Gwneud cais i hawlio ad-daliad neu ddileu toll fewnforio, neu i adhawlio cymorth gwladwriaethol a ddefnyddiwyd ar nwyddau ‘mewn perygl’ a ddygwyd i Ogledd Iwerddon
Gwiriwch a allwch wneud cais am ad-daliad neu ddileu toll fewnforio’r UE a dalwyd, neu adhawlio cymorth gwladwriaethol a ddefnyddiwyd (a elwir hefyd yn ‘ailgyflenwi cymorth gwladwriaethol’) ar nwyddau a ddygwyd i Ogledd Iwerddon, drwy’r Cynllun Ad-dalu Tollau.
Os ydych wedi symud nwyddau ‘mewn perygl’ i Ogledd Iwerddon, efallai y gallwch ddefnyddio’r Cynllun Ad-dalu Tollau i:
-
hawlio ad-daliad o doll fewnforio a dalwyd
-
hawlio dileu toll fewnforio a ohiriwyd
-
adhawlio cymorth gwladwriaethol a ddefnyddiwyd i hepgor toll fewnforio drwy’r Customs Duty Waiver Scheme (a elwir hefyd yn ‘ailgyflenwi cymorth gwladwriaethol’)
Pryd y gallwch hawlio
Gallwch wneud cais am doll yr UE a dalwyd, a hepgorwyd neu a ohiriwyd ar nwyddau a ddygwyd i Ogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021 ymlaen.
Bydd angen i chi hawlio:
-
erbyn 30 Mehefin 2026, os ydych wedi talu treth rhwng 1 Ionawr 2021 a 30 Mehefin 2023
-
cyn pen 3 blynedd ar ôl cael eich hysbysu o’r doll, os cawsoch eich hysbysu ar ôl 30 Mehefin 2023
Os ydych yn adhawlio cymorth gwladwriaethol a ddefnyddiwyd i hepgor toll, dylech wneud cais cyn gynted ag y bydd y dystiolaeth ategol ar gael. Peidiwch ag aros nes bod eich lwfans hepgor wedi’i defnyddio’n llawn cyn gwneud cais.
Yr hyn y gallwch ei hawlio
Gallwch wneud cais ar gyfer symudiad sengl neu symudiadau lluosog os ydych yn bodloni’r ddau amod canlynol:
-
eich bod wedi talu, hepgor neu ohirio toll fewnforio’r UE ar nwyddau a ddygwyd gennych i Ogledd Iwerddon
-
bod gennych dystiolaeth bod eich nwyddau wedi bodloni’r amodau i fod yn gymwys ar gyfer ad-daliad neu ddileu
Efallai y byddwch yn gymwys i adhawlio cymorth gwladwriaethol a ddefnyddiwyd i hepgor toll fewnforio drwy’r Cynllun Ildio Toll Dramor os yw’r nwyddau y defnyddiwyd yr hepgorid ar eu cyfer wedyn yn:
-
aros yng Ngogledd Iwerddon
-
symud ymlaen i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr, a’r Alban)
-
gael eu hallforio i wlad y tu allan i’r DU a’r UE
Faint y gallwch ei hawlio
Ar gyfer toll a dalwyd, a hepgorwyd neu a ohiriwyd ar:
-
symudiadau nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gallwch hawlio’r swm llawn
-
mewnforion i Ogledd Iwerddon o wlad y tu allan i’r DU neu’r UE, os oedd toll yr UE yn fwy na tholl y DU ar adeg y mewnforio, gallwch hawlio’r gwahaniaeth rhwng y 2 yfradd
Gallwch gyflwyno cais am ran o’r doll fewnforio a dalwyd, a ohiriwyd neu a hepgorwyd ar gonsiniad o nwyddau ‘mewn perygl’. Er enghraifft, os byddwch yn symud consiniad o 100 o nwyddau ‘mewn perygl’ i Ogledd Iwerddon ac mae 50 o’r nwyddau hynny yn bodloni’r amodau, gallwch hawlio’r doll a godwyd ar y 50 nwyddau hynny.
