Arweiniad

Cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau: Pennod 7 – Pobl anabl: addasiadau rhesymol

Wedi ei gyhoeddi: 5 Awst 2026

Diweddarwyd diwethaf: 5 Awst 2026

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • England Lloegr
  • Scotland Alban
  • Wales Cymru

Rhagarweiniad

  1. Mae’r bennod yma yn y cod ymarfer (y Cod) yn egluro’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd, swyddogaethau cyhoeddus a chan gymdeithasau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf). Mae Pennod 11 a Phennod 12 yn egluro'r amgylchiadau lle mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn person anabl drwy beidio â gwneud addasiadau rhesymol, a geiriad penodol y ddyletswydd addasu rhesymol mewn perthynas â'r tair maes hyn.
  2. Mae gwasanaethau i’r cyhoedd yn cynnwys rhai i ran o’r cyhoedd a darparu nwyddau a chyfleusterau, p’un ai am dâl neu beidio. Am fwy o fanylion dylid darllen paragraffau 11.4 i 11.9. Swyddogaethau cyhoeddus yw rhai o natur gyhoeddus sydd ddim yn wasanaethau. Am fwy o fanylion dylid darllen paragraffau 11.13 i 11.16. Cymdeithasau yw cyrff gydag o leiaf 25 o aelodau, meini prawf aelodaeth a phroses ar gyfer dethol aelodau. Am fwy o fanylion dylid darllen paragraffau 12.2 i 12.12.
  3. Mae’r egwyddorion sy’n berthnasol i’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn y tri maes hwn yn debyg. Fodd bynnag os yw’r ddyletswydd yn wahanol, rhoddwn fwy o fanylion yn y bennod hon.
  4. O dan y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol, rhaid i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas gymryd camau cadarnhaol i sicrhau mynediad i bobl anabl. Mae hyn yn fwy nag osgoi gwahaniaethu. Mae’n gofyn bod y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn rhagweld anghenion pobl anabl a gwneud addasiadau rhesymol cyn darparu’r gwasanaeth, ymarfer y swyddogaeth gyhoeddus neu gynnal gweithgareddau’r gymdeithas.
  5. Pwrpas y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yw rhoi mynediad i bobl anabl at wasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau fel bod eu profiad mor agos ag y bo’n rhesymol bosib i’r safon a gynigir i bobl nad ydynt yn anabl. 

Y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol

  1. Mae un math o wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn person anabl yn digwydd pan fydd y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud yr addasiadau rhesymol gofynnol i’r person anabl dan sylw (adran 21, paragraff 2).
  2. Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn cynnwys tri gofyniad.
  3. Ar gyfer rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas, y gofynion yw: 
  • cymryd camau rhesymol i osgoi unrhyw anfantais sylweddol y mae darpariaeth, maen prawf neu arfer yn ei greu i bobl anabl (adran 20, paragraff 3)
  • cymryd camau rhesymol i osgoi unrhyw anfantais sylweddol y mae nodwedd ffisegol yn ei greu i bobl anabl, neu fabwysiadu opsiwn rhesymol arall (adran 20, paragraff 4), a
  • darparu cymorth ategol os byddai peidio â gwneud hynny’n creu anfantais sylweddol i bobl anabl (adran 20, paragraff 5) 

Ar gyfer pob gofyniad, mae’r anfantais sylweddol sy’n cael ei chreu gan ddiffyg addasiad rhesymol yn cael ei mesur o’i gymharu â phrofiad person heb fod yn anabl. 

  1. Ar gyfer cymdeithasau, mae’r gofynion ym mharagraff 7.8 yn berthnasol ar gyfer:
  • cael mynediad at fantais, cyfleusterau neu wasanaeth
  • aelodau neu aelodau cyswllt er mwyn cadw eu hawliau, neu osgoi eu hamrywio
  • cael eu derbyn fel aelod neu eu gwahodd fel gwestai (atodlen 15) 

Diffiniad o ddarpariaeth, maen prawf neu arfer 

  1. Nid oes rhestr ddiffiniol o beth yw darpariaeth, maen prawf neu arfer. Rhoddir mwy o fanylion ym mharagraffau 5.9 i 5.11 y Cod hwn.

Anfantais sy’n achosi’r ddyletswydd 

  1. Ar gyfer pob un o’r tri gofyniad yn 7.8, mae’r Ddeddf yn disgrifio bod yn rhaid i anfantais fod yn sylweddol, sy’n cael ei ddiffinio fel mwy na mân neu ddibwys (adran 212, paragraff 1).
  2. Yng nghyd-destun person sy’n profi niwed wrth i swyddogaeth gyhoeddus gael ei hymarfer, mae anfantais sylweddol (atodlen 2, paragraff 2(5)(a) a (b)) yn golygu:
  • cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol o ran derbyn mantais (fel derbyn grant), neu

  • cael profiad afresymol o niweidiol wrth brofi niwed (er enghraifft, pan fydd y person wedi cael eu harestio) 

Mae’r anfantais sy’n cael ei chreu gan ddiffyg addasiad rhesymol yn cael ei mesur o’i gymharu â phrofiad person heb fod yn anabl.Footnote 1

  1. Ar gyfer rhai sy’n darparu gwasanaeth ac ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, dylid gofyn a yw darpariaeth, maen prawf neu arfer (atodlen 2, paragraff 2) yn creu anfantais sylweddol yn gyffredinol i bobl anabl. Dylid felly edrych ar yr effaith y mae’n debygol o’i gael ar bobl ‘sy’n anabl yn yr un ffordd’ yn hytrach nag ar yr unigolyn ei hun yn unig.Footnote 2 Hyd yn oed pe bai darpariaeth, maen prawf neu arfer yn cael ei gymhwyso’n gyfartal i bobl anabl a heb fod yn anabl, os yw’n fwy tebygol o greu anfantais sylweddol i berson anabl oherwydd eu hanabledd, bydd dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol.Footnote 3

Enghraifft:

  1. Mae person sy’n ymarfer swyddogaeth gyhoeddus yn cyflwyno proses i asesu hawliadau am lwfans cymorth cyflogaeth, sy’n gofyn bod y rhai sy’n ymgeisio amdano’n llenwi holiadur hunan-asesiad. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i bob ymgeisydd, yn anabl a heb fod yn anabl, ond mae ei natur yn golygu na fydd y broses efallai’n hygyrch i bobl gyda chyflwr iechyd meddwl difrifol. Mae anfantais sylweddol yn cael ei chreu yn yr amgylchiadau hyn oherwydd:
  • efallai na fydd y grŵp hwn yn gallu ateb rhai cwestiynau’n llawn oherwydd diffyg dealltwriaeth o’u cyflwr neu fethu ei ddisgrifio’n iawn, a bod rhannau o’r broses felly’n ddryslyd neu’n achosi straen, a

  • gallai’r broses olygu na fyddai gan y sawl sy’n gwneud penderfyniad ddigon o wybodaeth neu wybodaeth anghywir am yr ymgeiswyr hyn a byddent felly’n llai tebygol o dderbyn y lwfans cymorth cyflogaeth 

Mae gan y person sy’n ymarfer y swyddogaeth gyhoeddus felly ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i osgoi’r anfantais sylweddol honno. 

Cyfyngiadau ar y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol 

  1. Os yw’r ddyletswydd i wneud addasiad rhesymol yn codi, ni all y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas gyfiawnhau methu â gwneud addasiad rhesymol. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf yn rhoi cyfyngiadau penodol ar y ddyletswydd.
  2. Ni fydd angen i ddarparwr gwasanaeth (gan gynnwys rhywun yn darparu gwasanaeth wrth ymarfer swyddogaeth gyhoeddus) gymryd unrhyw gamau a fyddai’n newid natur y gwasanaeth, neu natur masnach neu broffesiwn y darparwr, yn sylfaenol (atodlen 2, paragraff 2(7)).
  3. Ni fydd angen i rai sy’n ymarfer swyddogaethau cyhoeddus gymryd unrhyw gamau sydd y tu allan i’w pwerau (atodlen 2, paragraff 2(8)).
  4. Ni fydd angen i gymdeithasau gymryd unrhyw gamau sy’n newid natur y fantais, cyfleusterau neu wasanaeth, neu natur y gymdeithas ei hun (atodlen 15, paragraff 2(7)).
  5. Os yw cyfarfodydd yn digwydd yn nhai aelodau neu aelodau cyswllt cymdeithasau, nid oes angen i’r aelodau neu aelodau cyswllt hynny wneud addasiadau i unrhyw nodwedd ffisegol yn y tŷ. Am fwy o fanylion dylid darllen Pennod 12 (atodlen 15, paragraff 2(8)).

Ar gyfer pwy y mae angen cyflawni’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol

  1. Ar gyfer gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, mae angen cyflawni’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl yn gyffredinol (atodlen 2, paragraff 2(2)). Nid dyletswydd tuag at unigolion anabl sydd eisiau defnyddio gwasanaeth, neu a effeithir gan ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, ydyw.
  2. O ran cymdeithasau, mae’r grŵp o bobl anabl y mae angen cyflawni’r ddyletswydd ar eu cyfer yn llai ond er hynny’n cynnwys aelodau, rhai a wnaeth gais i ymaelodi, aelodau cyswllt a gwesteion, a rhai fydd efallai’n dymuno ymaelodi ac sy’n debygol o fod yn westeion (atodlen 15, paragraff 2(2)).

Dyletswydd i ragweld: pryd y mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn codi 

  1. Ar gyfer y tri maes (gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau), mae’r ddyletswydd yn un i ragweld (atodlenni 2 a 15). Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau ystyried yn rhagweithiol pa rwystrau allai pobl anabl eu hwynebu a gweithredu i’w dileu. Dylai hyn ddigwydd cyn i berson anabl geisio defnyddio gwasanaeth, elwa o neu gael mynediad at swyddogaeth, neu gymryd rhan mewn gweithgaredd cymdeithas.
  2. Ni ddylai rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas felly aros tan fydd person anabl eisiau defnyddio gwasanaeth, elwa o neu gael mynediad at swyddogaeth, neu gymryd rhan mewn gweithgaredd cymdeithas cyn ystyried eu dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Dylent ragweld gofynion pobl anabl a’r addasiadau y bydd efallai angen eu gwneud ar eu cyfer. Gallai methu â rhagweld bod angen gwneud addasiad greu cost ychwanegol neu olygu y byddai’n rhy hwyr i gydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud yr addasiad. 

Enghraifft:

  1. Mae unigolyn gyda nam ar eu golwg yn derbyn llythyrau print am ei fudd-daliadau lles yn rheolaidd gan berson sy’n ymarfer swyddogaethau cyhoeddus, er iddo nodi’n flaenorol bod angen Braille arno a bod hyn wedi cael ei ddarparu. Mae gorfod ffonio’n barhaus i ofyn am Braille yn achosi rhwystredigaeth ac yn anghyfleus ond yr ateb y mae’n ei gael yw nad yw’r meddalwedd sy’n cynhyrchu’r cyfathrebiadau yn cadw cofnod bod angen fformatau eraill ar unigolion.

    Gallai methu â darparu llythyrau Braille fod yn fethiant i wneud addasiadau rhesymol pe bai’n cael ei benderfynu bod hyn wedi achosi anfantais sylweddol i’r person anabl a bod addasiad rhesymol y gellid bod wedi’i wneud. Hyd yn oed pe bai dogfennau Braille yn cael eu darparu ar ôl cais gan yr unigolyn, gallai fod yn fethiant i ragweld anghenion pobl gyda nam ar eu golwg drwy fethu â chael system yn ei lle i gofnodi bod angen fformat arall ar yr unigolyn, a thrwy hynny’n fethiant i wneud addasiad rhesymol. 

Sut y mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol os nad yw’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gwybod bod y person yn anabl

  1. Oherwydd bod y ddyletswydd yn un i ragweld, mae’n berthnasol p’un ai yw’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gwybod neu beidio bod person yn anabl neu a oes ganddynt, er enghraifft, gwsmeriaid neu aelodau anabl ar y pryd.
  2. Pan fydd person anabl eisiau defnyddio gwasanaeth, elwa o neu gael mynediad at swyddogaeth, neu gymryd rhan mewn gweithgaredd cymdeithas, rhaid i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas eisoes fod wedi cymryd pob cam rhesymol i ddarparu mynediad.

Rhagweld rhwystrau i bobl gyda gwahanol fathau o anabledd 

  1. Nid oes disgwyl i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ragweld anghenion pobl unigolyn a allai ddefnyddio gwasanaeth, manteisio ar neu ddefnyddio swyddogaeth neu gymryd rhan mewn gweithgaredd gan gymdeithas. Mae’n ofynnol iddynt feddwl am a chymryd camau rhesymol i oresgyn rhwystrau a allai atal pobl gyda gwahanol fathau o anabledd. Er enghraifft, gallai pobl gyda dementia, cyflyrau iechyd meddwl neu nam ar eu symudedd wynebu gwahanol fathau o rwystrau.
  2. Mae pobl anabl yn grŵp amrywiol gyda gwahanol ofynion – er enghraifft, bydd pobl gyda nam ar eu golwg sy’n defnyddio cŵn tywys yn cael eu hatal rhag defnyddio gwasanaethau gyda pholisi ‘dim cŵn’ ond ni fydd y polisi’n effeithio ar bobl gyda nam ar eu golwg sydd ond yn defnyddio ffon wen. Bydd y ddyletswydd dal yn ddyledus i rai o’r ddau grŵp. Bydd felly angen i’r darparwr gwasanaeth yn yr achos hwn ragweld sut y gallai fod angen addasu ei wasanaethau ar gyfer y ddau grŵp.
  3. Unwaith fydd rhywun sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn dod yn ymwybodol o ofynion person anabl penodol, gallai wedyn fod yn rhesymol iddynt gymryd camau penodol i gwrdd â’u gofynion. Mae hyn yn arbennig o wir os yw person anabl wedi tynnu sylw at eu hanhawster yn cael mynediad neu wedi awgrymu ateb rhesymol i’r anhawster.

Enghraifft:

  1. Mae gan berson anabl gyflwr meddygol ac yn cael pwl drwg o symptomau wrth fynychu cyfarfod cyffredinol blynyddol o gymdeithas, sy’n golygu y byddent wedi cael poen cefn difrifol wrth eistedd ar y cadeiriau caled yn y cyfarfod. Er y diffyg rhybudd, roedd trefnwyr y cyfarfod yn gallu dod o hyd i gadair fwy addas a’i darparu ar gyfer yr aelod o’r gymdeithas.
  1. Felly mae dwy elfen i’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol: y ddyletswydd i ragweld bod angen addasiadau ar gyfer dosbarth o bobl a hefyd y ddyletswydd barhaus i wneud addasiadau mewn achosion unigo.Footnote 4

Am faint y mae’r ddyletswydd yn parhau

  1. Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn un barhaus. Dylai rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas adolygu eu dyletswydd yn rheolaidd, a sut y maen nhw’n cyflawni’r ddyletswydd, gan ystyried eu profiad gyda phobl anabl sydd eisiau cael mynediad. Yn y cyswllt hwn mae’n ddyletswydd esblygol, nid yn rhywbeth i’w ystyried unwaith ac yna anghofio amdano. Efallai na fydd rhywbeth oedd yn wreiddiol yn gam rhesymol mwyach yn ddigon, a byddai wedyn angen ystyried mwy o addasiadau, neu addasiadau gwahanol. 

Enghraifft:

  1. Mae complecs chwaraeon mawr yn newid ei bolisi ‘dim cŵn’ i ganiatáu cŵn cymorth. Mae’n cynnig taith o’r complecs i ddefnyddwyr cŵn cymorth gael dod yn gyfarwydd â’r lle. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol ar y pwynt hwn. Fodd bynnag, mae’r complecs yna’n dechrau ar waith adeiladu gan newid y ffyrdd o gwmpas y complecs a’i gwneud yn anodd i ddefnyddwyr cŵn cymorth wybod ble i fynd. O ganlyniad nid yw cynnig taith gychwynnol mwyach yn addasiad effeithiol ar gyfer defnyddwyr cŵn cymorth. Mae’r darparwr gwasanaeth felly’n penderfynu cynnig cymorth ychwanegol gan staff i ddefnyddwyr cŵn cymorth tra bo’r gwaith adeiladu’n digwydd. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’w gymryd.
  1. Felly hefyd, gallai cam a fyddai o’r blaen wedi bod yn un afresymol i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ei gymryd yna fod yn gam rhesymol o ystyried yr amgylchiadau newydd. Er enghraifft, gallai datblygiadau technolegol gynnig atebion newydd neu well i broblemau gwasanaethau anhygyrch.

Enghraifft:

  1. Mae gan lyfrgell nifer fach o gyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd. Pan osodwyd y cyfrifiaduron yn wreiddiol, edrychodd y llyfrgell ar yr opsiwn o ymgorffori meddalwedd testun-i-lais ar gyfer pobl gyda nam ar eu golwg. Gwrthodwyd yr opsiwn oherwydd bod y meddalwedd yn ddrud iawn a ddim yn effeithiol iawn. Ni fyddai wedi bod yn gam rhesymol i’r llyfrgell ei gymryd ar y pryd. Mae’r llyfrgell yn bwriadu adnewyddu’r cyfrifiaduron. Mae’n gwneud ymholiadau a phenderfynu bod meddalwedd testun-i-lais gwell a rhatach bellach ar gael. Mae’r llyfrgell yn penderfynu gosod y meddalwedd ar rai o’r cyfrifiaduron newydd a rhoi mynediad blaenoriaeth atynt i ddefnyddwyr gyda nam ar eu golwg. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’r llyfrgell ei gymryd ar y pwynt hwn.

Ystyr camau ‘rhesymol’

  1. Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn rhoi cyfrifoldeb ar rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas i gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol yn yr holl amgylchiadau. Nid yw’r Ddeddf yn nodi y dylid ystyried unrhyw ffactorau penodol. Mae beth sy’n gam rhesymol i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ei gymryd yn dibynnu ar holl amgylchiadau’r achos. Bydd yn amrywio gan ddibynnu ar:
  • pa wasanaeth sy’n cael ei ddarparu, swyddogaeth gyhoeddus sy’n cael ei hymarfer neu weithgaredd cymdeithas

  • natur, maint ac adnoddau’r rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas, a

  • effaith yr anabledd ar y person anabl unigol 

  1. Mae’r canlynol yn rhai enghreifftiau o’r ffactorau a allai gael eu hystyried wrth asesu beth sy’n rhesymol:
  • a fyddai unrhyw gamau penodol yn effeithiol i oresgyn yr anfantais sylweddol a wynebir gan bobl anabl gyda chael mynediad
  • pa mor ymarferol y byddai i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas gymryd y camau hyn
  • costau ariannol a chostau eraill gwneud yr addasiad
  • faint o aflonyddwch fyddai cymryd y camau’n ei achosi
  • faint o adnoddau ariannol / eraill sydd gan y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas
  • faint o adnoddau a wariwyd yn barod ar wneud addasiadau
  • a oes cymorth ariannol neu gymorth arall ar gael 

Enghraifft:

  1. Mae staff mewn swyddfa bost brysur yn gweini ar gwsmeriaid a fu’n ciwio mewn llinell. Mae cwsmer anabl gydag arthritis drwg eisiau postio parsel. Mae’n cael poen os yw’n sefyll am fwy na munud neu ddau. Ni fyddai disgwyl i gwsmeriaid eraill fod mewn poen tebyg wrth bostio parsel. Mae polisi ciwio’r swyddfa bost felly’n creu anfantais sylweddol i’r cwsmer anabl. Bydd angen ystyried sut y gellid addasu’r polisi ciwio i gwrdd â gofynion cwsmeriaid anabl o’r fath.

    Gan ddibynnu ar faint y swyddfa bost, gallai staff ofyn i’r cwsmer gymryd sedd ac yna gweini arno yn yr un ffordd â phe bai wedi ciwio. Neu gallai ddarparu desg wasanaeth ar wahân gyda chadeiriau ar gyfer cwsmeriaid anabl. 

  1. Byddai’n fwy tebygol o fod yn rhesymol i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas gydag adnoddau ariannol sylweddol orfod gwneud addasiad eithaf drud nag y byddai i gorff gyda llai o adnoddau.

Enghraifft:

  1. Mae canolfan siopa fawr yn penderfynu creu ystafell synhwyraidd bwrpasol yn un o unedau’r ganolfan i roi lle i bobl gyda chyflyrau fel awtistiaeth ac ADHD gael ymdawelu a llonyddu. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’r darparwr gwasanaeth ei gymryd.

    Pe bai unigolyn yn cwyno am ddiffyg ystafell synhwyraidd mewn canolfan siopa fach yn eiddo i fasnachwr annibynnol, byddai adnoddau ariannol y darparwr gwasanaeth, ynghyd â chostau cael lle pwrpasol o’r fath, yn berthnasol wrth benderfynu a fyddai cam o’r fath yn rhesymol. 

  1. Dylid ystyried pa adnoddau fyddai gan y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas, yn ogystal â’r galwadau eraill ar yr adnoddau hynny. Os yw adnoddau’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas wedi eu gwasgaru dros fwy nag un uned fusnes neu ganolfan elw, mae’r galwadau ar bob dim yn debygol o gael eu hystyried wrth asesu rhesymoldeb.

Enghraifft:

  1. Mae gan fanwerthwr bach ddwy siop wrth ymyl ei gilydd. Mae wedi gwneud archwiliad i adnabod pa addasiadau fydd angen eu gwneud ar gyfer pobl anabl. Yn un o’i siopau, ni all cwsmeriaid gyda nam ar eu symudedd ddefnyddio’r holl wasanaethau. Gall cwsmeriaid o’r fath gyrraedd y siop arall, sy’n cynnig yr un gwasanaethau sydd i gyd yn hygyrch i bobl anabl, yn hawdd. Er bod y manwerthwr wedi gobeithio’n wreiddiol gwneud y gwasanaethau yn y ddwy siop yr un mor hygyrch, nid oedd ganddo ddigon o adnoddau. Felly am y tro, mae’n penderfynu peidio â gwneud yr holl wasanaethau yn y siop gyntaf yn hygyrch i gwsmeriaid gyda nam ar eu symudedd. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n annhebygol o fod yn torri’r Ddeddf.
  1. Mae’r cwestiwn o ba mor rhesymol yw addasiad yn un gwrthrychol i’r llysoedd ei benderfynu.
  2. Dylai rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ddeall nad oes atebion penodol na diffiniol. Efallai na fydd camau a allai arwain at fynediad rhesymol i rai pobl anabl o reidrwydd yn effeithiol i eraill.

Enghraifft:

  1. Mae trefnydd cynhadledd gyhoeddus fawr yn darparu cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel bod cynadleddwyr byddar yn gallu dilyn a chymryd rhan. Fodd bynnag, nid yw hyn yn helpu cynadleddwyr gyda nam ar eu golwg neu symudedd i gael mynediad at y gynhadledd, na rhai gyda nam ar eu clyw sydd ddim yn defnyddio BSL ond yn gallu darllen gwefusau. Bydd angen i drefnydd y gynhadledd hefyd ystyried gofynion y cynadleddwyr hyn. 
  1. Pwrpas cymryd y camau yw fel na fydd pobl anabl o dan anfantais sylweddol o’i gymharu â phobl heb fod yn anabl wrth ddefnyddio gwasanaeth, elwa o neu gael mynediad at swyddogaeth gyhoeddus neu gymryd rhan mewn gweithgaredd cymdeithas. Os oes addasiad y gallai’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ei wneud yn rhesymol, a fyddai’n dileu neu’n lleihau’r anfantais sylweddol, nid yw’n ddigon iddynt gymryd cam gwahanol os byddai hynny’n llai effeithiol gyda rhoi mynediad.
  2. Ychwaith, ni fydd rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas wedi cymryd camau rhesymol os ydynt yn ceisio darparu cymorth neu wasanaeth ategol sydd, yn ymarferol, ddim yn rhoi mynediad i bobl anabl.
  3. Ym mhob achos mae’n bwysig defnyddio, cyn belled ag y bo’n rhesymol, dull o gyfathrebu sydd ynddo’i hun yn hygyrch i bobl anabl.

Enghraifft:

  1. Yn enghraifft 7.45, mae trefnydd y gynhadledd yn darparu cyfieithwyr BSL ar gyfer cynadleddwyr byddar sy’n defnyddio BSL ac yn trefnu i’r cyfieithwyr eistedd mewn ardal gyda golau da. Fodd bynnag, nid yw’r trefnydd yn sicrhau bod gan y cynadleddwyr hyn opsiwn o eistedd wrth ymyl ac o fewn golwg i’r cyfieithwyr. O ganlyniad, ni all y cynadleddwyr i gyd ddilyn yr arwyddion BSL. Nid yw’r gwasanaeth ategol wedi bod yn effeithiol o ran sicrhau bod y gynhadledd yn gwbl hygyrch i gynadleddwyr byddar.
  1. Mewn rhai amgylchiadau, bydd cydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn golygu creu anhwylustod i bobl heb fod yn anabl.Footnote 5

Enghraifft:

  1. Mae gan gwmni trenau ddarpariaeth, maen prawf neu arfer y dylai eu casglwyr tocynnau ofyn i rai heb fod mewn cadair olwyn adael gofod cadair olwyn os oes ei angen ar ddefnyddiwr cadair olwyn. Fodd bynnag, o dan y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer, os yw’r person heb fod mewn cadair olwyn yn gwrthod, nid oes angen i’r casglwr tocynnau wneud dim byd pellach ac ni fydd y defnyddiwr cadair olwyn yn cael byrddio’r trên. Gallai’r cwmni trenau fod yn torri ei ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol oherwydd nid yw’n ddigon i’r cwmni trenau gyfarwyddo ei gasglwyr tocynnau i ofyn ac yna gwneud dim os yw rhywun yn gwrthod. Er y gallai symud fod yn anghyfleus i rai heb fod mewn cadeiriau olwyn, dylai’r casglwyr tocynnau orfod cymryd camau pellach i annog y teithiwr sy’n gwrthod yn afresymol i adael y gofod, er mwyn cwrdd â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn yr achos hwn. Dylai fod gan ddefnyddwyr cadeiriau olwyn fynediad blaenoriaeth at ofod cadair olwyn.
  1. Os, ar ôl ystyried y mater yn drylwyr, nad oes camau rhesymol o ddifrif y gall y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas eu cymryd i roi mynediad i bobl anabl, mae’n annhebygol o fod yn torri’r gyfraith os nad yw’n gwneud newidiadau. Mae sefyllfa o’r fath yn debygol o fod yn brin.

Costau darparu addasiadau rhesymol

  1. Mae’r Ddeddf yn gwahardd rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas sydd â dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl rhag gofyn bod unigolion yn talu unrhyw gost tuag at wneud yr addasiadau hynny (adran 20, paragraff 7). Gallai’r gost o wneud addasiad effeithio ar ba mor rhesymol y byddai i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas gymryd y cam hwnnw.

Enghraifft:

  1. Mae gwasanaeth llyfrgell yn cynnal dosbarth ysgrifennu creadigol am ddim. Mae’n darparu’r deunyddiau i bawb ond yn codi ffi llungopïo am wneud copïau mwy o’r deunyddiau i gyfranogwr yn y dosbarth sydd â nam ar eu golwg. Mae hyn yn debygol o fod yn anghyfreithlon.

Peidio â chydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol

  1. Pan nad yw darparwr gwasanaeth, person sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn cydymffurfio â'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn yr amgylchiadau a amlinellir ym Mhennod 11 a Phennod 12, bydd yn cyflawni gweithred o wahaniaethu anghyfreithlon. Byddai person anabl yn gallu gwneud hawliad ar sail hyn a allai gynnwys talu iawndal am unrhyw golled, a gwaharddeb neu ataleb (yn yr Alban) sy’n orchymyn i gyflawni neu ymatal rhag cyflawni gweithred benodol. Dylid darllen Pennod 14 am fwy o fanylion am hawliadau.
  2. Dylai hawlydd yn hawlio iawndal am wahaniaethu anghyfreithlon yn codi o dorri’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol hefyd geisio dangos eu bod wedi dioddef rhyw fath o niwed o ganlyniad i dorri’r ddyletswydd.Footnote 6

Baich y profi

  1. Unwaith fydd hawlydd wedi dangos eu bod wedi dioddef anfantais sylweddol ac wedi adnabod bod angen un neu fwy efallai o addasiadau rhesymol arnynt, mae’r baich yna’n symud i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu’r gymdeithas i brofi na fyddai’r addasiadau hynny’n rhesymol. Er mwyn i’r baich symud, rhaid cael digon o fanylion am addasiad rhesymol posib fel bo’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu’r gymdeithas yn gallu asesu a allent wneud yr addasiad posib yn rhesymol. Nid oes angen mân fanylion yr addasiad ond dylai gynnwys digon o wybodaeth fel bo’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu’r gymdeithas yn deall natur gyffredinol yr addasiad dan sylw. Nid oes angen i’r unigolyn adnabod addasiad rhesymol posib ar yr adeg pryd y dylai fod wedi cael ei wneud, ond dylai fod wedi’i adnabod erbyn cynnal gwrandawiad.Footnote 7

