Skip to main content

Os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd

Printable version

1. Trosolwg

Os na allwch dalu’ch bil treth yn llawn, mae’n bosibl y gallwch drefnu cynllun talu er mwyn ei dalu fesul rhandaliad.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gwirio a yw cynllun talu yn fforddiadwy i chi. Os na allwch gytuno ar gynllun talu gyda nhw, byddant yn gofyn i chi dalu’r swm sy’n ddyledus gennych yn llawn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

2. Trefnu cynllun talu

Efallai y byddwch yn gallu trefnu cynllun talu i dalu’ch bil treth hwyr mewn rhandaliadau misol.

Er mwyn trefnu cynllun talu, bydd angen y canlynol arnoch:

  • y cyfeirnod perthnasol ar gyfer y dreth na allwch ei dalu, fel eich cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr - fel arfer gallwch gael hyn o unrhyw lythyrau y mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi’i anfon atoch
  • manylion eich cyfrif banc yn y DU — mae’n rhaid i chi fod wedi’ch awdurdodi i sefydlu Debyd Uniongyrchol
  • manylion ynghylch eich incwm a’ch gwariant, neu fanylion ynghylch eich incwm a’ch gwariant os mae arnoch dreth y cwmni

Os nad yw’ch bil yn hwyr ac rydych chi am wneud taliadau wythnosol neu fisol tuag at eich bil treth Hunanasesiad nesaf, efallai y byddwch yn gallu sefydlu Cynllun Talu Cyllidebol yn lle hynny.

Sefydlu cynllun talu ar-lein

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio a ydych chi’n gymwys, ac i sefydlu cynllun talu ar-lein.

Dechrau nawr

Os na allwch drefnu cynllun talu ar-lein

Bydd angen i chi roi gwybod am y canlynol i CThEF:

  • a allwch dalu’n llawn
  • faint y gallwch ei ad-dalu bob mis
  • a oes unrhyw drethi eraill y mae angen i chi eu talu
  • faint o arian rydych yn ei ennill
  • faint yr ydych yn ei wario fel arfer bob mis
  • pa gynilion neu fuddsoddiadau sydd gennych

Cysylltu â CThEF i sefydlu cynllun talu.

Os oes gennych gynilion neu asedion, bydd CThEF yn disgwyl i chi ddefnyddio’r rhain i ostwng eich dyled cymaint â phosibl.

Os ydych wedi cael cyngor annibynnol ar ddyledion, er enghraifft, oddi wrth y ganolfan Cyngor ar Bopeth, efallai bod gennych ‘Ddatganiad Ariannol Safonol’. Bydd CThEF yn derbyn hyn fel tystiolaeth o’r hyn rydych yn ei ennill a’i wario bob mis.

Os yw’ch cwmni mewn dyled treth

Bydd CThEF yn gofyn i chi sut y byddwch yn talu’ch bil treth cyn gynted ag y gallwch. Bydd yn gofyn cwestiynau am eich cynnig er mwyn sicrhau ei fod yn realistig ac yn fforddiadwy.

Mae’n rhaid i chi ostwng eich dyled cymaint â phosibl cyn trefnu cynllun talu. Gallwch wneud hyn drwy ryddhau asedion fel stoc, cerbydau a chyfranddaliadau.

Efallai y bydd CThEF yn gofyn i gyfarwyddwyr y cwmni wneud y canlynol:

  • rhoi arian personol yn y busnes
  • derbyn benthyciadau
  • ymestyn credyd

3. Faint y byddwch yn ei dalu

Bydd y swm y gofynnir i chi ei dalu bob mis yn seiliedig ar faint o arian sydd gennych dros ben ar ôl i chi dalu unrhyw rent, biliau bwyd neu gyfleustodau a chostau sefydlog sydd gennych, fel tanysgrifiadau.

Fel arfer, bydd gofyn i chi dalu tua hanner yr hyn sydd gennych dros ben bob mis tuag at y dreth sydd arnoch.

Gallwch hefyd gytuno i dalu mwy na hyn os hoffech wneud hynny. Mae talu’ch dyled yn gynt yn golygu y byddwch yn talu llai yn y pen draw oherwydd y byddwch yn talu llai o log.

Os ydych yn cael pensiwn, bydd CThEF yn cyfrif hwnnw fel incwm, ond ni fyddant yn cyfrif y swm yn eich cronfa bensiwn fel cynilion.

Am faint mae’ch cynllun talu yn para

Nid oes terfyn amser ar ba mor hir y gall cynllun talu bara. Bydd yn dibynnu ar y swm sydd arnoch a faint y gallwch fforddio ei dalu bob mis.

Dylech gysylltu â CThEF os bydd unrhyw beth yn newid a allai effeithio ar eich cynllun talu. Gallwch ymestyn neu gwtogi’r cynllun talu.

Os bydd CThEF yn cael gwybod bod eich amgylchiadau wedi newid, efallai y byddant yn cysylltu â chi i drafod newid eich ad-daliadau.

Os byddwch yn methu taliad

Bydd CThEF yn cysylltu â chi i gael gwybod pam. Lle bo’n bosibl, byddant yn ceisio aildrefnu neu ailnegodi’r cynllun talu gyda chi.

Os na allwch dalu bil treth arall, cysylltwch â CThEF. Efallai y byddwch yn gallu cynnwys y bil treth newydd yn eich trefniant Amser i Dalu.

4. Os na fyddwch yn cysylltu â CThEF neu os byddwch yn gwrthod talu

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) bob amser yn ceisio cysylltu â chi os byddwch yn methu taliad treth. Gall hyn gynnwys anfon llythyrau a negeseuon testun atoch, ac ymweld â chi gartref neu yn y gwaith.

Os na fyddwch yn cysylltu â CThEF, neu os na allwch gytuno ar gynllun rhandaliadau, efallai y bydd CThEF yn:

Ychwanegir unrhyw gostau, fel costau ocsiwn, at eich dyled fel arfer. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi cyn cymryd y camau hyn ac yn esbonio’ch hawliau, y costau a’r opsiynau sydd ar gael i chi.

Gweler rhagor o wybodaeth am y camau gweithredu y gall CThEF eu cymryd i adennill y dreth.

5. Help a chyngor

Os ydych yng Nghymru neu Loegr, gall Helpwr Arian roi rhagor o wybodaeth i chi am reoli dyledion a lle i gael cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn yr Alban, gallwch gael cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim gan Scotland Debt Solutions.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim gan Advice NI.

Gwneud cwyn

Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad Cyllid a Thollau EF (CThEF), ond gallwch wneud cwyn os ydych yn anfodlon ar sut y cawsoch eich trin.