Pwy all hawlio
Gallwch hawlio os ydych yn un o’r canlynol:
-
mewnforiwr y symudiad gwreiddiol o nwyddau ‘mewn perygl’ i Ogledd Iwerddon
-
asiant neu gynrychiolydd sy’n gweithredu ar ran y mewnforiwr
Os nad ydych yn preswylio nac wedi’ch sefydlu yn y DU, mae’n rhaid i chi gael asiant neu gynrychiolydd sydd wedi’i sefydlu yn y DU i gyflwyno’r cais ar eich rhan.
Mae’n rhaid i’r mewnforiwr eich awdurdodi os ydych yn gwneud cais ar ei ran (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn i chi hawlio
Mae’n rhaid i chi ddarparu digon o dystiolaeth i ddangos bod y nwyddau rydych yn hawlio amdanynt yn bodloni un o’r amodau canlynol, ar yr amod nad yw’r nwyddau hynny wedi cael eu symud i’r UE yn gyntaf:
-
gwerthiant manwerthu ffisegol, neu nwyddau y bwriedir eu gwerthu drwy werthiant manwerthu ffisegol yng Ngogledd Iwerddon
-
symudiad ymlaen o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr
-
allforio o Ogledd Iwerddon i leoliad y tu allan i’r DU neu’r UE
-
defnydd terfynol yng Ngogledd Iwerddon
-
gosodiad parhaol yng Ngogledd Iwerddon
-
dinistrio yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r adrannau canlynol yn rhoi rhagor o fanylion am yr amodau hyn, gan gynnwys enghreifftiau o dystiolaeth y gallwch ei roi i ategu’ch cais. Mae’r rhain yn enghreifftiol yn hytrach na chynhwysfawr. Bydd rhinweddau pob hawliad yn dibynnu ar ffeithiau’r achos a’r dystiolaeth a gyflwynir. Bydd hawliadau’n cael eu gwrthod os nad ydych yn rhoi digon o dystiolaeth i ddangos eu bod yn bodloni’r amodau.
Nwyddau i’w manwerthu yng Ngogledd Iwerddon
Gallwch hawlio ar gyfer nwyddau yr ydych wedi’u gwerthu neu y byddwch yn eu gwerthu i ddefnyddiwr yng Ngogledd Iwerddon, neu am nwyddau yr ydych wedi’u gwerthu i fusnes arall yng Ngogledd Iwerddon os gallwch brofi y bydd y nwyddau hynny yn cael eu gwerthu i ddefnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon yn y pen draw.
Os ydych yn gwerthu nwyddau yn uniongyrchol i ddefnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon, mae angen i chi roi tystiolaeth o’r gwerthiant i’r defnyddiwr, gallai hyn gynnwys:
-
anfoneb gwerthu neu dderbynneb gwerthu
-
y contract ar gyfer y gwerthiant
-
cofnodion stocrestr
-
cofnodion TAW
-
tystiolaeth o archebion cwsmeriaid a chadarnhad o’r cyflenwad terfynol yn unol â’r gorchymyn
Os ydych yn gwerthu’r nwyddau i fanwerthwr neu fusnes arall yng Ngogledd Iwerddon, dylech roi tystiolaeth o’r gwerthiant i’r manwerthwr neu’r busnes arall a thystiolaeth y bydd y nwyddau’n cael eu gwerthu yng Ngogledd Iwerddon wedi hynny. Gall hyn gynnwys:
-
yr anfoneb gwerthu neu’r dderbynneb gwerthu gan y busnes sy’n prynu’r nwyddau
-
dogfennau masnachol, fel anfoneb TAW (mae’n rhaid cynnwys lleoliad y derbynnydd)
-
cofnodion stocrestr
-
contract ar gyfer y gwerthiant — dogfen gyfreithiol rwymol sy’n cynnwys manylion y cyfnewid, telerau’r gwerthiant, disgrifiad cynnyrch clir ac yn sicrhau hawliau a rhwymedigaethau’r ddau barti yn ystod y trafodiad
Darllenwch yr adran ‘Tystiolaeth ychwanegol a allai fod yn ofynnol os yw’ch nwyddau’n destun mesurau amddiffyn masnach yr UE’ i wirio a oes angen i chi roi tystiolaeth ychwanegol.
Nwyddau sydd wedi eu symud o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr
Mae’n rhaid i’ch hawliad gynnwys dogfennau trafnidiaeth (megis nodyn llwyth ar y ffordd neu anfoneb cludo nwyddau) i ddangos eich bod wedi cludo nwyddau o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr.
Dylech ategu’ch hawliad gyda thystiolaeth ychwanegol, gan gynnwys:
-
anfoneb gwerthu (mae’n rhaid cynnwys lleoliad y derbynnydd)
-
dogfennau masnachol, fel anfoneb TAW (mae’n rhaid cynnwys lleoliad y derbynnydd)
-
tystiolaeth o archebion cwsmeriaid
-
rhestr bacio (mae’n rhaid cynnwys y cyrchfan)
-
data’r maniffest
-
bil llwytho
-
y datganiad allforio, os yw’n berthnasol
Dylech roi cymaint o wybodaeth ag sy’n angenrheidiol i ddangos bod y nwyddau sydd wedi’u symud i Brydain Fawr yr un nwyddau y codwyd tollau arnoch wrth fynd i mewn i Ogledd Iwerddon.
Er enghraifft, os symudoch nifer o’r un math o nwyddau i Brydain Fawr, mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod yn hawlio ad-daliad am y nwyddau penodol y gwnaethoch eu symud yn y lle cyntaf. Gall hyn gynnwys:
-
rhifau model neu gyfresol (neu ddynodwyr rhifiadol eraill)
-
tystysgrifau cydymffurfio
-
manylebau technegol
Darllenwch yr adran ‘Tystiolaeth ychwanegol a allai fod yn ofynnol os yw’ch nwyddau’n destun mesurau amddiffyn masnach yr UE’ i wirio a oes angen i chi roi tystiolaeth ychwanegol.
Nwyddau sydd wedi’u hallforio o Ogledd Iwerddon i leoliad y tu allan i’r DU neu’r UE
Mae’n rhaid i’ch hawliad gynnwys datganiad allforio a dylai gynnwys cyfeirnod symud (MRN). Dysgwch sut i wneud datganiad allforio llawn (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch ategu’ch hawliad gyda thystiolaeth ychwanegol, gan gynnwys:
-
anfoneb gwerthu (mae’n rhaid cynnwys lleoliad y derbynnydd)
-
dogfennau masnachol, fel anfoneb TAW (mae’n rhaid cynnwys lleoliad y derbynnydd)
-
tystiolaeth o archebion cwsmeriaid
-
rhestr bacio (mae’n rhaid cynnwys y cyrchfan)
-
dogfennau cludiant
-
data’r maniffesto
-
bil llwytho
Darllenwch yr adran ‘Tystiolaeth ychwanegol a allai fod yn ofynnol os yw’ch nwyddau’n destun mesurau amddiffyn masnach yr UE’ i wirio a oes angen i chi roi tystiolaeth ychwanegol.
Dylech roi cymaint o wybodaeth ag sy’n angenrheidiol i ddangos bod y nwyddau sydd wedi’u hallforio i leoliad y tu allan i’r DU neu’r UE, yr un nwyddau y codwyd tâl arnoch amdanynt wrth fynd i mewn i Ogledd Iwerddon.
Er enghraifft, os gwnaethoch allforio nwyddau i leoliad y tu allan i’r DU neu’r UE, mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod yn hawlio ad-daliad am y nwyddau penodol y gwnaethoch eu mewnforio i ddechrau. Gall hyn gynnwys:
-
rhifau model neu gyfresol (neu ddynodwyr rhifiadol eraill)
-
tystysgrifau cydymffurfio
-
manylebau technegol
Nwyddau a ddefnyddir yn derfynol yng Ngogledd Iwerddon
Mae’n rhaid i’ch cais gynnwys dogfennau masnachol neu gofnodion sy’n dangos tystiolaeth o ddefnydd gwirioneddol.
