Mynd â nwyddau masnachol allan o Brydain Fawr yn eich bagiau
Dysgwch am yr hyn y mae angen i chi ei wneud wrth allforio nwyddau masnachol allan o Brydain Fawr yn eich bagiau sy’n dod gyda chi neu gerbyd bach.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Mae nwyddau masnachol yn eich bagiau sy’n dod gyda chi, a elwir hefyd yn nwyddau mewn bagiau (‘merchandise in baggage’), yn nwyddau rydych yn bwriadu eu gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes pan fo’r canlynol yn wir:
- nid yw cwmni cludo masnachol yn cludo’r nwyddau i chi, neu nid ydych yn talu’r cwmni i’w cludo ar eich rhan
- rydych wedi teithio o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr, yr Alban) yn cludo nwyddau yn y naill neu’r llall o’r canlynol:
- eich bagiau
- cerbyd bach nad yw’n cario mwy na 9 o bobl ac sy’n pwyso 3.5 tunnell neu’n llai
Mae’n rhaid i chi ddatgan pob un nwydd masnachol. Nid oes lwfansau di-doll ar nwyddau rydych yn mynd â nhw er mwyn eu gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd yn rhaid i chi, neu rywun sy’n ymdrin â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg), wneud y canlynol:
-
Cael rhif EORI.
-
Datgan y nwyddau i CThEF.
Mae ffordd wahanol o ddatgan y canlynol:
Sut i ddatgan
Os byddwch yn mynd â nwyddau masnachol allan o Brydain Fawr, mae’n rhaid i chi wneud un o’r canlynol:
- datganiad allforio llawn
- datganiad ar-lein syml
- datganiad drwy ymddygiad
Mae gennych 5 diwrnod i ddatgan y nwyddau cyn i chi adael Prydain Fawr os byddwch yn gwneud datganiad ar-lein syml.
Nid oes angen i chi wneud datganiad diogelwch (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer allforio nwyddau mewn bagiau.
Gwneud datganiad allforio
Nid yw gwneud datganiad allforio wrth adael Prydain Fawr yn eich eithrio chi rhag gofynion o ran datganiadau tollau gwlad arall.
Dylech wirio’r gofynion o ran tollau ar gyfer y wlad rydych yn teithio iddi oherwydd gall y rhain fod yn wahanol i ofynion y DU.
Cyflwyno datganiad allforio llawn cyn gadael Prydain Fawr
Mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad allforio llawn (yn agor tudalen Saesneg) cyn i chi adael Prydain Fawr os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’ch nwyddau’n werth mwy na £2,500
-
mae’ch nwyddau’n pwyso mwy na chyfanswm o 1,000kg
-
mae’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau — er enghraifft, nwyddau sydd angen trwydded
-
alcohol, tybaco neu danwydd (nwyddau ecséis) yw’ch nwyddau
Mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad allforio llawn os yw’ch nwyddau’n cael eu gosod o dan weithdrefn tollau arbennig (yn agor tudalen Saesneg), neu’n cael eu tynnu ohoni, neu os ydych yn bwriadu hawlio rhyddhad ar gyfer y nwyddau hyn.
Mae’n rhaid i chi hefyd gyflwyno datganiad allforio llawn os ydych yn hawlio rhyddhad TAW (yn agor tudalen Saesneg).
Defnyddiwch Dariff Ar-lein Integredig y DU (yn agor tudalen Saesneg) i wirio a yw’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau.
Os ydych yn gwneud datganiad allforio llawn, bydd yn rhaid i chi (neu rywun sy’n ymdrin â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg)) wneud y canlynol:
-
Cael rhif EORI.
-
Datgan y nwyddau i CThEF.
Mae angen i chi gyflwyno datganiadau allforio llawn gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Bydd angen i chi sicrhau bod gennych chi, neu’ch asiant, fynediad at y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.
Bydd angen meddalwedd arbenigol arnoch er mwyn gwneud datganiad allforio llawn drwy ddull electronig ar y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.
I gael mynediad at y Gwasanaeth Datganiadau Tollau, gwiriwch y rhestr o ddatblygwyr meddalwedd sy’n cyflenwi meddalwedd arbenigol (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch ddysgu rhagor am y broses datganiadau tollau llawn ar gyfer nwyddau mewn bagiau yng nghyfarwyddiadau llenwi’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r cyfarwyddiadau hefyd yn cynnwys yr amodau, cyfyngiadau, gofynion elfennau data a’r Codau Gweithdrefn Ychwanegol penodol.
Gwneud datganiad ar-lein syml
Os nad oes angen i chi wneud datganiad allforio llawn, gallwch wneud datganiad ar-lein syml (yn agor tudalen Saesneg) yn ystod y 5 diwrnod cyn i chi adael gyda’ch nwyddau masnachol.
