Skip to main content
Cyfarwyddwr Anweithredol a Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg DVLA

Charmion Pears

Bywgraffiad

Penodwyd Charmion Pears yn Gyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg DVLA ym mis Chwefror 2024.

Addysg a chymwysterau

Mae Charmion wedi bod yn gyfrifydd siartredig gyda Chyfrifwyr Siartredig Awstralia a Seland Newydd (CAANZ) ers 29 mlynedd. Mae ganddi radd Baglor mewn Masnach (BCom) o Brifysgol Auckland, Seland Newydd.

Gyrfa

Mae Charmion wedi bod yn aelod anweithredol ers 14 mlynedd, gyda ffocws ar y sector cyhoeddus.

Ar hyn o bryd mae hi’n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol DVLA a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC), aelod annibynnol o Grŵp ARAC yr Adran Drafnidiaeth ac mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd yr ARAC yn yr Awdurdod Hedfan Sifil. Mae hi hefyd yn Aelod Annibynnol o’r ARAC yn yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Mae ei rolau anweithredol blaenorol yn cynnwys rolau llywodraeth ganolog eraill fel Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd yr ARAC yn y Comisiwn Ansawdd Gofal, a rolau llywodraeth leol fel Uwch Gyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol a Chadeirydd ARAC yn Cwmni Gwastraff Bryste, Aelod ARAC dros Bristol Holding Company a Chyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd ARAC yn Corserv Ltd.

Mae hi hefyd wedi gwneud gwaith anweithredol yn y sector gwirfoddol, gyda swyddi ymddiriedolaeth yn Blue Cross UK a Hosbis Demelza i Blant.

Roedd gyrfa weithredol Charmion yn cynnwys rolau arweinyddiaeth mewn cynllunio strategol ac arloesi o fewn y diwydiannau awyrenneg a gwasanaethau ariannol.

Mae Charmion yn dod â phrofiad sylweddol anweithredol ac ARAC yn y sector cyhoeddus i DVLA. Mae hyn yn caniatáu iddi rannu meysydd o arfer gorau a chyfleoedd ar gyfer gwelliant parhaus gyda DVLA.

Cyfarwyddwr Anweithredol

Mae’r Cyfarwyddwr Anweithredol yn darparu syniadau a chyngor o’i brofiad/phrofiad gyrfa ac o’i safbwynt fel dinesydd preifat.

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg DVLA

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg:

  • yn darparu arweinyddiaeth a sicrwydd annibynnol ar lywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol
  • yn gosod cyfarwyddyd y Pwyllgor yn unol â’i Gylch Gorchwyl
  • yn adrodd yn rheolaidd i’r bwrdd ar effeithiolrwydd y fframwaith rheoli a’r risgiau allweddol
  • yn ymgysylltu ag archwilwyr mewnol ac allanol
  • yn darparu sicrwydd ffurfiol blynyddol i’r Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys mewn perthynas â thwyll

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau