Gwirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF
Cael gwybod pryd y gallwch ddisgwyl ymateb gan CThEF ynghylch ymholiad neu gais rydych wedi’i wneud.
Mae’r wybodaeth yn yr offeryn hwn yn cael ei diweddaru’n wythnosol.
Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn ar gyfer ymholiadau neu geisiadau rydych wedi’u gwneud ynghylch:
- Budd-dal Plant
- Cynllun y Diwydiant Adeiladu
- Treth Gorfforaeth
- TWE y Cyflogwr
- Treth Etifeddiant
- Treth Incwm
- Yswiriant Gwladol
- cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus
- Hunanasesiad (gan gynnwys Cyfeirnodau Unigryw y Trethdalwr (UTR))
- credydau treth
- TAW
Os ydych yn asiant, gallwch hefyd wirio pa mor hir y bydd yn cymryd i CThEF wneud y canlynol:
- prosesu cais am awdurdod i weithredu ar ran cleient
- diwygio eich manylion asiant
Os yw eich ymholiad yn ymwneud ag unrhyw beth arall, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.