Gallwch ategu’ch cais gyda chofnodion stocrestr, gan ddangos bod nwyddau wedi’u defnyddio’n derfynol. Er enghraifft, gallai cofnod mewnol sy’n dangos bod sylwedd wedi’i ddefnyddio’n gyfan gwbl ategu hawliad am ad-daliad mewn perthynas â thollau a dalwyd ar symudiad o’r sylwedd hwnnw.
Nwyddau sydd wedi’u lleoli yn barhaol yng Ngogledd Iwerddon
Mae’n rhaid i’ch hawliad gynnwys dogfennau masnachol neu gofnodion sy’n dangos tystiolaeth bod y nwyddau wedi’u lleoli yn barhaol.
Gallwch ategu’ch hawliad gyda thystiolaeth ychwanegol, gan gynnwys:
-
cofnodion stocrestr
-
dogfennau masnachol (megis tystysgrifau cydymffurfio, rhifau modelau, manylebau technegol)
-
rhestr bacio
-
anfoneb gwerthiannau
Nwyddau sydd wedi’u dinistrio yng Ngogledd Iwerddon
Mae’n rhaid i’ch hawliad gynnwys tystysgrifau dinistrio swyddogol, fel cofnodion sy’n dangos bod cerbyd wedi’i sgrapio.
Gallwch ategu’ch hawliad gyda thystiolaeth arall, er enghraifft data masnachol ar stocrestr a delir gan eich busnes ar drin y nwyddau y gellir croesgyfeirio atynt gyda’ch cyfrifeg stocrestr.
Lle efallai y bydd angen tystiolaeth ychwanegol arnoch
Tystiolaeth ychwanegol a allai fod yn ofynnol os yw’ch nwyddau wedi’u prosesu
Os yw’ch nwyddau wedi’u prosesu yng Ngogledd Iwerddon ar ôl codi toll, mae’n bosibl y bydd angen i chi roi tystiolaeth ychwanegol.
Dylai’r dystiolaeth i ategu’ch hawliad, lle mae nwyddau wedi cael eu prosesu, ddangos bod mewnbynnau i brosesu yn cwrdd ag un o’r amodau ad-dalu yn y pen draw.
Gall hyn gynnwys tystiolaeth o’r mewnbynnau, prosesu a’r allbynnau, megis:
-
cofnodion masnachol (er enghraifft, biliau deunyddiau, cofnodion stoc neu gofnodion cynhyrchu)
-
anfonebau
-
datganiadau tollau
Er enghraifft:
-
Fe wnaethoch fewnforio cydrannau electronig i mewn i Ogledd Iwerddon a chodwyd tollau’r UE arnynt.
-
Yna, gosodwyd y cydrannau electronig mewn gliniaduron.
-
Yna, cafodd y gliniaduron eu hallforio i wlad y tu allan i’r UE neu’r DU.
Yn yr enghraifft hon, byddai angen i chi roi tystiolaeth sy’n dangos mai’r cydrannau electronig y codwyd tollau’r UE arnynt yw’r rhai a osodwyd ac a allforiwyd fel rhan o’r gliniaduron.
Tystiolaeth ychwanegol a allai fod yn ofynnol os yw’ch nwyddau’n destun mesurau amddiffyn masnach yr UE
Os ydych am hawlio ad-daliad neu am ddileu ar y sail eich bod wedi gwerthu eich nwyddau i fusnes sydd wedi’i leoli ym Mhrydain Fawr neu wlad y tu allan i’r UE ar ôl 30 Mehefin 2023, ond bod eich nwyddau yn destun mesurau amddiffyn masnach yr UE, bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
hysbysu’r prynwr
-
rhoi tystiolaeth o’r hysbysiad hwn pan fyddwch yn hawlio
Os ydych yn darparu anfoneb werthu fel tystiolaeth i gefnogi eich cais am ad-daliad neu ddileu, dylech gynnwys un o’r datganiadau canlynol ar eich anfoneb:
‘Mae cynhyrchion [nodwch y cod tollau] a gwmpesir gan yr anfoneb hon sy’n tarddu o [y gwlad gyda tarddiad anffafriol] yn destun, neu’n cynnwys nwyddau sy’n destun, mesurau amddiffyn masnach yn unol â rheoliad [nodwch reoliadau perthnasol sy’n gosod mesurau] ar adeg eu mewnforio yn yr UE.’
