Ymchwil

Y ddyletswydd gymdeithasol-economaidd yng Nghymru a'r Alban: adroddiad ymchwil (2025)

Wedi ei gyhoeddi: 7 Awst 2025

Diweddarwyd diwethaf: 7 Awst 2025

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Scotland Alban
  • Wales Cymru

Crynodeb gweithredol

Dyma grynodeb gweithredol ein hadroddiad, 'Gwerthuso'r ddyletswydd gymdeithasol-economaidd yng Nghymru a'r Alban (2025)'.

Mae’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol (y Ddyletswydd) wedi’i datgan yn adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010:

‘Rhaid i awdurdod y mae’r adran hon yn gymwys iddo roi sylw dyladwy, wrth wneud penderfyniadau o natur strategol am y ffordd i arfer ei swyddogaethau, i’r dymunoldeb o’u harfer mewn ffordd sydd â’r bwriad o leihau anghydraddoldebau canlyniad sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.’

Mae’r Ddyletswydd yn golygu bod rhaid i gyrff cyhoeddus penodol ystyried sut byddai eu penderfyniadau strategol, fel y rheini ynghylch blaenoriaethau neu amcanion, yn gallu helpu i leihau anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae’n ceisio sicrhau gwell canlyniadau i’r rheini sy’n profi’r anfantais hon.

Fodd bynnag, nid oedd y Ddyletswydd wedi’i chychwyn ochr yn ochr ag adrannau eraill o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Roedd pwerau ychwanegol yn rhoi cymhwysedd i lywodraethau datganoledig Cymru a’r Alban i gyflwyno’r Ddyletswydd. Yn yr Alban, yr enw a roddwyd i’r Ddyletswydd oedd Dyletswydd yr Alban Decach a daeth i rym ar 1 Ebrill 2018 a daeth y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r corff sy’n rheoleiddio Dyletswydd yr Alban Decach a’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. 

Er mwyn cael mwy o ddealltwriaeth o’r ffordd y mae’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn cael ei defnyddio, roeddem wedi anfon holiaduron ar gyfer arolwg i’r holl gyrff sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd yr Alban Decach a’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Yn yr adroddiad hwn, yr enw a roddwn i’r cyrff hyn yw ‘deiliaid y ddyletswydd’. 

Deiliaid y Ddyletswydd yng Nghymru a’r Alban

Roeddem wedi anfon gwahoddiadau i gymryd rhan yn yr arolwg at 104 o ddeiliaid y ddyletswydd yn yr Alban a 39 yng Nghymru. Cawsom ymatebion i’r arolwg gan 35 o ddeiliaid y ddyletswydd yn yr Alban a 20 o ddeiliaid y ddyletswydd yng Nghymru. Roeddem wedi cynnal pum cyfweliad â deiliaid y ddyletswydd yn yr Alban, er mwyn cael dealltwriaeth manylach o’u profiadau.

Yn gyffredinol, roedd deiliaid y ddyletswydd yng Nghymru a’r Alban a wnaeth ymateb wedi dweud bod ganddynt ddealltwriaeth da o’r Ddyletswydd. Fodd bynnag, mae hyn yn fwy amlwg ymysg unigolion mewn sefydliadau sydd â rhan mewn gwneud penderfyniadau. Mewn rhai sefydliadau, ceir diffyg o hyd ar lefel uwch o ran ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Ddyletswydd a’r gefnogaeth iddi. 

Er eu bod wedi’u diffinio mewn canllawiau statudol, mae deiliaid y ddyletswydd yn cael o hyd fod termau allweddol yn y Ddyletswydd, fel ‘penderfyniad strategol’ a ‘sylw dyladwy’, yn rhai sy’n agored i ddehongli. Gallai hyn olygu bod y Ddyletswydd yn cael ei gweithredu mewn ffordd anghyson.

Yn yr Alban, mae dealltwriaeth da o ffyrdd i fynd i’r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol ac mae hyn yn cael ei brif ffrydio mewn ystyriaethau strategol. Er hynny, nid yw hyn yn arwain bob amser at ddeall a gweithredu’r Ddyletswydd ar draws y sefydliad. Yng Nghymru, mae’r Ddyletswydd wedi’i chyflwyno’n fwy diweddar ac roedd deiliaid y ddyletswydd a ymatebodd wedi rhoi gwybod am wahanol farnau ynghylch a yw eu sefydliad yn ei chael yn hawdd gweithredu’r Ddyletswydd.

