Skip to main content

Hawlio lwfansau cyfalaf

Sgipio cynnwys

Ceir busnes

Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar geir rydych yn eu prynu ac yn eu defnyddio yn eich busnes. Mae hyn yn golygu y gallwch ddidynnu rhan o’r gwerth oddi wrth eich elw cyn i chi dalu treth.

Defnyddiwch lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’r hyn y gallwch ei hawlio.

Mae ffordd wahanol o gyfrifo’r hyn y gallwch ei hawlio os yw’r car yn gymwys ar gyfer y lwfans blwyddyn gyntaf o 100% - er enghraifft, os yw’n gar trydan neu’n gar heb allyriadau CO2.

Nid yw ceir yn gymwys ar gyfer:

  • lwfans buddsoddi blynyddol (AIA)
  • yr uwch-ddidyniad a’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50%
  • gwariant llawn a’r lwfans blwyddyn gyntaf o 50%
  • lwfans blwyddyn gyntaf o 40%

Unig fasnachwyr a phartneriaethau

Gallwch hawlio treuliau milltiroedd symlach ar gerbydau busnes yn lle hynny, os ydych yn un o’r canlynol:

  • unig fasnachwr
  • partneriaeth heb bartneriaid cwmni

Ni allwch hawlio treuliau milltiroedd symlach os ydych eisoes wedi hawlio am y cerbydau mewn ffordd arall.

Cyflogeion

Os ydych yn gyflogai, ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer ceir, beiciau modur na beiciau a ddefnyddir gennych ar gyfer y gwaith, ond mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio am filltiroedd busnes a chostau tanwydd.

Yr hyn sy’n cyfrif fel car

At ddiben lwfansau cyfalaf, mae car yn fath o gerbyd:

  • sy’n addas at ddefnydd preifat – mae hyn yn cynnwys cartrefi modur
  • y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio’n breifat
  • na chafodd ei adeiladu er mwyn cludo nwyddau

Yr hyn nad yw’n cyfrif fel car

Oherwydd nad ydynt yn cyfrif fel ceir, gallwch hawlio lwfans buddsoddi blynyddol a rhai lwfansau blwyddyn gyntaf ar y canlynol:

  • beiciau modur – ar wahân i’r rhai a brynwyd cyn 6 Ebrill 2009
  • lorïau, faniau a thryciau

Cyfraddau ar gyfer ceir

Gallwch hawlio un o’r canlynol:

  • gwerth llawn y car fel lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
  • 14% (neu 18% cyn Ebrill 2026) o werth y car bob blwyddyn (lwfansau prif ardrethi)
  • 6% o werth y car bob blwyddyn (lwfansau cyfradd arbennig)

Dysgwch ragor am gronfeydd lwfansau prif gyfradd a chyfradd arbennig (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r gyfradd y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar ba bryd y gwnaethoch brynu’r car a’i allyriadau CO2.

Gwiriwch allyriadau CO2 eich car (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r prif gyfraddau a’r cyfraddau arbennig yn gymwys o 1 Ebrill ar gyfer busnesau sy’n talu Treth Gorfforaeth, ac o 6 Ebrill ar gyfer busnesau sy’n talu Treth Incwm. Mae cyfradd y lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% yn gymwys o 1 Ebrill i bob busnes.

Ceir a brynwyd ers mis Ebrill 2021

Disgrifiad o’r car Yr hyn y gallwch ei hawlio
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 0g/km (neu mae’r car yn drydanol) Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Car trydan ail law Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 50g/km neu lai Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 50g/km Lwfansau cyfradd arbennig

Ceir a brynwyd rhwng mis Ebrill 2018 a mis Ebrill 2021

Disgrifiad o’r car Yr hyn y gallwch ei hawlio
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 50g/km neu lai (neu mae’r car yn drydanol) Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Car trydan ail law Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 110g/km neu lai Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 110g/km Lwfansau cyfradd arbennig

Ceir a brynwyd rhwng mis Ebrill 2015 a mis Ebrill 2018

Disgrifiad o’r car Yr hyn y gallwch ei hawlio
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 75g/km neu lai (neu mae’r car yn drydanol) Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Car trydan ail law Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 130g/km neu lai Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 130g/km Lwfansau cyfradd arbennig

Ceir a brynwyd rhwng mis Ebrill 2013 a mis Ebrill 2015

Disgrifiad o’r car Yr hyn y gallwch ei hawlio
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 95g/km neu lai (neu mae’r car yn drydanol) Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Car trydan ail law Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 130g/km neu lai Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 130g/km Lwfansau cyfradd arbennig

Ceir a brynwyd rhwng mis Ebrill 2009 a mis Ebrill 2013

Disgrifiad o’r car Yr hyn y gallwch ei hawlio
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 110g/km neu lai (neu mae’r car yn drydanol) Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 160g/km neu lai Lwfansau prif gyfradd
Car trydan ail law Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 160g/km Lwfansau cyfradd arbennig

Ceir a brynwyd cyn mis Ebrill 2009

Symudwch y balans o unrhyw geir a brynwyd cyn mis Ebrill 2009 i’ch cronfa lwfansau prif gyfradd wrth gyfrifo faint y gallwch ei hawlio.

Os nad oes gan eich car ffigur allyriadau:

  • defnyddiwch y gyfradd arbennig
  • defnyddiwch y brif gyfradd os cafodd ei gofrestru cyn 1 Mawrth 2001

Defnyddio ceir y tu allan i’ch busnes

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, a’ch bod hefyd yn defnyddio’ch car y tu allan i’ch busnes, cyfrifwch yr hyn y gallwch ei hawlio (yn agor tudalen Saesneg) yn seiliedig ar faint o ddefnydd busnes a wneir ohono.

Os yw’ch busnes yn darparu car ar gyfer cyflogai neu gyfarwyddwr, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar y gost gyfan. Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF fod y car yn fuddiant cwmni (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r unigolyn dan sylw yn ei ddefnyddio’n bersonol.