Taliad Tanwydd Gaeaf
Gwirio a oes angen i chi wneud cais
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.
Nid oes angen i chi wneud cais os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Gweini
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- dyfarniadau gan y Cynllun Pensiwn Rhyfel
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
- Budd-dal Analluogrwydd
- Budd-dal Marwolaeth Diwydiannol
Os nad ydych yn cael unrhyw un o’r rhain, mae angen i chi wneud cais os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- nid ydych chi wedi cael y Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen
- rydych chi wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth ers eich Taliad Tanwydd Gaeaf diwethaf
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf:
- drwy’r post - o 21 Medi 2026
- dros y ffôn - o 19 Hydref 2026
Dyddiad cau er mwyn gwneud cais ar gyfer gaeaf 2026 i 2027 yw 31 Mawrth 2027.
Gwneud cais drwy’r post
Cwblhewch ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf a’i anfon i’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf.
Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR
Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad ar eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.