Bod yn gyfarwyddwr cwmni
Deall eich rôl fel cyfarwyddwr cwmni a'ch cyfrifoldebau i Dŷ'r Cwmnïau.
Fel cyfarwyddwr, chi sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am redeg y cwmni a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei hanfon atom ar amser.
Mae hyn yn cynnwys:
- y datganiad cadarnhau
- y cyfrifon blynyddol, hyd yn oed os ydynt yn segur
- unrhyw newid yn swyddogion eich cwmni (tudalen Saesneg) neu eu manylion personol
- newid i swyddfa gofrestredig eich cwmni
- rhandir cyfranddaliadau
- cofrestru taliadau (morgais)
- unrhyw newid i fanylion pobl â rheolaeth arwyddocaol (PrhA)
Efallai y bydd angen i chi gyflwyno ffurflen dreth cwmni i CthEF a thalu Treth Gorfforaeth) ar elw.
Gallwch gyflogi pobl eraill i reoli rhai o’r pethau hyn o ddydd i ddydd (er enghraifft, cyfrifydd) ond rydych yn dal yn gyfreithiol gyfrifol am gofnodion, cyfrifon a pherfformiad eich cwmni.
Pecyn cymorth cyfarwyddwyr
Os ydych chi’n ystyried [cofrestru eich cwmni]https://www.gov.uk/set-up-limited-company) a dod yn gyfarwyddwr, mae angen i chi ddeall bod y rôl hon yn dod gyda dyletswyddau a chyfrifoldebau y mae’n rhaid i chi eu hystyried wrth redeg eich cwmni.
Yn ogystal â rhedeg eich cwmni o ddydd i ddydd, bydd angen i chi ffeilio cyfrifon blynyddol a datganiad cadarnhau gyda Thŷ’r Cwmnïau bob blwyddyn, a hefyd rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i’ch cwmni pan fyddant yn digwydd. Dylech hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau yng nghyfraith cwmnïau’r DU.
Yn gyfnewid am fanteision atebolrwydd cyfyngedig, bydd gan unrhyw un sy’n dod yn gyfarwyddwr neu’n swyddog i gwmni rai o’u manylion ar gael i’r cyhoedd. Mae’n bwysig deall pa wybodaeth bersonol sydd ar gael i’r cyhoedd ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.
Mae gan Dŷ’r Cwmnïau amrywiaeth o adnoddau ar gael i’ch helpu i benderfynu a ddylech ymgorffori cwmni a sut i ddod yn gyfarwyddwr gwell. Dyma rai dolenni defnyddiol ac offer digidol i’ch helpu i ddeall mwy am rôl a chyfrifoldebau cyfarwyddwr cwmni.
Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn cymryd lle cyngor cyfreithiol annibynnol na chyngor proffesiynol arall.
Demos fideo ‘Sut i’
Mae’r rhain yn ganllawiau cyfarwyddiadol sy’n dangos i chi sut i ffeilio eich gwybodaeth am Dŷ’r Cwmnïau ar-lein.
Gwyliwch ein fideos ‘Sut i’ ar YouTube.
Negeseuon atgoffa dros e-bost
Cofrestrwch i gael negeseuon atgoffa e-bost gan Dŷ’r Cwmnïau. Mae’r gwasanaeth hwn yn dweud wrthych pryd y mae cyfrifon a datganiadau cadarnhau eich cwmni yn ddyledus drwy anfon e-bost atoch.
Mae’r gwasanaeth am ddim, a gallwch:
- dewis hyd at 4 o bobl i dderbyn nodyn atgoffa (gan gynnwys asiant)
- ffeilio’ch dogfen yn syth o ddolen o fewn y nodyn atgoffa
- derbyn negeseuon atgoffa yn fwy cyfleus
- osgoi cosbau ffeilio hwyr drwy ffeilio eich cyfrifon ar amser
Nid ydym bellach yn anfon negeseuon atgoffa papur drwy’r post. Mae dadansoddiad yn dangos bod negeseuon atgoffa e-bost yn fwy llwyddiannus na nodiadau atgoffa papur ac mae defnyddwyr yn fwy tebygol o ffeilio ar amser.