Roedd proses, templed neu fframwaith gan y rhan fwyaf o’r sefydliadau ar gyfer gweithredu’r Ddyletswydd, a’r rhain yn aml yn cyfuno asesiadau ar gyfer nifer o ddyletswyddau. Fodd bynnag, roedd deiliaid y ddyletswydd yn pryderu am nifer y dyletswyddau sydd arnynt. Roeddent hefyd yn pryderu am y ffordd y mae’r dyletswyddau hyn yn gallu gorgyffwrdd neu gydasio â’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, sy’n gallu peri i’r Ddyletswydd fod yn llai effeithiol.

Roedd y rhan fwyaf o ddeiliaid y ddyletswydd a ymatebodd yn yr Alban yn teimlo bod eu sefydliad yn ymgysylltu’n dda ag unigolion a grwpiau sydd â phrofiad bywyd. Yn aml, roeddent wedi nodi bod hon yn elfen bwysig yn y Ddyletswydd. Roedd profiadau cymysg o ymgysylltu gan ddeiliaid y ddyletswydd a ymatebodd yng Nghymru. Roeddent wedi nodi bod ymgysylltu’n galw am ddefnyddio llawer o adnoddau gan ddeiliad y ddyletswydd. Roeddent hefyd wedi dweud bod diffyg cysylltiadau presennol neu’r heriau sy’n ymwneud â thrafod materion sensitif fel tlodi neu anfantais yn gallu gwneud ymgysylltu’n fwy anodd.

Teimlai rhai o ddeiliaid y ddyletswydd fod y Ddyletswydd yn darparu sail statudol dros ystyried anfantais economaidd-gymdeithasol. Er hynny, teimlai eraill mai mater heriol a goddrychol oedd priodoli llwyddiant i’r Ddyletswydd yn unig. Roedd hyn yn neilltuol o wir os oedd y sefydliad eisoes yn canolbwyntio’n strategol ar fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.

Roedd pwysau ariannol, neu ddiffyg capasiti ac adnoddau, yn ystyriaeth bwysig i ddeiliaid y ddyletswydd wrth weithredu’r Ddyletswydd. Roedd hyn yn golygu bod agweddau fel ymgysylltu â’r gymuned yn amhosibl weithiau, neu nad oedd modd gohirio penderfyniadau pan oedd effeithiau negyddol dichonol wedi’u nodi.

Roedd awydd cryf ymysg ymatebwyr yr arolwg am gael mwy o ganllawiau, hyfforddiant ac adnoddau i helpu deiliaid y ddyletswydd i wella eu dealltwriaeth o’r Ddyletswydd a hyrwyddo cydymffurfiaeth well. Roedd diddordeb neilltuol gan ddeiliaid y ddyletswydd mewn enghreifftiau o arfer da, astudiaethau achos a datblygu fframweithiau gyda deiliaid dyletswydd eraill. Roedd deiliaid y ddyletswydd wedi dweud hefyd fod angen mwy o fathau o ddata hygyrch, dibynadwy a thrwyadl am anfantais economaidd-gymdeithasol a’i chanlyniadau. 
 

Galluogwyr y Ddyletswydd

Roedd ein canfyddiadau’n dangos bod ffactorau a oedd yn rhoi’r gallu i weithredu a defnyddio’r Ddyletswydd yn effeithiol (galluogwyr). Roedd y rhain yn cynnwys:

  • hyfforddiant neu sesiynau ymwybyddiaeth gorfodol
  • ymgorffori’r Ddyletswydd mewn Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb neu brosesau eraill ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol
  • cael mynediad at rwydweithiau o gymheiriaid neu grwpiau lleol er mwyn cyfnewid gwybodaeth a rhannu gwersi a ddysgwyd
  • lle roedd mynd i’r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol yn flaenoriaeth hirsefydlog gan y sefydliad ac eisoes yn ganolog mewn ystyriaethau strategol
  • bod ag ymrwymiad sefydliadol i ymgysylltu â’r rheini sydd â phrofiad bywyd, a buddsoddi yn y maes hwn

Yn yr Alban, nodwyd mai un galluogydd pwysig oedd y cymorth a ddarparwyd drwy rôl y cydgysylltydd a ariannwyd gan Lywodraeth yr Alban yn y Gwasanaeth Gwella. Fodd bynnag, nid yw’r rôl hon yn cael ei hariannu bellach. 

