Tracy Nash

Bywgraffiad
Ymunodd Tracy â DVLA yn 2005 a chafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Sicrwydd ym mis Awst 2022, ar ôl cyflawni’r rôl dros dro ers mis Medi 2020.
Addysg
Mae Tracy yn Gymrawd Cyfrifydd Siartredig gyda Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW) ac mae ganddi radd BSc (Anrh) mewn Mathemateg Bur o Brifysgol Abertawe.
Gyrfa
Dechreuodd Tracy ei gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil yn DVLA yn 2005 ac mae wedi adeiladu ei phrofiad o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyllid a Sicrwydd (FAS).
Cyn dod yn Gyfarwyddwr FAS, gwasanaethodd Tracy fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, lle arweiniodd nifer o dimau cyllid a chefnogi mentrau sefydliadol sylweddol, gan gynnwys cyflwyno Debyd Uniongyrchol a mewnoli’r swyddogaeth Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth.
Cyn ymuno â DVLA, gweithiodd Tracy i PricewaterhouseCoopers yn y swyddogaeth sicrwydd, gan arwain gwaith archwilio ar draws ystod o sectorau.
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Sicrwydd
Mae’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Sicrwydd yn darparu arweinyddiaeth ariannol ar lefelau strategol a gweithredol. Mae’n cefnogi’r sefydliad ehangach ac yn sicrhau bod DVLA yn cynnal llywodraethu cryf, rheoli risg effeithiol, a rheolaeth ariannol gadarn.
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Cyfarwyddwr Cyllid Interim