Arweiniad

Cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau: Pennod 6 – Gwahaniaethu’n codi o anabledd

Wedi ei gyhoeddi: 5 Awst 2026

Diweddarwyd diwethaf: 5 Awst 2026

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • England Lloegr
  • Scotland Alban
  • Wales Cymru

Rhagarweiniad

  1. Mae’r bennod hon yn y cod ymarfer (y Cod) yn egluro dyletswydd rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas i beidio â thrin pobl anabl yn anffafriol am reswm cysylltiedig ag anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) (adran 15). Dim ond i bobl anabl (adran 15) y mae gwarchodaeth ar gyfer y math yma o wahaniaethu a elwir yn ‘wahaniaethu’n codi o anabledd’ yn berthnasol. 

Gwahaniaethu’n codi o anabledd

Beth y mae’r Ddeddf yn ei ddweud 

  1. Yn ôl y Ddeddf, mae trin person anabl yn gyfystyr â gwahaniaethu’n codi o anabledd os bodlonir pob un o’r tri amod canlynol (adran 15).

 

  1. Mae’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn trin y person anabl yn anffafriol.
  2. Mae’r driniaeth yma oherwydd rhywbeth sy’n codi o ganlyniad i anabledd y person anabl.
  3. Ni ellir dangos bod y driniaeth yn ffordd gymesur o gyflawni nod dilys. 

Nid yw’r driniaeth yn wahaniaethu’n codi o anabledd os nad yw’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gwybod, ac ni ellid disgwyl yn rhesymol iddynt wybod, bod gan y person anabledd (adran 15, paragraff 2). 

Enghraifft:

  1. Mae grŵp cymunedol natur lleol eisiau penodi dau aelod i redeg prosiect garddio yn y parc lleol. Bydd yr aelodau’n arwain grŵp o wirfoddolwyr ac yn llefarwyr ar gyfer y prosiect. Mae’r grŵp cymunedol yn gwrthod aelod sy’n ymgeisio i fod yn un o arweinwyr y prosiect oherwydd ei bod yn cyfathrebu’n ddi-flewyn ar dafod a gonest ac mae’r grŵp cymunedol yn poeni y gallai hyn gael ei ystyried i fod yn ansensitif a digywilydd. Mae gan yr aelod ddiagnosis o awtistiaeth. 

    Mae’r aelod wedi cael ei gwrthod i arwain y prosiect oherwydd rhywbeth yn codi o ganlyniad i’w hanabledd – sut y mae’n cyfathrebu’n llafar. Bydd hyn yn anghyfreithlon oni bai y gall y grŵp ddangos bod y driniaeth yn ffordd gymesur o gyflawni nod dilys. Ni fyddai penderfyniad y grŵp yn anghyfreithlon pe na bai’n gwybod, ac ni ellid disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod gan yr ymgeisydd anabledd. 

Sut y mae hyn yn wahanol i wahaniaethu uniongyrchol

  1. Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan fydd y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd yr anabledd ei hun. Gyda gwahaniaethu sy’n codi o anabledd, y cwestiwn yw a gafodd y person anabl eu trin yn anffafriol oherwydd rhywbeth yn codi o ganlyniad i’w hanabledd.

Enghraifft:

  1. Mae mam yn gofyn am i’w mab gael ymuno â meithrinfa breifat. Mae gan ei mab epilepsi ac yn cael ffitiau. Mae’r feithrinfa’n dweud na fedrant dderbyn ei mab oherwydd nad yw’r staff wedi eu hyfforddi i ddelio â ffitiau ac felly na fedrant gwrdd â’i anghenion gofal. Nid yw’r feithrinfa’n gwrthod derbyn y bachgen oherwydd yr anabledd ei hun ond yn ei drin yn anffafriol oherwydd rhywbeth yn codi o ganlyniad i’w anabledd: ei ffitiau. Gallai hyn fod yn wahaniaethu’n codi o anabledd oni bai y gall y feithrinfa ddangos bod gwrthod ei dderbyn yn ffordd gymesur o gyflawni nod dilys.

Sut y mae hyn yn wahanol i wahaniaethu anuniongyrchol

  1. Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fydd person anabl yn (neu byddai) dan anfantais oherwydd darpariaeth, maen prawf neu arfer di-gyfiawnhad sy’n cael ei gymhwyso i bawb ac sydd (neu byddai’n) creu anfantais benodol i bobl yn rhannu anabledd y person anabl o’i gymharu ag eraill, ac sydd (neu byddai’n) creu anfantais i’r person anabl (paragraff 5.4). 
  2. Ar y llaw arall, gyda gwahaniaethu’n codi o anabledd, y cwbl sydd ei angen yw bod person anabl yn gallu dangos y cawsant eu trin yn anffafriol oherwydd rhywbeth yn gysylltiedig â’u hanabledd. Fodd bynnag, fel gyda gwahaniaethu anuniongyrchol, gallai’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas osgoi gwahaniaethu’n codi o anabledd os gallai gyfiawnhau’r driniaeth yn wrthrychol fel ffordd gymesur o gyflawni nod dilys (paragraff 6.18).

Cymharwyr a gwahaniaethu’n codi o anabledd

  1. Ar gyfer gwahaniaethu anuniongyrchol ac, yn y rhan fwyaf o achosion, gwahaniaethu uniongyrchol, rhaid cymharu (Pennod 4 ac Phennod 5). Wrth ystyried gwahaniaethu’n codi o anabledd, nid oes angen cymharu triniaeth person anabl â thriniaeth person arall. Yr unig beth sydd ei angen yw dangos bod y driniaeth anffafriol wedi digwydd oherwydd rhywbeth yn codi o ganlyniad i’w hanabledd.

Enghraifft:

  1. Mae bar yn gwrthod gweini ar berson anabl oherwydd eu bod yn siarad yn dew, oherwydd eu bod wedi cael strôc. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’r person anabl wedi cael eu trin yn anffafriol oherwydd rhywbeth yn codi o ganlyniad i’w hanabledd. Mae’n amherthnasol a fyddai darpar gwsmeriaid eraill yn cael eu gwrthod am siarad yn dew. Nid oes angen cymharu triniaeth y cwsmer anabl â thriniaeth unrhyw gymharydd. Bydd hyn yn wahaniaethu’n codi o anabledd oni bai y gellid ei gyfiawnhau neu os na wyddai rheolwr y bar, ac ni ellid disgwyl yn rhesymol iddo fod yn gwybod, bod y person yn anabl.

Triniaeth anffafriol

  1. Er mwyn i wahaniaethu’n codi o anabledd ddigwydd, rhaid i berson anabl fod wedi cael eu trin yn ‘anffafriol’ (adran 15, paragraff 1(a)). Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt brofi anfantais. Yn aml iawn bydd yr anfantais yn amlwg a bydd yn glir bod y driniaeth wedi bod yn anffafriol. Er enghraifft, gallai gwasanaeth fod wedi cael ei wrthod neu wasanaeth salach wedi’i roi. Mae gwrthod dewis neu gael eich eithrio o gyfle hefyd yn debygol o fod yn driniaeth anffafriol. Weithiau gallai’r driniaeth anffafriol fod yn llai amlwg. Hyd yn oed os yw’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn credu eu bod yn ymddwyn er lles gorau’r person anabl, gallent er hynny fod yn eu trin yn anffafriol.
  2. Os yw person yn cwyno na chawsant eu trin yn ddigon ffafriol, efallai na fydd hyn yn dod o fewn cwmpas triniaeth ‘anffafriol’ ac felly efallai na fyddai’n anghyfreithlon.Footnote 1

Enghraifft:

  1. Mae cyngor yn darparu gwasanaethau gofal cymunedol i bobl yn ei ardal. Mae gan y cyngor hawl i geisio cyfraniad ariannol gan bawb sy’n defnyddio’r gwasanaethau ond yn lleihau’r cyfraniad ariannol i ystyried costau’n ymwneud ag anabledd a achosir i berson anabl.

    Mae person anabl sydd â hawl i wasanaethau gofal cymunedol yn gwneud cais i dalu cyfraniad ariannol llai ar sail eu gwariant cysylltiedig ag anabledd. Mae’r cyngor yn rhoi’r gostyngiad ond mae’r person anabl yn ystyried nad yw’n ddigon ac y dylai fod wedi derbyn mwy o ddisgownt.

    Mae’r person anabl yn dadlau y cawsant eu trin yn anffafriol oherwydd rhywbeth yn codi o ganlyniad i’w hanabledd. Efallai na fyddai hyn yn driniaeth anffafriol. Mae’r cyngor eisoes yn trin y person anabl yn ffafriol drwy leihau eu cyfraniad ariannol i ystyried costau’n ymwneud ag anabledd.  

Ystyr ‘rhywbeth yn codi o ganlyniad i anabledd’

  1. Rhaid i’r driniaeth anffafriol fod oherwydd rhywbeth sy’n codi o ganlyniad i anabledd (adran 15, paragraff 1(a)). Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gysylltiad fod rhwng beth bynnag a arweiniodd at y driniaeth anffafriol a’r anabledd.
  2. Mae canlyniadau anabledd yn cynnwys unrhyw beth sy’n digwydd oherwydd, yn effaith, neu’n un o ganlyniadau, yr anabledd. Bydd y canlyniadau’n amrywio ac yn dibynnu ar effaith unigol yr anabledd ar berson. Bydd rhai canlyniadau efallai’n amlwg, fel methu â cherdded heb gymorth. Ni fydd eraill mor amlwg fel methu â deall goblygiadau cytundeb ariannol.
  3. Er mwyn penderfynu a ddigwyddodd y driniaeth anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n codi o ganlyniad i anabledd, mae’n bwysig ystyried y mater mewn dau gam. Yn gyntaf, ydy anabledd y person yn achosi, neu’n arwain at ‘rywbeth’? Yn ail, a gafodd y person eu trin yn anffafriol oherwydd y ‘rhywbeth’ hwnnwFootnote 2 Nid oes angen i’r ‘rhywbeth’ fod yr unig reswm am y driniaeth anffafriol ond rhaid iddo fod yn rheswm sylweddol, neu o leiaf yn fwy na dibwys.Footnote 3

Enghraifft:

  1. Mae gan berson anabl gyflwr sy’n effeithio ar eu lleferydd a’u hiaith. Maen nhw’n gwneud cais i ymaelodi â chlwb golff. Fel rhan o’r broses ymgeisio, rhaid cael dau eirda. Nid yw’r clwb golff yn fodlon ag un o’r geirdaon oherwydd ei fod yn fyr iawn ac nid yw’n ateb eu holl gwestiynau. Mae’r clwb golff hefyd yn poeni a fydd yr ymgeisydd yn ‘ffitio mewn’ â’r aelodau eraill oherwydd eu trafferthion lleferydd ac iaith.

    Mae’r clwb golff yn penderfynu gwrthod y cais. Gallai hyn fod yn wahaniaethu’n codi o anabledd. Mae trafferthion lleferydd ac iaith y person yn ‘rhywbeth’ sy’n codi o ganlyniad i’w hanabledd. Nid dyma’r unig reswm y penderfynodd y clwb golff wrthod eu cais i ymaelodi, ond mae’n rheswm sylweddol. 

Enghraifft:

  1. Mae aelod o’r cyhoedd yn mynd i ganolfan waith i lenwi ffurflen gais am fudd-dal diweithdra. Mae aelod o staff yn gwrthod ei gyfweld oherwydd ei fod yn rhegi. Mae wedi bod yn mynychu’r ganolfan waith ers rhai wythnosau. Mae’n rhegi oherwydd bod ganddo syndrom Tourette.

    Mae gwrthod ei gyfweld yn debygol o fod yn wahaniaethu’n codi o anabledd oni bai y gall yr aelod o staff ddangos na wyddent, ac ni ellid disgwyl yn rhesymol iddynt fod yn gwybod, am nam yr ymgeisydd. O ystyried y berthynas flaenorol rhwng y ganolfan waith a’r aelod o’r cyhoedd, dylai’r ganolfan waith fod wedi cymryd camau i sefydlu a oedd gan yr aelod o’r cyhoedd anabledd. Am fwy o wybodaeth, dylid darllen paragraffau 6.24 i 6.35. 

Pryd y gellir cyfiawnhau gwahaniaethu’n codi o anabledd

  1. Ni fydd trin person yn anffafriol yn wahaniaethu’n codi o anabledd os yw’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gallu dangos bod y driniaeth yn ‘ffordd gymesur o gyflawni nod dilys’ (adran 15, paragraff 1(b)). Eglurir y prawf ‘cyfiawnhad gwrthrychol’ hwn ym mharagraffau 5.46 i 5.57.
  2. Mater i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yw cyfiawnhau’r driniaeth. Rhaid iddynt ddangos tystiolaeth i gefnogi’r honiad bod cyfiawnhad dros y driniaeth a pheidio â dibynnu ar gyffredinoli.

Enghraifft:

  1. Mae arddangosfa gelf yn digwydd mewn neuadd gymuned leol. Mae rheolwr y neuadd yn gwrthod mynediad i ddefnyddiwr cadair olwyn gan dybio y gallai fod mewn perygl pe bai tân yn digwydd. Gallai sicrhau iechyd a diogelwch cwsmeriaid fod yn nod dilys. Bydd p’un ai yw gwrthod mynediad yn ffordd gymesur o gyflawni’r nod hwnnw’n dibynnu ar ba ddulliau dianc sydd neu a allai fod ar gael pe bai tân yn digwydd ac a ydynt yn ddigonol i’r defnyddiwr cadair olwyn. Os oes dulliau dianc digonol, mae gwrthod mynediad yn debygol o fod yn anghymesur ac anghyfreithlon. 

Rôl addasiadau rhesymol

  1. Gallai rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn aml iawn osgoi triniaeth anffafriol a fyddai’n golygu gwahaniaethu’n codi o anabledd drwy gymryd camau diymdroi i adnabod a gweithredu addasiadau rhesymol. Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl yn rhwymedigaeth gyfreithlon ar wahân a drafodir ymhellach ym Mhennod 7.
  2. Os methir â gwneud addasiad rhesymol a fyddai wedi atal neu leihau’r driniaeth anffafriol, bydd yn anodd iawn dangos bod cyfiawnhad gwrthrychol dros y driniaeth wrth herio hawliad o wahaniaethu’n codi o anabledd.Footnote 4 Eglurir cyfiawnhad gwrthrychol ym mharagraffau 5.46  5.57.
  3. Os yw’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas wedi gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer person anabl, gallent er hynny fod yn trin y person anabl ar sail gwahaniaethu’n codi o anabledd. Mae hyn yn debygol o ddigwydd er enghraifft, os nad oes cysylltiad rhwng yr addasiad a sut y cafodd y person eu trin.

Os nad yw’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gwybod bod y person yn anabl

  1. Os gall y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ddangos na wyddent fod gan y person anabl yr anabledd dan sylw, ac ni ellid disgwyl yn rhesymol iddynt fod yn gwybod hynny, yna ni fydd y driniaeth anffafriol yn gyfystyr â gwahaniaethu’n codi o anabledd (adran 15, paragraff 2).
  2. Y cwbl sydd ei angen yw eu bod yn gwybod am ffeithiau nam yr unigolyn i fod yn atebol am wahaniaethu’n codi o anabledd. Nid oes angen iddynt sylweddoli bod y ffeithiau hynny’n cwrdd â’r diffiniad cyfreithiol o anabledd.Footnote 5 Am fwy o wybodaeth am y diffiniad o anabledd, dylid darllen paragraffau 2.19 i 2.35.
  3. Nid oes angen iddynt wybod ychwaith bod y ‘rhywbeth’ a arweiniodd at y driniaeth anffafriol wedi digwydd o ganlyniad i’r anabledd.Footnote 6
  4. Nid yw’n ddigon i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ddangos na wyddent fod gan y person anabl yr anabledd. Rhaid iddynt hefyd ddangos na ellid disgwyl yn rhesymol iddynt fod yn gwybod amdano.
  5. Wrth benderfynu ydy unigolyn yn debygol o gael eu hystyried i fod yn anabl, rhaid i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas lunio eu barn eu hunain. Dylent ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol a byddai hynny’n cynnwys barn cynghorydd meddygol. Fodd bynnag, ni ddylent dderbyn barn cynghorydd meddygol yn ddigwestiwn fel un sy’n penderfynu bod unigolyn yn anabl neu beidio.Footnote 7

Enghraifft:

  1. Mae caffi ar fin cau ac wedi cau ei ardal eistedd. Mae cwsmer yn archebu bwyd i fynd allan gan eistedd yn yr ardal eistedd gaeedig. Mae un o weithwyr y caffi’n gofyn i’r cwsmer adael yr ardal gan ddweud bod yn rhaid iddynt sefyll i aros am eu bwyd oherwydd bod yr ardal eistedd wedi cau. Fodd bynnag, mae gan y cwsmer Syndrom Blinder Cronig ac yn egluro ei bod yn eistedd oherwydd bod angen iddi o ganlyniad i’w hanabledd. Mae gweithiwr y caffi’n gwrthod derbyn ei heglurhad na gwneud eithriad fel bo’r cwsmer yn gallu eistedd tan fydd ei bwyd yn barod. Oherwydd bod gweithiwr y caffi wedi cael gwybod am anabledd y cwsmer, gellid disgwyl yn rhesymol i’r caffi fel darparwr gwasanaeth wybod ei bod yn anabl. Mae’r caffi felly’n debygol o fod yn atebol am wahaniaethu’n codi o anabledd os na all ddangos bod cyfiawnhad gwrthrychol dros drin y cwsmer felly. 
  1. Rhaid i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas wneud popeth y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt ei wneud i wybod a oes gan berson anabledd. Bydd beth sy’n rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae hyn yn asesiad gwrthrychol. Nid oes angen gwneud pob ymholiad os nad oes fawr ddim neu ddim sail dros wneud hynny.Footnote 8 Wrth wneud ymholiadau am anabledd, dylid ystyried urddas a phreifatrwydd a thrin gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol.
  2. Os oes gan y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas berthynas ers tro gyda pherson anabl – er enghraifft, wrth ddarparu gwasanaethau bancio neu gasglu treth cyngor – dylent gymryd camau i gael gwybod a oes gan y person anabledd, er enghraifft, drwy ddarllen ffurflen gofrestru’r cwsmer.

Enghraifft:

  1. Mae swyddfa budd-daliadau treth cyngor yn anfon holiaduron at bobl sy’n hawlio budd-daliadau’n gofyn a oes ganddynt unrhyw anghenion yn ymwneud ag anabledd y byddent yn hoffi rhoi gwybod i’r swyddfa amdanynt ac a allai’r swyddfa wneud unrhyw beth i wneud hawlio’n haws iddynt.
  1. Os nad oes unrhyw berthynas flaenorol, dylid er hynny ystyried a oes gan yr unigolyn anabledd. Gallai hyn fod mor syml â rhoi cyfle i berson ddatgelu eu hanabledd drwy ofyn iddynt a oes unrhyw reswm eu bod yn ymddwyn mewn ffordd arbennig.

Enghraifft:

  1. Mewn caffi prysur sydd ond yn gweini o gownter, mae un o’r staff yn sylwi bod cwsmer yn eistedd wrth fwrdd heb archebu. Mae gan y caffi bolisi o ofyn i bobl sy’n eistedd wrth fyrddau heb archebu adael. Mae’r aelod o staff yn mynd at fwrdd y cwsmer a gofyn a oes angen help arni. Mae’r cwsmer yn ateb bod ganddi arthritis a bod ei choesau’n brifo sy’n golygu y byddai’n anodd iddi fynd at y cownter i archebu bwyd a diod ei hun.
  1. Os yw gweithiwr, asiant neu aelod yn gwybod am anabledd unigolyn, ni fydd y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas fel arfer yn gallu honni na wyddent am anabledd y person. Byddai felly’n anodd iddynt ddadlau nad oedd yr unigolyn wedi dioddef gwahaniaethu’n codi o anabledd. 

Trin pobl anabl yn fwy ffafriol

  1. Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson heb fod yn anabl yng nghyswllt gwahaniaethu uniongyrchol. Dim ond i bobl anabl y mae’r eithriad yma’n berthnasol. Felly nid yw rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gwahaniaethu’n uniongyrchol drwy drin person anabl yn fwy ffafriol na rhywun heb anabledd. 

Lawrlwythiadau dogfen

Footnotes

  • Footnote 1

    Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn Prifysgol Abertawe v Williams [2019] 1 WLR 93; McCue v Cyngor Dinas Glasgow [2023] UKSC 1

  • Footnote 2

    Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Basildon a Thurrock v Weerasinghe [2016] ICR 305; Cyngor Dinas Efrog v Grosset [2018] EWCA Sifil 1105

  • Footnote 3

    Charlesworth v Dransfields Engineering Services Ltd [2017] UKEAT/0197/16; Pnaiser v NHS England [2015] UKEAT/0137/15

  • Footnote 4

    Cyngor Dinas Efrog v Grosset [2018] EWCA Sifil 1105

  • Footnote 5

    Gallop v Cyngor Dinas Casnewydd [2013] EWCA Sifil 1583

  • Footnote 6

    Cyngor Dinas Efrog v Grosset [2018] EWCA Sifil 1105

  • Footnote 7

    Gallop v Cyngor Dinas Casnewydd [2013] EWCA Sifil 1583

  • Footnote 8

    A Ltd v Z [2020] ICR 199

Diweddariadau tudalennau