Gallwch wneud datganiad syml drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer datgan nwyddau mewn bagiau os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’ch nwyddau’n gadael Prydain Fawr
-
mae’ch nwyddau’n werth llai na £2,500
-
mae’ch nwyddau’n pwyso llai na chyfanswm o 1,000kg
-
nid yw’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau — er enghraifft, nwyddau sydd angen trwydded
-
nid alcohol, tybaco neu danwydd (nwyddau ecséis) yw’ch nwyddau
Ni allwch wneud datganiad ar-lein syml os yw’ch nwyddau’n cael eu gosod o dan weithdrefn tollau arbennig (yn agor tudalen Saesneg), neu’n cael eu tynnu ohoni, neu os ydych yn bwriadu hawlio rhyddhad ar gyfer y nwyddau hyn.
Defnyddiwch Dariff Ar-lein Integredig y DU (yn agor tudalen Saesneg) i ddod o hyd i nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau.
Yr hyn y mae datgan ar-lein yn eich caniatáu i wneud
Bydd datgan ar-lein yn eich caniatáu i wneud y canlynol:
-
mynd drwy’r sianel werdd, a elwir hefyd yn ‘dim byd i’w ddatgan’
-
ychwanegu nwyddau at ddatganiad rydych eisoes wedi’i wneud, cyn belled â bo’r canlynol yn wir:
- mae’r holl nwyddau’n werth llai na £2,500
- mae’r holl nwyddau’n pwyso llai na chyfanswm o 1,000kg
- nid yw’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau — er enghraifft, nwyddau sydd angen trwydded
- nid alcohol, tybaco neu danwydd (nwyddau ecséis) yw’ch nwyddau
Defnyddiwch Dariff Ar-lein Integredig y DU (yn agor tudalen Saesneg) i wirio a yw’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau.
Gwnewch ddatganiad ar-lein syml cyn gadael Prydain Fawr.
Gwneud datganiad drwy ymddygiad
Gallwch wneud datganiad drwy ymddygiad pan fyddwch yn gadael Prydain Fawr os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’ch nwyddau’n werth llai na £2,500
-
mae’ch nwyddau’n pwyso llai na chyfanswm o 1,000kg
-
nid yw’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau — er enghraifft, nwyddau sydd angen trwydded
-
nid alcohol, tybaco neu danwydd (nwyddau ecséis) yw’ch nwyddau
Ni allwch wneud datganiad drwy ymddygiad os yw’ch nwyddau’n cael eu gosod o dan weithdrefn tollau arbennig (yn agor tudalen Saesneg), neu’n cael eu tynnu ohoni, neu os ydych yn bwriadu hawlio rhyddhad ar gyfer y nwyddau hyn.
I wneud y datganiad, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cerdded drwy fan rheoli tollau (gall hyn fod yn sianel werdd, ‘dim byd i’w ddatgan’) gyda’r nwyddau, os ydych yn unigolyn ar droed
- gyrru (neu rywun yn eich gyrru) heibio man rheoli tollau gyda’r nwyddau yn eich cerbyd, os ydych yn teithio mewn cerbyd
- parhau â’ch taith, os nad oes unrhyw fannau rheoli tollau yno
Dylech wneud datganiad ar-lein syml yn hytrach na datganiad drwy ymddygiad os oes angen tystiolaeth o allforio arnoch.
Symud nwyddau masnachol yn eich bagiau sy’n dod gyda chi o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon
Nid oes angen i chi wneud datganiad pan fydd eich nwyddau’n gadael Prydain Fawr, ond bydd angen i chi wneud datganiad yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg). Mae CThEF wedi darparu Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. Gallwch wneud datganiadau gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn am nwyddau o unrhyw werth neu natur.
Dysgwch ragor am sut y gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr i wneud datganiadau am nwyddau mewn bagiau ar wefan Academi Tollau a Masnach Gogledd Iwerddon.
Updates to this page
-
Information about Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) system has been removed.
-
The threshold of the maximum value for making simplified declarations of merchandise in baggage has risen to £2,500.
-
Welsh translation added.
-
This has been updated because declarations of merchandise in baggage exports should now be made using the Customs Declaration Service.
-
Definition of ‘declaration by conduct’ added.
-
A Welsh Language version of the page has been added.
-
Information about what you’ll need to do when you leave Great Britain from 1 July 2021 has been added.
-
Welsh translation added.
-
Guidance about making a simple online declaration has been updated.
-
Date for when you will need to submit a full-customs export declaration to HMRC has been added.
-
The date from when you will need to submit a safety and security declaration to HMRC if you are carrying your goods in a goods vehicle, has been updated to 1 January 2022. The previous date of 1 July 2022 was published in error.
-
The date from when you will need to submit a safety and security declaration to HMRC if you are carrying your goods in a goods vehicle, has been updated to 1 July 2022.
-
Information about submitting a safety and security declaration to HMRC, if you are carrying your goods in a goods vehicle has been added.
-
First published.