Skip to main content
Canllawiau

Lawrlwytho ap CThEF

Lawrlwytho a chael mynediad at ap CThEF i reoli’ch manylion, trethi a budd-daliadau.

Cael yr ap

Gallwch lawrlwytho ap ar gyfer dyfeisiau Android neu iOS.

Get the HMRC App from the apple app store

Get the HMRC App from the google play store

Mewngofnodi i’r ap

Lawrlwythwch ac agorwch yr ap. Nodwch y manylion rydych yn eu defnyddio i fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu yn yr ap.

Yna, byddwch yn gallu mewngofnodi i’r ap gan ddefnyddio naill ai:

  • PIN 6 digid
  • ôl eich bys
  • dull adnabod wynebau

Defnyddio’r ap

Gallwch ddefnyddio’r ap i gael gwybodaeth am eich treth, eich Yswiriant Gwladol a’ch budd-daliadau.

Rheoli’ch gwybodaeth

Gallwch ddefnyddio’r ap i wneud y canlynol:

  • diweddaru eich enw neu’ch cyfeiriad
  • dewis y ffordd mae CThEF yn cysylltu â chi
  • dilyn trywydd y ffurflenni a’r llythyrau rydych wedi’u hanfon atom

Rheoli’ch trethi

Gallwch ddefnyddio’r ap i wirio’r canlynol:

  • eich cod treth
  • eich rhif Yswiriant Gwladol a’i gadw yn eich Google Wallet neu’ch Apple Wallet
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad a dysgu faint o dreth sydd arnoch
  • eich Crynodeb Treth Blynyddol a’ch hanes cyflogaeth
  • am fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol
  • a oes angen i chi roi gwybod am incwm ychwanegol o ail swydd, buddsoddiadau, neu am ased sy’n cael ei werthu neu ei drosglwyddo

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ap i wneud y canlynol:

  • gwneud taliadau a gosod nodynnau atgoffa er mwyn gwneud taliadau
  • rhoi gwybod i ni os nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach
  • amcangyfrif eich cyflog clir ar y cyfrifiannell dreth
  • gwneud cais am ad-daliad os ydych wedi talu gormod o dreth
  • i dalu am fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol

Rheoli’ch budd-daliadau

Gallwch ddefnyddio’r ap i wneud y canlynol:

  • gwirio crynodeb eich Pensiwn y Wladwriaeth
  • gwneud cais am Fudd-dal Plant a’i rheoli
  • gwirio’ch cymhwystra ar gyfer cael cyfrif Cymorth i Gynilo, gwneud cais amdano a’i reoli

Hygyrchedd yr ap

Mae ein datganiadau hygyrchedd yn esbonio sut mae’r ap yn gweithio gyda thechnolegau cynorthwyol:

Diogelu data yn yr ap

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall CThEF a sefydliadau eraill ddefnyddio’ch data pan fyddwch yn defnyddio Ap CThEF, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Ap CThEF.

Argraffu'r dudalen hon