Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau.
Beth sydd ei angen arnoch
Gallwch wirio eich hun ar-lein gyda GOV.UK One Login os oes gennych un o’r mathau canlynol o ID llun:
- pasbort biometrig o unrhyw wlad
- trwydded yrru llun y DU (yn llawn neu dros dro)
- trwydded breswylio biometrig y DU (BRP)
- cerdyn preswylio biometrig y DU (BRC)
- trwydded gweithiwr trawsffiniol y DU (FWP)
Byddwch hefyd angen:
- eich cyfeiriad cyfredol, a’r flwyddyn y gwnaethoch symud i mewn
- i fewngofnodi neu greu GOV.UK One Login
Bydd eich hunaniaeth wedi’i gwirio yn gysylltiedig â’ch GOV.UK One Login. Os yw pobl eraill yn defnyddio’r un cyfeiriad e-bost â chi i gael mynediad GOV.UK One Login, bydd angen iddynt greu un eu hunain gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Dim ond unwaith y gellir defnyddio cyfeiriad e-bost i wirio hunaniaeth.
Beth yw pasbort biometrig
Mae gan basbortau biometrig symbol petryal bach ar y clawr blaen. Gallwch eu defnyddio i fynd trwy gatiau electronig mewn meysydd awyr a gorsafoedd trên rhyngwladol.
Mae holl basbortau’r DU a gyhoeddwyd ar ôl 2006 yn fiometrig.
Os yw eich ID â llun wedi dod i ben
Ni allwch ddefnyddio pasbort sydd wedi dod i ben i brofi eich hunaniaeth gyda’r ap GOV.UK One Login.
Gallwch ddefnyddio trwydded yrru sydd wedi dod i ben os yw wedi dod i ben yn ystod y 90 diwrnod diwethaf a bod y trwydded wedi’i chyhoeddi gan DVLA.
Gallwch ddefnyddio BRP, BRC neu FWP sydd wedi dod i ben os yw wedi dod i ben yn ystod y 18 mis diwethaf.
Sut i wirio os nad oes gennych y mathau hyn o ID gyda Llun
Defnyddiwch y gwasanaeth GOV.UK One Login hwn i ddarganfod sut y gallwch gwblhau gwiriad hunaniaeth.
Os ydych chi’n byw yn y DU, bydd y gwasanaeth yn rhoi gwybod i chi os gallwch gwblhau gwiriad:
- gyda manylion banc neu gymdeithas adeiladu - yna bydd angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol ac ateb rhai cwestiynau diogelwch
- yn bersonol yn Swyddfa’r Post
Ni allwch ddefnyddio dogfennau sydd wedi dod i ben os ydych chi’n cwblhau gwiriad gan ddefnyddio’r naill lwybr neu’r llall.
Darllenwch y canllawiau ar wirio eich hunaniaeth.
Gwiriwch argaeledd gwasanaeth a diweddariadau statws ar gyfer GOV.UK One Login.
Gallwch gysylltu â thîm GOV.UK One Login i gael cymorth, adrodd am broblem neu roi adborth.
Sut mae eich gwybodaeth yn cael ei storio a’i defnyddio
I ddarganfod sut mae’ch gwybodaeth yn cael ei storio a’i defnyddio pan fyddwch chi’n gwirio eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login, gwiriwch yr hysbysiad preifatrwydd GOV.UK One Login.
Ffyrdd eraill o gwblhau gwiriad hunaniaeth
Gallwch ofyn i Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA), fel cyfrifydd neu gyfreithiwr, wirio eich hunaniaeth ar eich rhan. Gelwir hyn hefyd yn asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau.
Bydd angen i chi ddarparu dogfennau adnabod addas.
Rhybudd twyll: peidiwch â gadael i eraill ddefnyddio eich hunaniaeth.
Peidiwch â gwerthu na rhoi eich hunaniaeth i alluogi pobl nad ydych yn ymddiried ynddynt i sefydlu neu redeg cwmni. Gall troseddwyr gymryd benthyciadau a dyledion eraill yn eich enw chi, a byddwch yn gyfrifol yn gyfreithiol.
Darllenwch gyngor gan AbilityNet ar sut i addasu’ch dyfais i gwrdd â’ch anghenion. Er enghraifft, newid lliw cefndir neu faint y testun.