Skip to main content

Cofrestru cerbyd

Sgipio cynnwys

Trosolwg

Rhaid ichi gofrestru car neu unrhyw gerbyd arall cyn gynted ag y byddwch:

  • wedi’i brynu

  • wedi’i adeiladu

  • wedi’i fewnforio

Rhaid ichi gofrestru car pan rydych yn ei fewnforio, hyd yn oed os yw wedi cael ei gofrestru yn y DU o’r blaen ac yna wedi’i allforio.

Rydych yn gwneud hyn drwy lenwi ffurflenni a’u hanfon i DVLA. Mae’r ffurflenni y mae’n rhaid ichi eu hanfon yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Bydd hefyd angen ichi fodloni’r holl rwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer gyrwyr cyn ichi allu gyrru.

Efallai y bydd angen i DVLA archwilio’ch cerbyd i gadarnhau ac egluro’r wybodaeth rydych wedi’i darparu. Mae hyn yn eu helpu i:

  • sicrhau bod y cerbyd yn bodoli, wedi’i gydosod yn gerbyd cyflawn a bod llyfr log y cerbyd (V5CW) yn eich enw

  • cadarnhau hunaniaeth y cerbyd

  • diweddaru eu cofnodion oherwydd newidiadau rydych wedi’u gwneud i’r cerbyd

Byddant yn anfon llythyr atoch os oes angen iddynt wneud hyn. Ni fydd angen ichi dalu ffi.

Defnyddiwch y cynlluniau cofrestru gwahanol ar gyfer y fasnach foduron os ydych yn wneuthurwr cerbydau, yn fewnforiwr neu’n fasnachwr sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW.