Gwirio’r lwfansau wedi’u diogelu ar eich cynilion pensiwn
Gwirio a diwygio diogelwch lwfans oes eich pensiwn.
Daeth diddymiad y lwfans oes i rym o 6 Ebrill 2024 ymlaen. Darllenwch gyfraddau blaenorol y lwfans oes safonol (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes gennych lwfans wedi’i ddiogelu, gallwch fewngofnodi i wirio eich amddiffyniad presennol. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Rhoi gwybod am newid i’ch pensiwn
Gall newidiadau i’ch pensiwn effeithio ar eich gallu i gadw’ch diogelwch unigol ar gyfer 2014 a 2016. Dylech roi gwybod i CThEF yn ysgrifenedig (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
mae swm y dadansoddiad o’ch pensiwn yn newid am ddiogelwch unigol 2014 neu 2016
-
mae angen i chi ychwanegu neu newid debyd pensiwn oherwydd eich bod yn cael hysbysiad rhyddhau o ganlyniad i orchymyn rhannu pensiwn — mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 60 diwrnod i’r debyd pensiwn
Os ydych wedi diogelu’ch cynilion pensiwn ar-lein, byddwch yn gallu newid pob diogelwch sydd gennych eich hun. Er enghraifft, os gwnaethoch gamgymeriadau gyda’r gwerthoedd pan wnaethoch y cais, neu os oes gennych ddebydau pensiwn sy’n effeithio ar y swm sy’n eich diogelu.
Mae angen i chi fewngofnodi i ddiwygio’ch diogelwch, a dewis yr opsiwn ‘pensiynau’. Bydd angen y manylion mewngofnodi a ddefnyddioch wrth wneud cais.
Os na wnaethoch ddiogelu’ch cynilion pensiwn ar-lein, dylech roi gwybod i CThEF yn ysgrifenedig am y newidiadau hyn. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi sut mae’n effeithio ar eich diogelwch.
Os ydych wedi colli diogelwch
Mae’n rhaid i chi fodloni amodau penodol er mwyn dibynnu ar eich diogelwch os oes gennych y canlynol:
- diogelwch uwch
- diogelwch penodol
- diogelwch penodol 2014
- diogelwch penodol 2016
Os nad ydych yn bodloni’r amodau hyn, mae’n bosib y gallwch golli’ch diogelwch (yn agor tudalen Saesneg) a bydd angen i chi roi gwybod i CThEF yn ysgrifenedig.
Gwneud cais am ddiogelwch ar ôl unioni’r pensiwn gwasanaeth cyhoeddus (a elwir hefyd yn McCloud)
Os oeddech yn aelod o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, yn dilyn unioni’r pensiynau gwasanaeth cyhoeddus, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am naill ai:
- diogelwch penodol 2016
- diogelwch unigol 2016
Os ydych o’r farn eich bod yn gymwys, bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF i wneud cais yn:
Gwasanaethau Cynlluniau Pensiwn
Cyllid a Thollau EF
HMRC
BX9 1ST
Mae’n rhaid i chi gynnwys:
- y math o ddiogelwch rydych yn gwneud cais amdano
- eich bod yn gwneud cais o ganlyniad i unioni’r pensiynau gwasanaeth cyhoeddus
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich manylion cyswllt
Unwaith y bydd eich llythyr yn dod i law, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am y camau nesaf, neu i ofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnom i brosesu eich cais.
Codi arian o’ch cynllun pensiwn
Os gwnaethoch wneud cais am lwfansau wedi’u diogelu drwy’r gwasanaeth ar-lein, bydd gennych 2 cyfeirnod. Y rhain yw eich:
- rhif hysbysu diogelwch
- cyfeirnod gweinyddwr y cynllun
Bydd angen i chi roi’r cyfeirnodau hyn i weinyddwr eich cynllun pan fyddwch yn penderfynu codi arian o’ch cynlluniau pensiwn, er mwyn dangos bod gennych lwfans wedi’i ddiogelu.
Dangosir eich rhif hysbysu diogelwch fel a ganlyn:
-
8 o gymeriadau gyda chymysgedd o ddigidau a llythrennau, er enghraifft A012345A ar gyfer diogelwch uwch, prif ddiogelwch, diogelwch penodol, diogelwch penodol 2014 a rhywfaint o ddiogelwch unigol 2014
-
IP14 wedi’i ddilyn gan 10 digid ac 1 llythyren ar gyfer diogelwch unigol 2014, er enghraifft IP141234567890A
-
FP16 wedi’i ddilyn gan 10 digid ac 1 llythyren ar gyfer diogelwch penodol 2016, er enghraifft FP161234567890A
-
IP16 wedi’i ddilyn gan 10 digid ac 1 llythyren ar gyfer diogelwch unigol 2016, er enghraifft IP161234567890B
Dangosir cyfeirnod gweinyddwr eich cynllun fel PSA wedi’i ddilyn gan 8 digid ac 1 llythyren.
Yn y mwyafrif o achosion, gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnodau hyn ar-lein, hyd yn oed os na wnaethoch gais ar-lein am lwfansau wedi’u ddiogelu.