Heriau sy'n gysylltiedig â'r Ddyletswydd

Roedd deiliaid y ddyletswydd wedi nodi heriau a wynebir wrth weithredu a defnyddio’r Ddyletswydd yn effeithiol. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • llai o adnoddau a phwysau ariannol eraill
  • diffyg dealltwriaeth neu ymwybyddiaeth o’r Ddyletswydd ar draws y sefydliad
  • sut mae geiriad y Ddyletswydd yn rhoi pwyslais ar broses a chydymffurfiaeth
  • diffyg ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chefnogaeth ar lefel uwch, wedi’i waethygu gan drosiant uchel ymysg staff uwch
  • diffyg eglurdeb ynghylch termau allweddol, fel ‘penderfyniad strategol’ a ‘sylw dyladwy’
  • gofynion mewn deddfwriaeth sy’n gorgyffwrdd a / neu’n cystadlu
  • anhawster wrth ymgysylltu â’r rheini sydd â phrofiad bywyd oherwydd diffyg sgiliau, cysylltiadau neu adnoddau neu’r heriau sy’n ymwneud â thrafod pynciau sensitif fel tlodi
  • diffyg canllawiau cryno, clir a fframwaith manwl ar gyfer adrodd
  • diffyg enghreifftiau neu hyfforddiant
  • anhawster wrth ddod o hyd i ddata ar anfantais economaidd-gymdeithasol heblaw’r Mynegai Amddifadedd Lluosog

Anghenion ychwanegol er mwyn gweithredu’r Ddyletswydd

Roedd deiliaid y ddyletswydd wedi nodi nifer o feysydd lle roedd arnynt angen mwy o gymorth neu adnoddau i weithredu’r Ddyletswydd yn effeithiol.
Roeddent wedi tynnu sylw at yr angen am hyfforddiant fel modiwlau e-ddysgu, gweminarau, hyfforddiant diweddaru, gwell hyfforddiant ar dlodi a gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol, a hyfforddiant ar sut i asesu effaith. 

Roedd galw hefyd am ganllawiau ar y canlynol:

  • termau allweddol
  • gweithredu’r Ddyletswydd yn lleol
  • gweithredu’r Ddyletswydd yn eu sector
  • sut i ymgysylltu â’r rheini sydd â phrofiad bywyd
  • dull cenedlaethol o weithredu i helpu i sicrhau cysondeb a dealltwriaeth

Teimlai deiliaid y ddyletswydd fod arnynt angen cael gweithdai neu fforymau, er mwyn iddynt allu dod i gysylltiad â deiliaid dyletswydd eraill i rannu gwybodaeth ac arferion effeithiol. 

Roeddent hefyd yn teimlo y byddai cael mwy o ddata a thystiolaeth ar gyfer asesiadau, ac enghreifftiau ac astudiaethau achos o arferion da, yn gallu eu helpu i weithredu’r Ddyletswydd yn effeithiol.

Cwmpas yr ymchwil

Mae’r canlyniadau yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar nifer bach o ddeiliaid y ddyletswydd yng Nghymru a’r Alban a ddewisodd gymryd rhan yn yr ymchwil. Mae’r ymchwil yn edrych ar farn y sefydliadau eu hunain am y graddau y maent yn cyflawni’r Ddyletswydd yn effeithiol ac am y rhwystrau i hynny. Mae’r canfyddiadau’n darparu’r mewnwelediadau diweddaraf i weithrediad y Ddyletswydd, y defnydd ohoni a’i heffeithiolrwydd canfyddedig yn y ddwy wlad.

Lawrlwythiadau dogfen

Footnotes

    Diweddariadau tudalennau

    Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon