I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- England Lloegr
- Scotland Alban
- Wales Cymru
Pwrpas Deddf Cydraddoldeb 2010
- Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn ymwneud â gwahaniaethu, aflonyddu a fictimeiddio ar sail:
- oed
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- tueddiad rhywiol
Mae’r Ddeddf yn cyfeirio at y naw categori hwn fel ‘nodweddion a warchodir’.
- Un o bwrpasau pwysig y Ddeddf oedd uno’r gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth oedd eisoes wedi cael eu datblygu i wahardd gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth yn erbyn pobl gyda gwahanol nodweddion a warchodir, lle bo hynny’n briodol.
- Mae gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth yn y rhan fwyaf o feysydd gwasanaeth yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf, gyda rhai eithriadau. Mae’r meysydd gwasanaeth hyn yn cynnwys:
- cyflogaeth a meysydd gwaith eraill
- addysg
- tai
- darparu gwasanaethau
- wrth ymarfer swyddogaethau cyhoeddus
- aelodaeth o gymdeithasau
- Mae gwahanol feysydd gwasanaeth yn dod o dan rannau gwahanol o’r Ddeddf.
Mae Rhan 3 y Ddeddf yn delio gyda gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth wrth ddarparu gwasanaeth ac ymarfer swyddogaeth gyhoeddus.
Mae Rhan 4 yn delio gyda gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth wrth werthu, gosod, rheoli a meddiannu eiddo, gan gynnwys tai.
Mae Rhan 5 yn ymwneud â chyflogaeth a sefyllfaoedd gwaith eraill.
Mae Rhan 6 yn ymwneud ag addysg gan gynnwys ysgolion, addysg bellach ac uwch, a chyrff cymwysterau cyffredinol.
Mae Rhan 7 yn delio â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth gan gymdeithasau aelodaeth.
Gallai person fod â dyletswyddau o dan fwy nag un Rhan o’r Ddeddf, er enghraifft, drwy gyflogi pobl a darparu gwasanaeth i gwsmeriaid.
Statws y Cod
- Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (yr EHRC) wedi paratoi a chyhoeddi’r cod hwn (y ‘Cod’) ar sail ei bwerau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Mae’r Cod yn statudol. Mae hyn yn golygu ei fod wedi cael ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’i roi gerbron y Senedd yn ffurfiol.
- Nid yw’r Cod yn gorfodi rhwymedigaethau cyfreithiol. Nid yw ychwaith yn ddatganiad awdurdodol o’r gyfraith: dim ond y llysoedd a thribiwnlysoedd sydd â’r awdurdod hwn. Fodd bynnag, gellir defnyddio’r Cod fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol sy’n cael ei ddwyn o dan y Ddeddf. Rhaid i lysoedd a thribiwnlysoedd ystyried unrhyw ran o’r Cod sy’n ymddangos i fod yn berthnasol i unrhyw gwestiwn sy’n codi yn yr achosion hyn.
- Os yw rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau’n dilyn canllawiau’r Cod, gallai eu helpu i osgoi penderfyniad anffafriol gan lys mewn achos o’r fath.
Cwmpas y Cod
- Mae’r Cod hwn yn delio â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth wrth ddarparu gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus o dan Ran 3 y Ddeddf. Mae hefyd yn ymwneud â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth gan gymdeithasau, o dan Ran 7.
- Mae Rhan 3 y Ddeddf yn seiliedig ar yr egwyddor na ddylid gwahaniaethu yn erbyn, aflonyddu na fictimeiddio pobl gyda’r nodweddion a warchodir a ddisgrifir yn y Ddeddf wrth ddefnyddio unrhyw wasanaeth cyhoeddus na phreifat. Mae’n berthnasol p’un ai y telir am y gwasanaeth neu beidio. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y dylai darparwyr gwasanaeth drin pawb yr un fath. Mewn rhai amgylchiadau, bydd angen i ddarparwr gwasanaeth ddarparu gwasanaeth mewn ffordd wahanol i gwrdd ag anghenion pobl. Er enghraifft, mae’r rhannau o’r Ddeddf sy’n trafod gweithredu cadarnhaol, gwasanaethau ‘rhyw-sengl’ ac addasiadau rhesymol i bobl anabl yn darparu ar gyfer hyn. Mae’r Cod hwn yn egluro’r camau y dylai darparwyr gwasanaeth eu cymryd i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu, aflonyddu na’n erlid.
- Mae awdurdodau cyhoeddus sy’n cyflawni ‘swyddogaethau cyhoeddus’ hefyd yn dod o dan Ran 3 y Ddeddf ac mae’r Cod yn egluro eu dyletswydd i beidio â gwahaniaethu, aflonyddu nac erlid wrth eu cyflawni. Mae’r un darpariaethau yn y Ddeddf hefyd yn berthnasol i sefydliadau eraill yn y sectorau preifat neu wirfoddol wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Diffinnir ‘swyddogaethau cyhoeddus’ yn ôl diffiniadau Deddf Hawliau Dynol 1998 fel rhai a gyflawnir yn aml dan bŵer neu ddyletswydd statudol, fel plismona, trwyddedu neu benderfynu’r fframwaith ar gyfer hawlio budd-daliadau.
- Mae’r Cod hwn hefyd yn berthnasol i gymdeithasau aelodaeth wrth ddarparu gwasanaeth neu fanteision eraill, fel rheol i’w haelodau, aelodau cyswllt neu westeion. Disgrifir y darpariaethau ar gyfer cymdeithasau yn Rhan 7 y Ddeddf. O dan y Ddeddf, cymdeithasau yw cyrff gydag o leiaf 25 o aelodau, meini prawf aelodaeth a phroses ar gyfer dethol aelodau. Dim ond cymdeithasau sy’n cwrdd â’r meini prawf hyn sydd wedi eu rhwymo o dan y rhan yma o’r Ddeddf. Bydd hyn yn cynnwys llawer o glybiau preifat a phleidiau gwleidyddol.
- Mae’r Cod hwn yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban (dylid darllen paragraffau 3.19 i 3.24 am fwy o wybodaeth am gwmpas tiriogaethol y Ddeddf).
Oed fel nodwedd a warchodir
- Ar gyfer gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus (Rhan 3 y Ddeddf), mae gwarchodaeth yn erbyn gwahaniaethu a aflonyddu ar sail oed wedi’i gyfyngu i rai 18+ oed. Ar gyfer cymdeithasau (Rhan 7 y Ddeddf), mae’r warchodaeth yn berthnasol i unigolion o bob oed. Mae yna hefyd nifer o eithriadau sy’n berthnasol (paragraffau 13.297 i 13.352).
Priodas a phartneriaeth sifil
- Nid yw’r Ddeddf yn gwarchod yn erbyn gwahaniaethu ar sail priodas a phartneriaeth sifil yn y meysydd y mae’r Cod hwn yn berthnasol iddynt (Rhannau 3 a 7 y Ddeddf). Nid yw’r Cod hwn felly’n cynnwys gwahaniaethu ar sail y nodwedd a warchodir yma wrth ddarparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gan gymdeithasau.
Pwrpas y Cod
- Prif bwrpas y Cod hwn yw rhoi eglurhad manwl o’r Ddeddf. Bydd hyn yn cynorthwyo’r llysoedd i ddehongli’r gyfraith ac yn helpu cyfreithwyr, cynghorwyr ac eraill sydd angen defnyddio’r gyfraith a deall ei manylion technegol.
- Mae’r EHRC hefyd wedi cynhyrchu canllawiau ymarferol i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, cymdeithasau ac aelodau o’r cyhoedd gan ragdybio dim gwybodaeth am y gyfraith. Gallent fod yn fwy defnyddiol a hygyrch i bobl sydd angen cyflwyniad i’r Ddeddf. Mae’r canllawiau i’w cael ar wefan yr EHRC.
- Bydd y Cod hwn, ynghyd â’r canllawiau ymarferol a gynhyrchwyd gan yr EHRC:
- yn helpu rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau aelodaeth i ddeall eu cyfrifoldebau a helpu i osgoi cwynion a hawliadau gwahaniaethu
- yn helpu aelodau o’r cyhoedd i ddeall y gyfraith a beth i’w wneud os ydynt yn credu eu bod wedi dioddef gwahaniaethu, aflonyddu neu erlid
- yn helpu cyfreithwyr a chynghorwyr eraill i gynghori eu cleientiaid
- yn rhoi arweiniad i’r llysoedd ar faterion a ddyfeisiwyd i sicrhau neu hwyluso cydymffurfio â’r Ddeddf
Hawliau Dynol
- Mae gan awdurdodau cyhoeddus ddyletswydd o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (HRA) i beidio ag ymddwyn yn anghyson â hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Warchod Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol (y Confensiwn) (adran 6 Deddf Hawliau Dynol 1998). Y swyddogaethau cyhoeddus sy’n dod o dan y Cod hwn yw rhai o natur gyhoeddus yn ôl diffiniad y HRA.
- Mae Erthygl 14 y Confensiwn yn gwahardd gwahaniaethu wrth fwynhau hawliau’r Confensiwn. Felly, os yw awdurdod cyhoeddus neu unrhyw gorff arall yn gwahaniaethu mewn ffordd sy’n groes i’r Ddeddf Cydraddoldeb wrth gyflawni swyddogaeth gyhoeddus, lle bo’n berthnasol i un o hawliau’r Confensiwn, gallai hefyd fod yn torri’r Confensiwn. Yn yr un modd, gallai gwahaniaethu o dan Erthygl 14 hefyd fod yn torri’r Ddeddf Cydraddoldeb os yw’n seiliedig ar nodwedd a warchodir o dan y Ddeddf.
- Mae gan lysoedd a thribiwnlysoedd ddyletswydd i ddehongli deddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010) ac is-ddeddfwriaeth mewn ffordd sy’n gyson â hawliau’r Confensiwn, oni bai ei bod yn amhosib gwneud hynny (adran 3 Deddf Hawliau Dynol 1998). Mae’r ddyletswydd yn berthnasol i unrhyw hawliad sy’n cael ei ddwyn o dan y Ddeddf, p’un ai yn erbyn awdurdod cyhoeddus neu beidio, a hyd yn oed os yw’r achos yn ymwneud â rhywbeth heblaw ymarfer swyddogaeth gyhoeddus. Mae hynny’n golygu, gydag unrhyw hawliad gwahaniaethu sy’n cael ei ddwyn o dan y Ddeddf, bod yn rhaid i’r llys neu dribiwnlys sicrhau ei fod yn dehongli’r Ddeddf yn gyson â hawliau’r Confensiwn, lle bo’n bosib.
- Oherwydd y berthynas agos rhwng hawliau dynol a chydraddoldeb, mae’n arfer da i ymarferwyr swyddogaethau cyhoeddus ystyried cydraddoldeb a hawliau dynol gyda’i gilydd wrth lunio polisïau cydraddoldeb neu hawliau dynol.
Darparwyr gwasanaeth mawr a bach
- Er bod gan bob darparwr gwasanaeth yr un dyletswyddau cyfreithiol o dan Ran 3 y Ddeddf, gallai’r ffordd y gweithredir y dyletswyddau hyn fod yn wahanol. Gall darparwyr gwasanaeth mawr a bach gydymffurfio â’u dyletswyddau mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, gallai fod gan ddarparwyr gwasanaeth bach arferion mwy anffurfiol, llai o bolisïau ysgrifenedig a bod wedi eu cyfyngu mwy gan adnoddau ariannol. Fodd bynnag nid yw’r un darparwr wedi’i eithrio o ddyletswyddau Rhan 3 oherwydd maint.
Sut i ddefnyddio’r Cod
- Mae Pennod 1 (y bennod hon) yn cyflwyno’r Cod.
Mae Pennod 2 yn egluro’r nodweddion a warchodir sef oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a thueddiad rhywiol. Nid yw’r Cod hwn yn berthnasol i’r nodwedd priodas a phartneriaeth sifil.
Mae Pennod 3 yn egluro pwy sydd â rhwymedigaethau o dan Rannau 3 a 7 y Ddeddf. Mae’n egluro bod rhai gwasanaethau, fel cyflogaeth, yn dod o dan rannau eraill o’r Ddeddf ac wedi eu cynnwys mewn gwahanol Godau Ymarfer Statudol.
Mae Pennod 4 yn egluro gwahaniaethu uniongyrchol, gan gynnwys arwahanu (ar sail hil). Mae hefyd yn egluro pryd y mae’n anghyfreithlon trin merch yn anffafriol oherwydd ei beichiogrwydd a mamolaeth.
Mae Pennod 5 yn egluro gwahaniaethu anuniongyrchol.
Mae Pennod 6 yn egluro gwahaniaethu ar sail anabledd.
Mae Pennod 7 yn egluro’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys y ddyletswydd i newid darpariaeth, maen prawf neu arfer; y ddyletswydd i ddarparu cymhorthion neu wasanaethau ategol; a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i nodweddion ffisegol.
Mae Pennod 8 yn egluro’r tri math o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol.
Mae Pennod 9 yn egluro gweithredoedd anghyfreithlon eraill, sef fictimeiddio a chyfarwyddo, achosi, cymell neu gynorthwyo gwahaniaethu.
Mae Pennod 10 yn egluro’r darpariaethau gweithredu cadarnhaol o dan Rannau 3 a 7 y Ddeddf. Mae’n egluro’r mesurau y mae’r Ddeddf yn caniatáu i sefydliadau eu cymryd a allai olygu trin grwpiau’n wahanol i gywiro anfantais, cwrdd ag anghenion gwahanol, neu wella cyfranogiad isel.
Mae Pennod 11 yn egluro darpariaethau Rhan 3 ar gyfer gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus. Mae’n egluro beth y mae ‘gwasanaeth’ a ‘swyddogaeth gyhoeddus’ yn ei feddwl a beth y mae gwahaniaethu (neu ymddygiad arall wedi’i wahardd) yn edrych fel yn ymarferol. Mae hefyd yn disgrifio’r gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus nad ydy Rhan 3 yn berthnasol iddynt.
Mae Pennod 12 yn egluro Rhan 7 y Ddeddf sy’n cyflwyno rhwymedigaethau i gymdeithasau. Mae’n egluro beth yw ystyr cymdeithas aelodaeth ac yn disgrifio pryd y gall cymdeithas gyfyngu ei haelodaeth yn gyfreithlon i rai sy’n rhannu nodwedd benodol. Mae’n cynnwys y darpariaethau ar gyfer pleidiau gwleidyddol.
Mae Pennod 13 yn egluro’r eithriadau sy’n caniatáu ymddygiad mewn rhai amgylchiadau prin a fyddai, fel arall, yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf.
Mae Pennod 14 yn delio â gorfodaeth y llysoedd sifil o Rannau 3 a 7.
Mae’r Atodiad yn cynnwys mwy o wybodaeth am ystyr anabledd yn y Ddeddf.
Enghreifftiau yn y Cod
- Rhoddir enghreifftiau o arfer da, cyfraith achosion a sut y mae’r Ddeddf yn debygol o weithio mewn gwahanol sefyllfaoedd. Eu pwrpas yw dangos yr egwyddorion a’r cysyniadau a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth ac felly y dylid eu darllen. Mae’r enghreifftiau’n defnyddio gymaint o wahanol nodweddion a warchodir â phosib, mewn amryw o gyd-destunau’n ymwneud â gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau, i ddangos hyd a lled a chwmpas y Ddeddf.
Cyfeiriadau yn y Cod
- Yn y Cod hwn, mae ‘y Ddeddf’ yn golygu Deddf Cydraddoldeb 2010. Dangosir cyfeiriadau at adrannau ac atodlenni’r Ddeddf mewn cromfachau. Weithiau, cyfeirir at ddeddfwriaeth neu reoliadau eraill hefyd mewn cromfachau. Lle y gwneir hyn, mae teitl llawn y ddeddfwriaeth neu’r rheoliadau’n cael ei roi.
Cyfeiriadau at fathau o ‘wahaniaethu’
- O dan y Ddeddf (adran 25), ar gyfer pob nodwedd a warchodir heblaw am anabledd a beichiogrwydd a mamolaeth, mae ‘gwahaniaethu’ wrth ddarparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gan gymdeithasau’n golygu:
- gwahaniaethu uniongyrchol
- gwahaniaethu anuniongyrchol
- Ar gyfer y nodwedd a warchodir o anabledd, o dan y Ddeddf (adran 25, paragraff 2), mae ‘gwahaniaethu’ hefyd yn golygu:
- gwahaniaethu’n codi o anabledd
- methu â gwneud addasiad rhesymol
- Mae gwahaniaethu ar sail y nodwedd a warchodir o feichiogrwydd a mamolaeth yn cael ei ddiffinio ar wahân o dan y Ddeddf (adran 17).
- Trafodir y mathau hyn o wahaniaethu yn:
- Pennod 4 – Gwahaniaethu uniongyrchol
- Pennod 5 – Gwahaniaethu anuniongyrchol
- Pennod 6 – Gwahaniaethu’n codi o anabledd
- Pennod 7 – Pobl anabl: addasiadau rhesymol
- Yn y Cod hwn, oni nodir yn benodol fel arall, defnyddir y term ‘gwahaniaethu’ yn yr un ffordd ag yn y Ddeddf. Er enghraifft, byddai ‘gwahaniaethu hil’ yn cynnwys gwahaniaethu hil uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Newidiadau i’r gyfraith
- Mae’r Cod hwn yn cyfeirio at y darpariaethau yn y Ddeddf Cydraddoldeb sydd mewn grym pan gyhoeddir y Cod.
- Gallai fod newidiadau i’r Ddeddf o ran y meysydd sy’n dod o dan y Cod hwn. Gallai deddfwriaeth arall effeithio ar y dyletswyddau a eglurir yn y Cod.
- Gallai penderfyniadau’r llysoedd wrth gymhwyso a dehongli’r Ddeddf gadarnhau ystyr rhai darpariaethau.
- Bydd angen i ddarllenwyr y Cod hwn gadw ar y blaen i unrhyw ddatblygiadau sy’n effeithio ar ddarpariaethau’r Ddeddf a bod yn ymwybodol hefyd o’r codau statudol eraill a gyhoeddir gan yr EHRC. Rhoddir mwy o wybodaeth ar wefan yr EHRC.
Gwybodaeth bellach
- Gellir prynu copïau o’r Ddeddf a’i rheoliadau perthynol o Lyfrfa Ei Fawrhydi. Mae'r Ddeddf hefyd ar gael ar-lein. Mae codau ar wahân ar gyfer agweddau eraill ar y Ddeddf hefyd ar gael o Lyfrfa Ei Fawrhydi. Mae testun holl godau’r EHRC (gan gynnwys y Cod hwn) a’r canllawiau sy’n gysylltiedig â’r codau hefyd ar gael ar wefan yr EHRC.
- Gellir e-bostio cwestiynau, sylwadau neu wybodaeth am fformatau eraill at correspondence@equalityhumanrights.com.
Lawrlwythiadau dogfen
PDF, 1.69 MB, 342 pages
Footnotes
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
5 Awst 2026
Diweddarwyd diwethaf
5 Awst 2026