Ymateb i'r ymgynghoriad
Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd): ein hymateb
Wedi ei gyhoeddi: 12 Mehefin 2025
Last reviewed: 12 Mehefin 2025
Diweddarwyd diwethaf: 12 Mehefin 2025
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- England Lloegr
- Scotland Alban
- Wales Cymru
Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain Fawr, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn cydnabod bod gweithwyr anabl a rhai gweithwyr lleiafrifoedd ethnig yn parhau i wynebu anfantais yn y farchnad lafur, gan brofi bylchau cyflog a chyflogaeth. Mae ein hymateb i ymgynghoriad llywodraeth y DU ar adrodd gorfodol ar fylchau cyflog ethnigrwydd ac anabledd yn cynnig ffyrdd o helpu cyflogwyr i gasglu data cynhwysfawr ac ystyrlon y gallant ei ddefnyddio i gymryd camau gweithredu.
Bydd creu amodau i gasglu'r wybodaeth hon yn cymryd amser. Bydd gweithwyr eisiau deall y rhesymau pam mae data'n cael ei gasglu, sut y caiff ei storio a sut y caiff ei ddefnyddio. Gallai casglu data ar ethnigrwydd ac anabledd gweithwyr arwain at feintiau samplau bach, yn enwedig pan gaiff data ei rannu'n wahanol grwpiau ethnig a mathau o nam. Bydd angen i gyflogwyr gymryd gofal i sicrhau na ellir adnabod unigolion a bod y data a gesglir yn ddibynadwy.
Rydym hefyd yn annog y llywodraeth i roi canllawiau i gyflogwyr i'w helpu i ddadansoddi a dehongli data o feintiau sampl bach. Bydd hyn yn eu helpu i gael y gorau o'r data y maent wedi'i gasglu. Rydym hefyd yn annog y llywodraeth i ddarparu canllawiau manwl ar sut i ddatblygu, gweithredu, monitro a gwerthuso cynllun gweithredu. Mae'n annhebygol y bydd adrodd ar gyflogau, heb gynlluniau gweithredu gorfodol, yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyflogwyr ac eraill i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y gweithle.
Dylai cynlluniau gweithredu hefyd gynnwys esboniad o'r ffigurau. Bydd hyn yn rhoi cyd-destun pwysig ar gyfer y rhesymau dros unrhyw fylchau cyflog, ac yn helpu cyflogwyr i benderfynu pa gamau fydd fwyaf defnyddiol i gau unrhyw fylchau.
Mae gan gyrff cyhoeddus Lloegr a chyrff cyhoeddus heb eu datganoli ddyletswydd ragweithiol i hyrwyddo cyfle cyfartal, dileu gwahaniaethu a meithrin cysylltiadau da. Rydym yn cytuno'n gryf y dylent hefyd orfod adrodd ar recriwtio, cadw a datblygu eu gweithwyr lleiafrifoedd ethnig ac anabl. Dylai llywodraeth y DU weithio gyda chymheiriaid datganoledig fel bod gan gyrff cyhoeddus Cymru a'r Alban ddyletswyddau tebyg. Byddai hyn yn sicrhau cysondeb i weithwyr a chyflogwyr ledled Prydain Fawr.
Mae gorfodi adrodd ar fylchau cyflog yn effeithiol yn allweddol i'w lwyddiant. Rydym yn cynnig bod corff arall yn goruchwylio'r rheoleiddio gweinyddol ynghylch a yw cyflogwr wedi adrodd a chynhyrchu cynllun gweithredu ai peidio. Byddai hyn yn ein gadael yn rhydd i gymryd camau gorfodi strategol ar yr achosion mwyaf difrifol o beidio ag adrodd.
Lawrlwythiadau dogfen
DOCX, 76.08 KB
Footnotes
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
12 Mehefin 2025
Last reviewed:
12 Mehefin 2025
Diweddarwyd diwethaf
12 Mehefin 2025