Skip to main content

Lwfans Gweini

Sgipio cynnwys

Trosolwg

Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n ddigon difrifol fel bod angen rhywun arnoch i helpu i ofalu amdanoch.

Mae yna ffordd wahanol o wneud cais os ydych yn nesáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd bod gennych salwch sy’n cyfyngu ar fywyd).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) a fformat hawdd i’w ddarllen.

Mae’n cael ei dalu ar 2 gyfradd wahanol ac mae faint a gewch yn dibynnu ar lefel y gofal sydd ei angen arnoch oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd.

Gallech gael £76.70 neu £114.60 yr wythnos i helpu gyda chymorth personol os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

Nid yw’n cynnwys anghenion symudedd.

Gallech gael Credyd Pensiwn ychwanegol, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor os ydych yn cael Lwfans Gweini.

Nid oes rhaid i chi gael rhywun yn gofalu amdanoch er mwyn gwneud cais.

Os oes gennych ofalwr, efallai y gallent cael Lwfans Gofalwr os oes gennych anghenion gofal sylweddol.

Os ydych yn byw yn yr Alban

Bydd angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn yn lle Lwfans Gweini.

Os ydych chi’n symud o Gymru neu Loegr i’r Alban

Os ydych chi’n cael Lwfans Gweini ac yn symud o Gymru neu Loegr i’r Alban, rhaid i chi:

Rhaid i chi hefyd roi gwybod i’r DWP a gwneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn os ydych naill ai:

  • wedi gwneud cais am Lwfans Gweini ac rydych yn aros am benderfyniad
  • wedi herio penderfyniad a’n aros i glywed os ydyw wedi newid

Bydd eich Lwfans Gweini yn dod i ben 13 wythnos ar ôl i chi symud – gwnewch gais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn cyn gynted â phosibl ar ôl symud neu gallai eich taliadau gael eu heffeithio.

Os ydych yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr

Os ydych yn cael Taliad Anabledd Oedran Pensiwn, rhaid i chi:

Bydd Social Security Scotland yn dweud wrthych pryd y bydd eich Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn dod i ben.

Gwnewch gais am Lwfans Gweini cyn gynted ag y byddwch yn symud i Gymru neu Loegr. Os na wnewch hynny, gallai eich taliadau gael eu heffeithio.