‘Mae cynhyrchion [nodwch y cod tollau] a gwmpesir gan yr anfoneb hon, wedi’u llwytho o [gwlad y llwyth gwreiddiol i NI neu GB], yn destun, neu’n cynnwys nwyddau sy’n destun, mesurau amddiffyn masnach yn unol â rheoliad [nodwch reoliadau perthnasol sy’n gosod mesurau] ar adeg eu mewnforio yn yr UE.’
Gwneud cais pan na allwch olrhain mewnforion ar sail un-i-un
Os na allwch ddarparu tystiolaeth uniongyrchol sy’n olrhain eich nwyddau o’r mewnforio i’w cyrchfan derfynol, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i wneud cais o dan y Cynllun Ad-dalu Tollau os ystyrir bod eich nwyddau’n gyfnewidiol.
Os yw eich nwyddau’n gyfnewidiol, gallwch hawlio ad-daliad am doll ‘mewn perygl’ a dalwyd ar nwyddau, cyn belled ag y gallwch ddangos bod nwyddau cyfatebol naill ai wedi aros yng Ngogledd Iwerddon, wedi’u symud i Brydain Fawr, neu wedi’u symud i wlad y tu allan i’r UE a’r DU.
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’r holl nwyddau fod â’r canlynol:
-
yr un cod nwyddau 8 digid
-
yr un ansawdd masnachol
-
y gallu i gael eu cyfnewid â’i gilydd
Yn ogystal, mae’n rhaid i chi sicrhau nad yw’r nwyddau’n:
-
yn amlwg wahanol i’w gilydd
-
yn wahanol mewn unrhyw ffordd a fyddai’n arwain cwsmeriaid i’w hystyried yn nodedig neu’n amnewidion annerbyniol i’w gilydd
-
wedi’u cymysgu â nwyddau a ddygwyd i mewn ‘nid mewn perygl’ neu o’r UE
Enghraifft
Rydych yn mewnforio llwyth A sy’n cynnwys 100 litr o hylif i Ogledd Iwerddon. Mae’r cyfan yn ‘mewn perygl’ ac rydych yn talu’r doll berthnasol sy’n gymwys yn yr UE.
Rydych yn mewnforio llwyth B sy’n cynnwys 100 litr ychwanegol i Ogledd Iwerddon. Mae’r cyfan yn ‘mewn perygl’ ac rydych yn talu’r doll berthnasol sy’n gymwys yn yr UE.
Rydych yn dal 200 litr mewn stoc gyffredinol gyda’i gilydd, felly ni allwch wahanu’r hylif na dilyn yn ôl pa un ddaeth o ba lwyth.
Rydych yn symud 100 litr o’r stoc gyffredinol i Brydain Fawr ac mae gennych dystiolaeth o hyn.
Ni allwch nodi o ba lwyth y daeth y 100 litr.
Rydych yn gwneud cais am ad-daliad ar gyfer llwyth A ar y sail bod eich nwyddau ‘mewn perygl’ wedi’u symud ymlaen i Brydain Fawr ac rydych yn darparu’r dystiolaeth, gan fodloni felly un o amodau’r ad-daliad.
Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos eich bod yn gymwys ar gyfer nwyddau cyfnewidiol.
Tystiolaeth bod gan y nwyddau’r un cod nwyddau 8 digid
Gallwch ddarparu datganiadau tollau, anfonebau masnachol neu restrau pacio sy’n dangos yr un cod nwyddau 8 digid ar gyfer pob swp. Gellir hefyd ddarparu dogfennau ategol megis argraffiadau o’r Tariff Masnach neu Ddyfarniad Tariff Uwch. Mae’r rhain yn cadarnhau bod y nwyddau wedi’u dosbarthu’n unfath o dan dariff y DU.