Cofrestru i gael diweddariadau e-bost
Cofrestrwch i gael diweddariadau e-bost a chael y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf gan Dŷ’r Cwmnïau. Gallwch danysgrifio i gael rhybuddion ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:
- newyddion diweddaraf
- Blog Tŷ’r Cwmnïau
- digwyddiadau
- diweddariadau deddfwriaethol
Mae dros 500,000 o bobl eisoes wedi cofrestru. Os byddwch yn newid eich meddwl, gallwch ddad-danysgrifio’n hawdd ar unrhyw adeg.
Nid yw hyn yr un fath â’n negeseuon atgoffa e-bost ar gyfer cyfrifon a datganiad cadarnhau.
Gweminarau
Mae ein gweminarau yn rhoi arweiniad cyflym a defnyddiol i chi ar ystod o bynciau, gan gynnwys:
- dechrau cwmni cyfyngedig
- cyfrifoldebau cyfarwyddwyr
- sut i gyflwyno cais llwyddiannus ar gyfer cwmni budd cymunedol (CIC)
Cofrestrwch ar gyfer ein gweminarau byw nesaf. Os wnaethoch chi fethu’r cyflwyniad byw, gallwch wylio recordiad o’n gweminarau diweddaraf.
Dyletswyddau cyffredinol cyfarwyddwr
Fel cyfarwyddwr, rhaid i chi gyflawni set o 7 o ddyletswyddau o dan Ddeddf Cwmnïau 2006. Mae’r rhain yn dal i fod yn berthnasol os:
- nad ydych yn weithgar yn eich rôl fel cyfarwyddwr
- rhywun arall yn dweud wrthych beth i’w wneud
- os ydych yn gweithredu fel cyfarwyddwr ond nad ydych wedi’u penodi’n ffurfiol
- rydych yn rheoli bwrdd o gyfarwyddwyr heb fod arno
Cyfansoddiad y cwmni
Rhaid i chi ddilyn cyfansoddiad y cwmni a’i erthyglau cymdeithasu. Rheolau ysgrifenedig yw’r rhain ynghylch rhedeg y cwmni, y cytunwyd arno gan yr aelodau, y cyfarwyddwyr ac ysgrifennydd y cwmni.
Mae’r cyfansoddiad yn nodi pa bwerau a roddir i chi fel cyfarwyddwr, a diben y pwerau hynny.
Hyrwyddo llwyddiant y cwmni
Rhaid i chi weithredu er lles gorau’r cwmni i hyrwyddo ei lwyddiant. Rhaid i chi ystyried:
- canlyniadau penderfyniadau, gan gynnwys y tymor hir
- buddiannau ei weithwyr
- angen i gefnogi perthynas fusnes â chyflenwyr, cwsmeriaid ac eraill
- effaith ei weithrediadau ar y gymuned a’r amgylchedd
- enw da’r cwmni am safonau uchel o ymddygiad busnes
- angen gweithredu’n deg i holl aelodau’r cwmni
Os bydd y cwmni’n mynd yn fethdalwr, bydd eich cyfrifoldebau fel cyfarwyddwr yn berthnasol i’r credydwyr, yn hytrach na’r cwmni. Credydwr yw unrhyw un mae’r cwmni arno arian iddo.
Barn annibynnol
Ni ddylech ganiatáu i bobl eraill reoli eich pwerau fel cyfarwyddwr. Gallwch dderbyn cyngor, ond rhaid i chi ddefnyddio eich barn annibynnol eich hun i wneud penderfyniadau terfynol.
Ymarfer gofal, sgil a diwydrwydd rhesymol
Rhaid i chi berfformio hyd eithaf eich gallu. Po fwyaf cymwys neu brofiadol ydych chi, po fwyaf yw’r safon a ddisgwylir gennych.
Rhaid i chi ddefnyddio unrhyw wybodaeth, sgil neu brofiad perthnasol sydd gennych (er enghraifft, os ydych yn gyfrifydd cymwysedig).
Osgoi gwrthdaro buddiannau
Rhaid i chi osgoi sefyllfaoedd lle gall eich teyrngarwch gael ei rannu. Dylech ystyried swyddi a buddiannau eich teulu, er mwyn osgoi gwrthdaro posibl.
Dylech ddweud wrth gyfarwyddwyr ac aelodau eraill am unrhyw wrthdaro buddiannau posibl, a dilyn unrhyw broses a nodir yn erthyglau cymdeithasu’r cwmni.
Mae’r ddyletswydd hon yn parhau i fod yn berthnasol os nad ydych yn gyfarwyddwr mwyach. Ni ddylech fanteisio ar unrhyw eiddo, gwybodaeth neu gyfle y daethoch yn ymwybodol ohono fel cyfarwyddwr.
Buddion trydydd parti
Rhaid i chi beidio â derbyn budd-daliadau gan drydydd parti sy’n cael eu cynnig i chi oherwydd eich bod yn gyfarwyddwr. Gallai hyn achosi gwrthdaro buddiannau.
Efallai y bydd y cwmni’n caniatáu i chi dderbyn budd-daliadau fel lletygarwch corfforaethol rhesymol, os yw’n glir nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau.
Diddordebau mewn trafodiad
Rhaid i chi ddweud wrth y cyfarwyddwyr a’r aelodau eraill os gallech elwa’n bersonol o drafodiad y mae’r cwmni’n ei wneud. Er enghraifft, os yw’r cwmni’n bwriadu ymrwymo i gontract gyda busnes sy’n eiddo i aelod o’ch teulu.
Dyletswyddau eraill
Mae dyletswyddau eraill y mae’n rhaid i chi eu cyflawni fel cyfarwyddwr cwmni yn cynnwys:
- dim camddefnyddio eiddo’r cwmni
- cymhwyso cyfrinachedd am faterion y cwmni
Cysylltwch â’ch cynghorydd proffesiynol neu gymdeithas fasnach i gael gwybod mwy.
Twyll yn cynnig arian i ddod yn gyfarwyddwr cwmni
Efallai y bydd recriwtwyr yn cynnig arian i chi i ddarparu eich manylion hunaniaeth a chael eich enwi fel cyfarwyddwr ar gyfer cwmni anhysbys.
Efallai y byddant yn defnyddio’ch hunaniaeth i guddio pwy sy’n rhedeg y cwmni mewn gwirionedd a gadael i chi gymryd y bai am weithgarwch troseddol. Efallai y byddant yn rhoi pwysau arnoch i lofnodi dogfennau ar unwaith neu ofyn i chi drosglwyddo arian trwy eich cyfrif banc.
Efallai y byddwch chi’n gweld hyn yn cael ei hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol neu’n cael neges WhatsApp neu e-bost gan ‘recriwtiwr’ anhysbys.
Os bydd rhywun yn cynnig arian i chi i fod yn gyfarwyddwr cwmni anhysbys
Peidiwch â rhoi eich manylion personol na llofnodi unrhyw beth. Rhowch wybod am y twyll i Adrodd Twyll ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Os ydych chi wedi cael eich penodi’n ffurfiol gan gwmni ac wedi derbyn rôl cyfarwyddwr, chi sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am redeg y cwmni.
Os byddwch yn dod yn gyfarwyddwr cwmni twyllodrus:
- efallai y byddwch yn atebol am wyngalchu arian, osgoi treth a masnachu twyllodrus
- gallech fod yn atebol am ddyledion y cwmni os bydd yn mynd yn fethdalwr
- efallai y cewch eich gwahardd rhag gweithredu fel cyfarwyddwr am hyd at 15 mlynedd
- gallai dirwyon neu gamau cyfreithiol ei gwneud hi’n anodd i chi gael benthyciadau neu gredyd
Os ydych eisoes wedi cofrestru fel cyfarwyddwr
Ymddiswyddwch o’r swydd. Efallai y bydd angen i chi ffeilio ffurflen fel terfynu penodiad (TM01 neu TM01c yn y Gymraeg). Cysylltwch â Thŷ’r Cwmnïau am gymorth gyda hyn. Cofnodwch eich ymdrechion i adael a gofynnwch am gyngor cyfreithiol annibynnol.