’n berthnasol)
- ei rif cofrestru TAW (os yw’n berthnasol)
- ei gyfanswm disgwyliedig o ran trosiant trethadwy a throsiant anhrethadwy — dylai hyn gynnwys cyflenwadau i gyd-aelodau o’r grŵp
- ei leoliad
- p’un a yw’n bodloni’r amodau rheoli — darllenwch ‘adran 2.9’ yr Hysbysiad TAW 700/2 Cofrestru grwpiau ac isadrannau (yn agor tudalen Saesneg)
- manylion unrhyw daliadau a wnaed neu a gafwyd i’w dosbarthu ar ôl iddo ymuno â’r grŵp
Bydd yn rhaid i chi gadarnhau’r canlynol hefyd:
- statws esemptio pob aelod arfaethedig o’r grŵp a statws esemptio’r grŵp ei hun ar ôl ei sefydlu
- os yw aelodau’r grŵp wedi cael asedion cyfalaf yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf sydd yn, neu bydd yn, cael eu prydlesu neu’n cael eu defnyddio gan aelodau’r grŵp
- os yw aelodau’r grŵp yn berchen ar unrhyw asedion cyfalaf sy’n agored i’r Cynllun Nwyddau Cyfalaf o pan ddaw’r newid i’r grŵp i rym
Er mwyn diddymu grŵp TAW neu dynnu aelodau o grŵp sy’n bodoli eisoes
Ar gyfer pob aelod sy’n gadael y grŵp, bydd angen:
-
ei gyfeirnod cofrestru TAW atodol
-
ei statws ymgorffori, rhif a dyddiad ymgorffori (os yw’n berthnasol)
-
ei gyfanswm disgwyliedig o ran trosiant trethadwy a throsiant anhrethadwy — dylai hyn gynnwys cyflenwadau i gyd-aelodau o’r grŵp
-
i chi gadarnhau a yw unrhyw un o’r cwmnïau wedi gwneud cais am gofrestriad TAW, a rheswm pob cwmni dros adael y grŵp
-
i chi roi gwybod i ni a yw’n berchen ar unrhyw asedion cyfalaf sy’n destun y Cynllun Nwyddau Cyfalaf o pan ddaw’r newid i’r grŵp i rym
-
ei statws esemptio
-
manylion unrhyw daliadau a wnaed neu a gafwyd am gyflenwadau sydd i’w dosbarthu ar ôl iddo adael y grŵp
-
i chi roi gwybod i ni a yw’n disgwyl i dreth fewnbwn gael ei chodi arno, ar ôl gadael y grŵp, mewn perthynas â chyflenwadau a wnaed pan oedd yn dal i fod yn aelod
Pwy all ddiwygio grŵp TAW
Mae’n rhaid i’r ffurflen VAT50/51 gael ei chyflwyno gan unigolyn sydd ag awdurdod ac wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau, fel un o’r canlynol:
- cyfarwyddwr y cwmni
- ysgrifennydd y cwmni
- rheolydd y grŵp
Os yw’r ffurflen yn cael ei chyflwyno gan gyflogai, gan gyfrifydd neu gan asiant, mae’n rhaid i chi ddarparu ffurflen VAT53 (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i chwblhau hefyd.
Diwygio grŵp TAW ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Os ydych yn asiant, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch ID Defnyddiwr a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif gwasanaethau asiant, neu greu cyfrif gwasanaethau asiantau (yn agor tudalen Saesneg).
Os rydych yn ymarferwr ansolfedd, ni fyddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
-
Argraffwch hi, a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Dysgwch am gofrestru grwpiau ac isadrannau (yn agor tudalen Saesneg) ac am y ffurflenni y mae angen i chi eu defnyddio er mwyn gwneud cais.
Defnyddiwch ffurflen VAT56 er mwyn gwneud cais am gael newid yr aelod cynrychiadol ar gyfer grŵp TAW (yn agor tudalen Saesneg).
Defnyddiwch ffurflen VAT53 er mwyn awdurdodi asiant i ffurfio neu ddiwygio grŵp TAW (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
Added translation.
-
Information about who needs to submit form VAT50/51 has been added to the guidance, including information to confirm that if you're an employee, accountant or agent, you need to also provide a completed VAT53 form.
-
First published.