Skip to main content
Canllawiau

Cysylltu â Chofrestrfa Tir EF

Cysylltwch â ni neu defnyddiwch ganllaw a fydd, efallai, yn ateb eich cwestiwn.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Canllawiau cyhoeddus: delio â thir ac eiddo

Cwsmeriaid busnes

Ymholiadau gan y cyfryngau

Cysylltu â ni

Defnyddiwch y ffurflen gysylltu os na allwch ddod o hyd i atebion ar-lein, i anfon neges atom neu i roi gwybod am wall. Dewiswch o gyfres o opsiynau i’n helpu i gyfeirio’ch ymholiad at y person cywir.

Mae ein tîm yn trin pob neges yn sensitif, ond sylwer na allwn dderbyn negeseuon wedi eu marcio’n breifat neu’n gyfrinachol.

Fforwm cymorth ar-lein

Defnyddiwch ein fforwm cymorth ar-lein i ofyn cwestiynau neu i ddod o hyd i atebion i ymholiadau cyffredinol. Gallwch chwilio am linyn sy’n ymdrin â’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani neu ddechrau un eich hun.

Sylwer: Er mwyn aros yn ddiogel, ni ddylech rannu unrhyw ddelweddau na ffeiliau sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif. Bydd y wybodaeth rydych yn ei rhannu ar y fforwm yn weladwy ar unwaith i bawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr Cofrestrfa Tir EF.

Ffôn

Ein horiau agor ar hyn o bryd yw dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc), 8am i 4.30pm. 8am i 9am yw adeg dawelaf ein gwasanaeth ffôn fel rheol

Canolfan Cymorth i Gwsmeriaid

Gwasanaeth Cymraeg 0300 006 0422

Gwasanaeth Saesneg 0300 006 0411

Cewch restr o ddewisiadau pan fyddwch yn ein ffonio. Dewiswch yr un priodol i siarad â rhywun i’ch helpu gyda’ch ymholiad.

Er mwyn cynnal gwasanaeth cwsmeriaid a safonau ansawdd, mae’n bosibl y byddwn yn recordio galwadau.

Sut rydym yn delio â’ch galwadau a’ch ymholiadau

Rydym yn trin pob cwsmer â chwrteisi a pharch ac rydym yn disgwyl i’n staff gael eu trin yn yr un modd. Gweler ein Safonau gwasanaeth cwsmeriaid am ragor o wybodaeth, a sut i roi canmoliaeth neu wneud cwyn.

Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data personol.

Amseroedd prosesu ceisiadau

Os hoffech gael gwybodaeth am ba mor hir y gallai gymryd i gwblhau eich cais, gallwch ddarllen ein tudalen amseroedd prosesu.

Cynnal a chadw wedi ei drefnu

Edrychwch ar yr amserlen ar gyfer cynnal a chadw wedi ei drefnu ar gyfer ein gwasanaethau ar-lein.

Gwneud cwyn

Os ydych yn anhapus â’ch profiad o Gofrestrfa Tir EF, gallwch wneud cwyn. Byddwn yn cymryd camau i gywiro pethau lle bynnag y gallwn.

Os ydych yn credu nad yw Cofrestrfa Tir EF wedi trin eich data personol yn unol â deddfwriaeth, gallwch wneud cwyn diogelu data.

Rhoi gwybod am wall ar y gofrestr, cynllun teitl neu ddogfen

Os ydych o’r farn bod camgymeriad ar gofrestr, cynllun teitl neu ddogfen arall, gallwch roi gwybod am wall . Byddwn yn ymchwilio i’r mater ac yn rhoi gwybod ichi sut gallwn ei gywiro.

Rhoi adborth

Os hoffech ddweud wrthym beth rydym yn ei wneud yn dda neu awgrymu sut gallwn wella, defnyddiwch ein ffurflen gysylltu. Rydym yn adolygu sylwadau i weld sut gallwn wella.

Argraffu'r dudalen hon