Tystiolaeth bod y nwyddau o’r un ansawdd masnachol
Gallwch ddarparu tystysgrifau dadansoddi, manylebau cynnyrch neu adroddiadau profion labordy sy’n dangos bod pob swp yn bodloni’r un safonau technegol a meini prawf perfformiad. Gellir cynnwys tystiolaeth ychwanegol, megis taflenni data cyflenwyr, tystysgrifau archwilio neu gofnodion derbyn cwsmeriaid, i gadarnhau nad oes gwahaniaeth mewn ansawdd masnachol.
Tystiolaeth y gellir cyfnewid y nwyddau neu eu bod yn gyfnewidiol
Gallwch ddarparu datganiadau cyflenwyr, contractau prynu neu gofnodion stoc sy’n cadarnhau y gellir defnyddio naill swp yn lle’r llall. Gellir darparu tystiolaeth ategol, megis data warws, cofnodion amnewid neu ohebiaeth â chwsmeriaid, i ddangos bod y nwyddau’n gyfnewidiol ar gyfer yr un diben masnachol a thechnegol.
Tystiolaeth nad yw’r nwyddau wedi’u cymysgu â nwyddau eraill a ddygwyd i mewn ‘heb fod mewn perygl’ neu a aeth i Ogledd Iwerddon â statws yr Undeb (UE)
Gallwch ddarparu tystiolaeth o wahanu corfforol neu electronig.
Gallai tystiolaeth o wahanu corfforol gynnwys:
-
dogfennau sy’n dangos lleoliadau storio ar wahân neu barthau warws wedi’u marcio
-
cofnodion stocrestr
-
gweithdrefnau a labelu sy’n gorfodi gwahanu
Os na allwch brofi gwahanu corfforol, yna gellir profi gwahanu electronig drwy gofnodion cyfrifyddu ac adroddiadau stoc sy’n gwahaniaethu’n glir rhwng nwyddau ‘mewn perygl’ ac unrhyw nwyddau a fewnforiwyd ‘heb fod mewn perygl’ neu a symudwyd i mewn o’r UE.
Os yw’n berthnasol, gallwch hefyd ddarparu tystiolaeth i ddangos mai nwyddau ‘mewn perygl’ yw’r unig fath o nwyddau yn eich stoc.
Gofynnir i chi esbonio pam rydych yn credu bod eich cais yn gymwys i ddefnyddio nwyddau cyfnewidiol wrth wneud eich cais.
Hawliadau ar gyfer symudiadau lluosog
Gallwch wneud hawliad ‘swmp’ (‘bulk’ claim) heb unrhyw gyfyngiadau, i gwmpasu symudiadau niferus o nwyddau a ddatganwyd yn flaenorol ‘mewn perygl’ o ddod i mewn i’r UE a bodloni’r amodau a nodir yn yr arweiniad hwn.
Yr unig eithriad yw yn achos nwyddau sy’n destun toll wrth-ddympio neu doll wrthbwyso’r UE.
Ar gyfer yr holl symudiadau sydd wedi’u cynnwys mewn hawliad swmp, mae’n rhaid i chi hawlio ar sail yr un cyflwr ad-dalu, fel manwerthu yng Ngogledd Iwerddon neu ddinistrio nwyddau yng Ngogledd Iwerddon.
Bydd angen i chi gael y dystiolaeth berthnasol sy’n ymwneud â phob symudiad unigol o nwyddau a gwmpesir mewn hawliad swmp.
Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwch am wneud hawliad swmp yn y senario canlynol:
-
Fe wnaethoch sawl symudiad o nwyddau ‘mewn perygl’ i mewn i Ogledd Iwerddon.
-
Cafodd yr holl nwyddau eu dinistrio yng Ngogledd Iwerddon.
Mewn hawliad ‘swmp’, gellir cynnwys nwyddau sy’n destun mesur amddiffyn masnach yr UE, gan gynnwys tollau diogelu ychwanegol (math treth A70 yn CDS).