Y ddyletswydd i newid darpariaeth, maen prawf neu arfer

  1. Gallai fod gan y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu’r gymdeithas ddarpariaeth, maen prawf neu arfer sydd – efallai’n anfwriadol – yn creu anfantais sylweddol i bobl anabl wrth ddefnyddio eu gwasanaeth, elwa o neu gael mynediad at swyddogaeth gyhoeddus neu gymryd rhan mewn gweithgaredd cymdeithas. Mewn achos o’r fath, fel y mae paragraffau 7.8 a pharagraff 7.9 yn ei ddisgrifio, rhaid i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu’r gymdeithas gymryd y camau sy’n rhesymol iddo eu cymryd, yn yr holl amgylchiadau, i newid y ddarpariaeth, maen prawf neu arfer fel nad yw mwyach yn achosi’r anfantais sylweddol. Gallai hyn olygu cyfarwyddo staff i hepgor maen prawf neu ddiwygio arfer i ganiatáu eithriadau neu roi’r gorau iddo’n llwyr. Yn aml iawn, ni fydd newid o’r fath yn golygu fawr mwy na dangos y cwrteisi y mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaeth eisoes yn ei ddangos i’w cwsmeriaid.

Darparu gwybodaeth: darpariaeth, maen prawf neu arfer

  1. O dan y Ddeddf, os yw darpariaeth, maen prawf neu arfer yn creu anfantais sylweddol i berson anabl, a hyn yn ymwneud â darparu gwybodaeth, mae’r camau y mae’n rhesymol i’w cymryd yn cynnwys sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei darparu mewn fformat hygyrch (adran 20, paragraff 6).

Enghraifft:

  1. Mae amgueddfa’n adolygu pa mor hygyrch yw ei llenyddiaeth wybodaeth i gwsmeriaid. Mae’n penderfynu newid maint y print ac ail-ddylunio ei phamffledi a’i llenyddiaeth. Byddai hyn yn gwneud y wybodaeth yn fwy hygyrch i bobl gyda nam ar eu golwg. Mae’n sicrhau y cyflwynir y wybodaeth mewn iaith glir a hygyrch. Mae hyn yn gwneud y wybodaeth yn fwy hygyrch i bobl gyda nam ar eu clyw, anableddau dysgu neu sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Maen nhw’n debygol o fod yn gamau rhesymol i’r amgueddfa eu cymryd. Gan ddibynnu ar faint ac adnoddau’r amgueddfa, gallai hefyd fod angen darparu cymhorthion neu wasanaethau ategol fel Braille neu fersiynau Hawdd Darllen o’r wybodaeth, i bobl gyda namau eraill, fel y mae paragraff 7.61 yn ei nodi.

Cymhorthion neu wasanaethau ategol

Y ddyletswydd i ddarparu cymhorthion neu wasanaethau ategol

  1. Rhaid i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu’r gymdeithas gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol i ddarparu cymhorthion neu wasanaethau ategol, yn ôl disgrifiad paragraff 7.8 (a pharagraff 7.9 yn achos cymdeithasau), i ddileu’r anfantais a brofir gan bobl anabl.
  2. Dylai’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu’r gymdeithas drefnu i gynnal a chadw unrhyw gymorth ategol a ddarperir ganddynt. Byddai hefyd yn ddoeth cael trefniadau wrth gefn yn eu lle rhag ofn y byddai cymorth ategol yn methu’n annisgwyl. Gallai methu â sicrhau bod y cymorth ategol yn gweithio ynddo’i hun fod yn fethiant i wneud addasiad.

Beth yw cymhorthion neu wasanaeth ategol

  1. Cymhorthion neu wasanaethau ategol yw unrhyw beth sy’n darparu cymorth neu help ychwanegol i berson anabl. Er enghraifft:
  • rampiau neu reiliau llaw symudol
  • arwyddion neu hysbysiadau
  • darn arbennig o gyfarpar neu dechnoleg gynorthwyol
  • darparu cyfieithydd iaith arwyddion, siaradwr gwefusau, neu gyfathrebwr byddar-ddall
  • cymorth staff ychwanegol i bobl anabl
  • gwasanaeth trawsgrifio electronig
  • dolen sain neu system ddarlledu is-goch
  • gwasanaeth dehongli fideo
  • larymau tân clyweledol
  • darllenwyr sgrîn neu ddarllenwyr personol i bobl gyda nam ar eu golwg
  • cymorth gyda thywys
  • gwasanaeth ffôn i gyd-fynd â gwybodaeth arall

Enghraifft:

  1. Mae angen i ferch gydag anableddau dysgu a nam ar ei symudedd symud i eiddo mwy hygyrch. Mae cynllun gosod ‘rhoi dewis’ yr awdurdod lleol yn defnyddio papur wythnosol i hysbysebu eiddo sydd ar gael i bobl gyda gwahanol gategorïau o anghenion. Mae’r tai’n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin sydd piau’r lle. Mae’r awdurdod lleol yn cytuno â’r person anabl y bydd yn dyrannu aelod o staff i roi cymorth fel bod ganddi fynediad cyfartal at eiddo o’i dewis. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’r awdurdod lleol orfod ei gymryd.

Darparu gwybodaeth: cymhorthion ategol

  1. Yn ôl y Ddeddf, os yw diffyg cymhorthion neu wasanaeth ategol yn creu anfantais sylweddol i berson anabl, mae’r camau y byddai’n rhesymol i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu’r gymdeithas eu cymryd yn cynnwys sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei darparu mewn fformat hygyrch (adran 20, paragraff 6). 

Enghraifft:

  1. Mae cwmni sinemâu’n sicrhau bod ffilmiau gydag is-deitlau’n cael eu dangos ym mhob un o’i sinemâu a’r amseroedd yn cael eu hysbysebu’n glir. Mae hefyd yn prynu cyfarpar i ddarparu disgrifiad sain o’r ffilmiau i gwsmeriaid gyda nam ar eu golwg. Mae’r camau hyn yn debygol o fod yn rhai rhesymol i’r cwmni eu cymryd.
  1. Nid yw’n ofynnol dan y Ddeddf i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ddarparu cymhorthion neu wasanaethau ategol i’w defnyddio at bwrpas personol heb fod a wnelo â’r gwasanaeth, swyddogaeth neu weithgaredd, neu i fynd adref gyda nhw wedyn.

Enghraifft:

  1. Mae cwmni cyfreithwyr yn rhoi benthyg recordiwr digidol i gleient anabl gyda nifer o namau sy’n methu â chyfathrebu’n ysgrifenedig na dod i swyddfa’r cwmni. Mae’r cleient yn defnyddio’r recordiwr i recordio ei gyfarwyddiadau neu ddatganiad tyst ac yna’n ei ddychwelyd. Nid yw’n ofynnol dan y Ddeddf bod y cwmni’n rhoi benthyg recordiwr digidol i’r cleient at ddefnydd personol.
  1. Nid yw’r Ddeddf yn nodi pa gymhorthion neu wasanaethau ategol a allai gael eu darparu mewn amgylchiadau penodol. Mae’r ddyletswydd yn aros gyda’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu’r gymdeithas i benderfynu pa gamau rhesymol y gallai fod angen iddo eu cymryd.

Nodweddion ffisegol

Beth yw ‘nodwedd ffisegol’

  1. Mae nodweddion ffisegol adeilad neu safle’n cynnwys:
  • unrhyw nodwedd yn codi o ddyluniad neu adeiladwaith adeilad
  • nodwedd ar y safle o unrhyw ffordd i mewn neu allan o, neu o gael mynediad i, adeilad
  • unrhyw osodion, ffitiadau, dodrefn caled a meddal, cyfarpar (neu eiddo symudol arall yn yr Alban) yn neu ar y safle
  • unrhyw elfen neu nodwedd ffisegol arall

Mae’r ddyletswydd yn berthnasol i’r holl nodweddion hyn, p’un ai yw’r nodwedd yn un dros dro neu barhaol. Mae adeilad yn golygu strwythur neu adeiladwaith o unrhyw fath.

  1. Mae nodweddion ffisegol yn cynnwys:
  • stepiau a grisiau
  • cyrbiau, wynebau allanol a phafinau
  • mannau parcio
  • mynedfeydd ac allanfeydd adeiladau (gan gynnwys dihangfeydd brys)
  • drysau mewnol ac allanol a gatiau
  • cyfleusterau toiled ac ymolchi
  • cyfleusterau cyhoeddus (fel ffonau, cownteri neu ddesgiau gwasanaeth)
  • goleuadau ac awyru
  • lifftiau a grisiau symudol
  • gorchuddion llawr, arwyddion, dodrefn ac eitemau dros dro neu symudol (fel cyfarpar a raciau arddangos)
  • maint yr adeilad ayyb (er enghraifft, maint canolfan siopa)

Nid yw’r rhestr yn un gynhwysfawr.

Enghraifft:

  1. Mae canolfan siopa fawr allan-o’r-dref yn darparu sgwteri symudedd modur fel addasiad rhesymol i bobl gyda nam ar eu symudedd a fyddai fel arall yn profi anfantais sylweddol wrth ddefnyddio’r ganolfan siopa.
  1. Os yw nodweddion ffisegol o fewn terfynau adeilad y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn creu anfantais sylweddol i bobl anabl, bydd dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol (adran 20, paragraff 4, ac atodlen 2, paragraff 1 ac atodlen 15, paragraff 1). Bydd angen gwneud yr addasiadau hyd yn oed os yw’r nodweddion ffisegol yn yr awyr agored, er enghraifft, llwybrau a seddi mewn gardd tafarn (adran 20, paragraff 10).
  2. Mae nodwedd ffisegol yn cynnwys rhai a gludir gan neu ar ran y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas i adeilad neu safle nad yw’n ei feddiannu fel arfer (atodlen 2, paragraff 2(6) ac atodlen 15, paragraff 2(6)).

Enghraifft:

  1. Mae grŵp theatr awyr agored yn dod â’i gadeiriau teras ei hun i leoliadau ei berfformiadau. Byddai’r cadeiriau / seddi hyn yn nodwedd ffisegol i bwrpas y Ddeddf.

Dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i nodweddion ffisegol

  1. Rhaid i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas gymryd unrhyw gamau ag y bo’n rhesymol i osgoi bod nodwedd ffisegol yn creu anfantais sylweddol i bobl anabl.

Osgoi anfantais sylweddol

  1. Mae’r Ddeddf (adran 20, paragraff 9, atodlen 2, paragraff 1 a pharagraff 2, ac atodlen 15, paragraff 1, 2(3) a 2(5) i 2(8) yn nodi bod osgoi anfantais sylweddol a achosir gan nodwedd ffisegol yn cynnwys:
  • gwneud i ffwrdd â’r nodwedd ffisegol dan sylw
  • addasu’r nodwedd, neu
  • darparu ffordd resymol o osgoi’r nodwedd

Gwneud i ffwrdd â’r nodwedd ffisegol

  1. Gallai gwneud i ffwrdd â nodwedd ffisegol fod yn gam rhesymol, a’r un mwyaf effeithiol, i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ei gymryd.

Enghraifft:

  1. Mae unedau arddangos wrth ddod i mewn i siop fach yn rhwystro pobl mewn cadeiriau olwyn rhag dod i mewn. Mae’r perchennog yn penderfynu y gallai symud yr unedau arddangos i ran arall o’r siop heb golli gormod o ofod gwerthu. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’r siop ei gymryd.

Addasu’r nodwedd ffisegol

  1. Gallai addasu’r nodwedd ffisegol fel nad yw mwyach yn creu anhawster sylweddol i bobl anabl o ran mynediad hefyd fod yn gam rhesymol i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ei gymryd.

Enghraifft:

  1. Mae gan glwb aelodau preifat far uchel sy’n creu anfantais sylweddol i bobl mewn cadeiriau olwyn wrth aros i gael gwasanaeth wrth y bar. Mae’r clwb yn gostwng rhan o’r bar i wneud gweini ar ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn haws. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’r clwb ei gymryd.

Darparu ffordd resymol o osgoi’r nodwedd ffisegol

  1. Gallai darparu ffordd resymol o osgoi’r nodwedd ffisegol hefyd fod yn gam rhesymol i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ei gymryd.

Enghraifft:

  1. Mae gwasanaeth prawf yn cynnal cyfarfodydd yn ei swyddfa gyda throseddwyr sydd wedi derbyn gorchmynion adsefydlu cymunedol. Mae gan yr ystafell gyfarfod ddau ris i fynd i fyny ati, sy’n golygu na all pobl mewn cadeiriau olwyn neu nam ar eu symudedd ddefnyddio’r ystafell. Mae’r gwasanaeth prawf yn penderfynu gosod ramp parhaol wrth ochr y ddau ris fel bo’r troseddwyr anabl yn gallu mynychu’r cyfarfodydd. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’r gwasanaeth prawf ei gymryd.

Enghraifft:

  1. Yn enghraifft paragraff 7.75, mae’r clwb yn ystyried y posibilrwydd o ostwng y bar ond yn dod i gasgliad nad yw’n ymarferol gwneud y gwaith angenrheidiol. Yn lle hynny, mae’n penderfynu cynnig gwasanaeth bwrdd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’r clwb ei gymryd.
  1. O dan y Ddeddf, rhaid i unrhyw ffordd o osgoi nodwedd ffisegol fod yn un ‘resymol’. Gallai ystyriaethau perthnasol yn hyn o beth gynnwys ydy darparu’r gwasanaeth, ymarfer y swyddogaeth neu gynnal gweithgaredd y gymdeithas yn y ffordd yma’n amharu’n sylweddol ar urddas pobl anabl neu’n achosi anhwylustod neu orbryder i bobl anabl.

Enghraifft:

  1. Mae’r fynedfa i swyddfa gynllunio awdurdod lleol i fyny rhes o risiau. Ar y llawr gwaelod, mae cloch ac arwydd yn dweud ‘Canwch y gloch am fynediad anabl’. Fodd bynnag, nid yw’r gloch yn cael ei hateb yn brydlon, hyd yn oed mewn tywydd drwg. Mae pobl anabl sy’n dod i gyfarfod swyddogion yn aml yn gorfod aros yn afresymol o hir cyn gallu dod i mewn i’r adeilad. Mae hyn yn annhebygol o fod yn ffordd resymol o osgoi’r nodwedd.

Darparu dull mynediad arall rhesymol

  1. Os na ellir osgoi’r anfantais sylweddol a achosir gan nodwedd ffisegol, dylai’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ystyried a oes dull arall rhesymol o ddarparu mynediad i bobl anabl (atodlen 2, paragraff 2(3)(b) ac atodlen 15, paragraff 2(3)(b)). O dan y Ddeddf, rhaid i unrhyw ddull arall o ddarparu mynediad fod yn un ‘rhesymol’. Gallai ystyriaethau perthnasol yn hyn o beth gynnwys ydy darparu’r gwasanaeth, ymarfer y swyddogaeth neu gynnal gweithgaredd y gymdeithas yn y ffordd yma’n amharu’n sylweddol ar urddas pobl anabl neu’n achosi anhwylustod neu orbryder i bobl anabl.

Enghraifft:

  1. Mae’r cyfleusterau newid mewn campfa wedi eu lleoli mewn ystafell y mae’n rhaid dringo grisiau i’w cyrraedd. Mae’r darparwr gwasanaeth yn awgrymu i ddefnyddwyr anabl y gampfa sydd â nam ar eu symudedd eu bod yn newid yng nghornel y gampfa. Mae hyn yn annhebygol o fod yn ddull arall rhesymol o ddarparu’r gwasanaeth oherwydd gallai amharu’n sylweddol ar eu hurddas.
  1. Os oes nodwedd ffisegol, nod y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ddylai sicrhau bod eu gwasanaeth, swyddogaeth neu weithgaredd yn hygyrch i bobl anabl a bod eu profiad mor agos ag y bo’n rhesymol bosib at brofiad unigolion heb fod yn anabl. Wrth ystyried pa opsiwn i’w gyflwyno, rhaid i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas gydbwyso a chymharu’r opsiynau eraill drwy ystyried bwriad y Ddeddf sef, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, darparu’r un mynediad i bobl anabl ag i bobl heb fod yn anabl.
  2. Os yw’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn penderfynu darparu mynediad drwy ddull arall, a’r person anabl yn gwneud hawliad yn eu herbyn am fethu â gwneud addasiadau rhesymol, byddai’r llys wrth ystyried yr hawliad yn gallu ystyried yr opsiynau eraill a allai fod wedi cael eu cyflwyno i osgoi’r anfantais sylweddol i’r person anabl. Er enghraifft, bydd trefnu i ddarparu gwasanaeth personol rhithiol i berson anabl oherwydd problemau mynediad ond yn opsiwn rhesymol arall os nad oes ffordd resymol o ddarparu mynediad ffisegol at y gwasanaeth i’r person anabl.Footnote 8

Enghraifft:

  1. Mae asiant tai’n marchnata datblygiad tai preswyl newydd. Mae’n penderfynu rhoi cyflwyniadau manwl i ddarpar brynwyr yn adeilad y cwmni, gyda sgwrs a sleidiau’n cael eu dangos. Fodd bynnag, mae’r unig ystafell gyfarfod sydd ar gael yn yr adeilad ar hyd coridor cul ac i fyny rhes o risiau, gan wneud mynediad yn amhosib i rai ac yn anodd i eraill. Mae’r asiant tai’n derbyn dyfynbris i wneud ei adeilad yn fwy hygyrch ond mae’r gost yn fwy nag yr oedd yn ei ddisgwyl, ac mae’n dal yn ôl ar wneud y gwaith. Mae rhai pobl anabl, sy’n methu dod i gyflwyniad oherwydd bod yr ystafell yn anhygyrch iddynt, yn gwneud ymholiadau. Anfonir copïau o lenyddiaeth hyrwyddo cymharol fyr atynt. Mae hyn yn annhebygol o fod yn ddull arall rhesymol o wneud y gwasanaeth ar gael a gallai greu anfantais sylweddol i’r bobl anabl hyn. Pe bai problem yn codi o dan y Ddeddf ynghylch a fethodd yr asiant tai â chydymffurfio â’i rwymedigaethau tuag at bobl anabl, byddai’n rhaid ystyried a fyddai wedi bod yn rhesymol i’r asiant tai osgoi’r anfantais sylweddol drwy addasu, osgoi neu wneud i ffwrdd â’r nodweddion ffisegol perthnasol, er enghraifft, drwy gynnal y cyfarfod yn rhywle arall. Byddai hefyd angen ystyried a fyddai dull arall mwy effeithiol o ddarparu’r gwasanaeth wedi cael ei fabwysiadu’n rhesymol. Gallai trefnu i gyfarfod yn rhithiol fod wedi darparu dull arall effeithiol o ddarparu’r gwasanaeth os nad oedd ffordd resymol o roi mynediad corfforol i’r person anabl i adeilad y cwmni.

Prydlesi, rhwymedigaethau ymrwymol ac addasiadau rhesymol

Beth sy’n digwydd os yw prydles yn nodi na ellir gwneud rhai newidiadau i adeilad neu safle

7.92 Mae darpariaethau arbennig ar gael os yw’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn defnyddio adeilad neu safle dan brydles neu gytundeb tenantiaeth ac mae’r telerau’n eu hatal rhag gwneud addasiadau (atodlen 21, paragraff 3).

7.93 Yn yr amgylchiadau hyn, os yw’r addasiad yn un y mae’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn bwriadu ei wneud i gydymffurfio â dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol, mae’r Ddeddf yn caniatáu darllen y brydles fel pe bai’n darparu:

  • bod y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gallu gwneud cais ysgrifenedig i’r landlord am y caniatâd hwnnw
  • bod y landlord ddim yn cael gwrthod caniatâd yn afresymol
  • bod y landlord yn gallu rhoi caniatâd gydag amodau rhesymol, a
  • bod y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gallu gwneud yr addasiad gyda chaniatâd ysgrifenedig y landlord
  1. Yn y sefyllfa hon, dylai’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas wneud cais ysgrifenedig i’r landlord am ganiatâd i wneud yr addasiad. Ni all ddibynnu ar y ffaith bod telerau’r brydles yn ei atal rhag gwneud addasiad i’r adeilad i’w amddiffyn rhag ei fethiant i wneud addasiad. Wrth benderfynu a oedd yn rhesymol i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas fod wedi gwneud yr addasiad, rhaid anwybyddu unrhyw beth yn y brydles sy’n atal gwneud yr addasiad.
  2. Bydd penderfynu a fyddai landlord yn gwrthod caniatâd yn rhesymol neu beidio’n dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Er enghraifft, os yw addasiad penodol yn debygol o arwain at leihad parhaol sylweddol ym mudd y landlord yn yr adeilad neu safle, mae’r landlord yn debygol o fod yn ymddwyn yn rhesymol yn gwrthod caniatâd. Mae’r landlord hefyd yn debygol o fod yn ymddwyn yn rhesymol drwy wrthod caniatâd oherwydd y byddai addasiad yn aflonyddu neu’n anghyfleus iawn i denantiaid eraill (er enghraifft, os yw’r adeilad yn cynnwys nifer o unedau cyfagos).
  3. Byddai rheswm dibwys neu fympwyol bron yn sicr yn afresymol. Mae nifer o addasiadau rhesymol i adeilad neu safle na fyddai’n niweidiol i fuddiannau’r landlord, felly byddai fel arfer yn afresymol gwrthod caniatad.
  4. Os yw’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas wedi ysgrifennu at y landlord am ganiatâd i wneud addasiad a’r landlord wedi gwrthod neu wedi rhoi amodau, gall y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas neu’r person anabl sydd â budd yn yr addasiad arfaethedig gyfeirio’r mater at y llys sirol (neu’r Siryf yn yr Alban) (atodlen 21, paragraff 4). Y llys wedyn fydd yn penderfynu a oedd gwrthodiad y landlord, neu unrhyw un o’r amodau, yn afresymol. Os yw’n penderfynu eu bod, gall y llys wneud datganiad priodol neu awdurdodi’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas i wneud yr addasiad drwy orchymyn llys, a gallai gynnwys amodau.
  5. Mewn unrhyw achos cyfreithiol yn ymwneud â hawliad am fethu â gwneud addasiad rhesymol, gall y person anabl dan sylw neu’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ofyn i’r llys gyfarwyddo bod y landlord yn cael ei wneud yn un o’r partïon (atodlen 21, paragraff 5). Bydd y llys yn caniatáu’r cais os yw’n cael ei wneud cyn dechrau’r gwrandawiad. Gallai wrthod y cais os yw’n cael ei wneud ar ôl i’r gwrandawiad ddechrau. Ni chaniateir y cais os yw’n cael ei wneud ar ôl i’r llys benderfynu’r hawliad.
  6. Os yw’r landlord wedi’i wneud yn un o bartïon yr achos, gallai’r llys benderfynu a wrthododd y landlord roi caniatâd, neu a roddodd ganiatâd i’r addasiad gydag amodau. Yn y naill achos neu’r llall, gallai benderfynu a oedd y gwrthodiad neu’r amod yn afresymol.
  7. Os yw’r llys yn barnu bod y gwrthodiad neu’r amod yn afresymol, gall:
  • gwneud datganiad priodol
  • awdurdodi’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas i wneud addasiad penodol (ar unrhyw amodau y gallai eu dynodi)
  • gorchymyn y landlord i dalu iawndal i’r person anabl
  1. Os yw’r llys yn gorchymyn bod y landlord yn talu iawndal, ni all hefyd orchymyn y sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas i wneud hynny.

Beth sy’n digwydd os yw rhwymedigaeth ymrwymol heblaw am brydles yn atal addasu adeilad

  1. Gallai’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas fod wedi eu rhwymo gan delerau cytundeb neu rwymedigaeth ymrwymol-gyfreithiol arall (er enghraifft, morgais, pridiant neu gyfamod cyfyngu, neu drefniant ‘feu’ yn yr Alban) yn atal addasu’r adeilad heb ganiatâd rhywun arall.
  2. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’r Ddeddf yn darparu ei bod o hyd yn rhesymol i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas orfod gofyn am y caniatâd ond nad yw byth yn rhesymol iddo orfod gwneud addasiad cyn cael y caniatâd hwnnw (atodlen 21, paragraff 2).

Yr angen i gael caniatâd statudol ar gyfer rhai newidiadau adeilad

  1. Gallai’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas orfod cael caniatâd statudol cyn gwneud addasiad a fyddai’n newid adeilad neu safle. Mae’r caniatadau hyn yn cynnwys caniatâd cynllunio, caniatâd rheoliadau adeiladu neu warant adeiladu yn yr Alban, caniatâd adeilad rhestredig, caniatâd heneb gofrestredig, neu ganiatâd rheoliadau tân. Nid yw’r Ddeddf yn blaenori ar fod angen y caniatadau hyn.
  2. Dylai’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas gynllunio ar gyfer, a rhagweld, bod angen cael caniatâd i wneud addasiad. Gallai gymryd amser i gael y caniatâd ond yn y cyfamser gallai fod yn rhesymol gwneud addasiad dros dro neu addasiad arall nad oes angen caniatâd ar ei gyfer.
  3. Bydd yr angen i gael caniatadau statudol yn un ffactor fydd yn rhan o asesu rhesymoldeb wrth ystyried y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Fodd bynnag, nid y ffactor yma o reidrwydd fydd yr un benderfynol, oni bai y gwrthodir caniatadau sydd eu hangen.Footnote 9 Dylai’r sawl sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas gofio, hyd yn oed os na roddir caniatâd i addasu neu wneud i ffwrdd â nodwedd ffisegol, bod ganddynt er hynny ddyletswydd i ddarparu mynediad mewn ffordd resymol arall.

Darpariaethau arbennig o ran cerbydau trafnidiaeth

  1. Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol i ddefnyddio cerbydau trafnidiaeth penodol. Fel yr eglurir ym mharagraff 3.31, nid yw’r Cod hwn yn berthnasol i’r darpariaethau hyn (atodlen 2, paragraff 3).

Addasiadau rhesymol ar waith

  1. Pan fydd rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn ystyried gwneud addasiadau rhesymol, mae’r mesurau canlynol yn arfer da a allai helpu i osgoi gwahaniaethu. Mewn rhai amgylchiadau, gallent naill ai fod yn ffordd o adnabod addasiadau rhesymol neu fod yn addasiadau rhesymol ynddynt eu hunain:
  • cynllunio ymlaen llaw ar gyfer anghenion pobl anabl ac adolygu’r addasiadau rhesymol sydd yn eu lle
  • gwneud archwiliad mynediad o’r adeilad neu safle
  • holi barn pobl anabl am addasiadau rhesymol
  • ymgynghori gyda grwpiau anabledd lleol a chenedlaethol
  • tynnu sylw pobl anabl at addasiadau rhesymol perthnasol fel eu bod yn gwybod y medrant ddefnyddio’r gwasanaeth, elwa o neu ddefnyddio swyddogaeth, neu gymryd rhan yng ngweithgareddau cymdeithas
  • cynnal a chadw eu cymhorthion ategol a sicrhau bod ganddynt gynllun wrth gefn yn ei le rhag ofn i gymorth ategol fethu
  • hyfforddi staff ar sut i ymateb i geisiadau am addasiadau rhesymol
  • annog gweithwyr i ddatblygu sgiliau ychwanegol ar gyfer pobl anabl, er enghraifft, cyfathrebu gyda phobl gyda nam ar eu clyw
  • sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ac yn deall sut i gyfathrebu gyda phobl anabl er mwyn gallu adnabod a gwneud addasiadau rhesymol
  1. Byddai’n ddoeth i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas gadw cofnod o unrhyw gamau a gymerir ganddynt a restrir ym mharagraff 7.108.

Lawrlwythiadau dogfen

Footnotes

  • Footnote 1

    Griffiths v Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau [2015] EWCA Sifil 1265 yn §§41, 47 a 58

  • Footnote 2

    R (VC) v Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref [2018] EWCA Sifil 57 yn §153 ac R (Rowley) v Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet [2022] 1 WLR 1179 yn §24

  • Footnote 3

    Griffiths v Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn §58

  • Footnote 4

    R (VC) v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref

  • Footnote 5

    First Group plc v Paulley [2017] UKSC 4

  • Footnote 6

    Finnigan v Prif Gwnstabl Heddlu Northumbria [2013] EWCA Sifil 1191

  • Footnote 7

    Latif v Y Sefydliad Rheoli Prosiectau [2007] IRLR 579

  • Footnote 8

    Royal Bank of Scotland Group plc v Allen [2009] EWCA Sifil 1213

  • Footnote 9

    Plummer v Royal Herbert Freehold Limited [2018] 5 WLUK 5

Diweddariadau tudalennau