Gellir cynnwys nwyddau sy’n destun tollau gwrth-ddympio’r UE (math o dreth A80 yn CDS) neu dollau gwrthbwyso (math o dreth A90 yn CDS) mewn hawliad ‘swmp’, ond dim ond pan fo cyfanswm y tollau (gan gynnwys tollau gwrth-ddympio a thollau gwrthbwyso) sy’n cael eu hawlio’n ôl drwy’r hawliad ‘swmp’ hwn yn £1,000 neu lai. Os ydych am hawlio mwy na £1,000 (a bod y cyfanswm yn cynnwys tollau gwrth-ddympio neu dollau gwrthbwyso), mae’n rhaid i chi gyflwyno hawliadau ‘swmp’ ar wahân, gyda phob hawliad ‘swmp’ wedi’i gyfyngu i £1,000 (gan gynnwys tollau gwrth-ddympio neu dollau gwrthbwyso).
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
I gyflwyno hawliad am ad-daliad, bydd angen y canlynol arnoch:
-
eich manylion cyswllt a’ch cyfeiriad
-
y cyfeirnod symud ar gyfer symudiadau sengl
-
rhif cyfeirnod symudiad arweiniol (dyma fydd y MRN cynharaf sy’n rhan o’r hawliad) ar gyfer symudiadau swmp
-
i gysylltu’r MRN cynharaf o fewn y cwmpas ar gyfer y cais cyntaf am nwyddau cyfnewidiol — ar gyfer hawliadau dilynol, defnyddiwch y MRN nesaf a pharhewch yn eu trefn
-
taenlen sy’n cynnwys manylion y cyfeirnodau symud ychwanegol (ar gyfer hawliadau swmp) — gallwch lawrlwytho un o’r templedi ar y ffurflen neu gyflwyno un eich hun
-
eich rhif EORI sy’n dechrau gyda GB neu XI
-
cofnod masnachol neu ddogfen fasnachol ar gyfer y nwyddau sy’n cael eu mewnforio
-
anfoneb fasnachol am y nwyddau sy’n cael eu mewnforio
-
swm y doll fewnforio a dalwyd i CThEF neu a ildiwyd
-
swm y doll y dylai fod wedi’i dalu i CThEF neu swm y cymorth gwladwriaethol y dylai fod wedi’i ddefnyddio
-
manylion y cyfrif banc
-
y dystiolaeth berthnasol i ategu’ch hawliad
Gwneud hawliad swmp
Os byddwch yn cyflwyno hawliad swmp, caniateir uchafswm o 250 MRN unigol mewn un hawliad.
I sicrhau bod eich hawliad swmp yn cael ei dderbyn:
- mae’n rhaid i chi gyflwyno hawliadau ar wahân ar gyfer gwahanol fathau o daliadau
- os ydych yn adhawlio cymorth gwladwriaethol, dim ond MRNs gyda dyddiadau derbyn yn yr un mis calendr â’i gilydd y mae’n rhaid i chi eu cynnwys
- os ydych yn cyflwyno hawliad am nwyddau sy’n destun tollau gwrth-ddympio’r UE neu dollau gwrthbwyso, ni ddylech hawlio am swm sy’n fwy na’r trothwy o £1,000
Os na chaiff eich hawliad swmp ei dderbyn, bydd angen i chi ei ailgyflwyno.
Hawlio ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau bod CThEF wedi cael y ffurflen. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys cyfeirnod unigryw.
Ar ôl i chi hawlio
Byddwch yn cael hysbysiad unwaith y bydd eich cais wedi’i gymeradwyo.
Os yw eich hawliad yn cael ei gymeradwyo:
-
byddwn yn anfon llythyr atoch i roi gwybod i chi
-
gall ofyn i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi eich hawliad
-
bydd yn ad-dalu’r doll drwy’r dull a ddewiswyd pan wnaethoch eich hawliad — ar gyfer hawliadau ad-daliad neu ildio
-
bydd yn diwygio balans eich cymorth gwladwriaethol — os ydych wedi adhawlio cymorth gwladwriaethol