Datganiad

Ein llythyr at Lywodraeth Cymru ar ddiwygio awdurdodau tân ac achub

Wedi ei gyhoeddi: 4 Tachwedd 2025

Annwyl Gangen y Gwasanaethau Tân,

Testun: Diwygio awdurdodau tân ac achub yng Nghymru 2025

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn croesawu'r cyfle i barhau i ymgysylltu â thîm Gwasanaethau Tân Llywodraeth Cymru ynghylch diwygio Awdurdodau Tân ac Achub (FRAau) a Gwasanaethau Tân ac Achub (FRSau) yng Nghymru.

Cyflwynwyd ymateb gennym i’r ymgynghoriad Diwygio Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru 2025 ac ar hyn o bryd rydym yn drafftio ymateb i'r ymgynghoriad ar y Fframwaith Cenedlaethol drafft ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub.

Rydym yn ysgrifennu atoch i dynnu sylw at rai o'r pwyntiau allweddol a gynhwysir yn ein hymateb i'r ymgynghoriad. Rydym yn hapus i gyfarfod i drafod ein hymateb ac i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Cyd-destun yr ymgynghoriad

Rhaid i FRAau ac FRSau gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 (EA2010), gan gynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED), sy'n bodoli i integreiddio ystyriaeth o gydraddoldeb a chysylltiadau da i fusnes dyddiol cyrff cyhoeddus.

Mae'r PSED yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i'r angen i: 

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt
  • meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt

Fel cyrff cyhoeddus rhestredig, mae FRAau ac FRSau hefyd yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau penodol ar gyfer Cymru o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Mae'r dyletswyddau hyn yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi amcanion cydraddoldeb, amcan cydraddoldeb bwlch cyflog rhwng y rhywiau a gwybodaeth am gydraddoldeb cyflogeion. Maent yn annog cyrff cyhoeddus i fod yn dryloyw, cyflawni eu dyletswydd gyffredinol ac ystyried materion cydraddoldeb. Mae ein canllawiau technegol ar y Ddyletswydd Cydraddoldeb: Cymru yn rhoi esboniad llawn o'r Ddyletswydd Cydraddoldeb a'r dyletswyddau penodol.

Crynodeb o’n hymateb

​Dylai mwy o graffu, tryloywder ac atebolrwydd helpu i ddatgelu maint problemau cydraddoldeb y gweithlu gydag FRSau a rhoi cipolwg ar ba gamau unioni sy'n arwain at newid cadarnhaol.

Rydym yn croesawu diwygiad llywodraethu Llywodraeth Cymru o FRSau yng Nghymru ac yn gwneud yr argymhellion canlynol i Lywodraeth Cymru:

  • hyfforddi aelodau'r FRAau i graffu ar effeithiau cydraddoldeb ac asesu cydymffurfiaeth â'r PSED a'r ddyletswydd i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle
  • defnyddio recriwtio aelodau annibynnol yr FRA i gryfhau arbenigedd mewn cydraddoldeb a diwylliant y gweithlu
  • sicrhau bod recriwtio aelodau annibynnol yn agored ac yn dryloyw, gan ystyried camau cadarnhaol i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth grwpiau nodweddion gwarchodedig
  • sefydlu arolygiadau rheolaidd, annibynnol o FRAau, gyda fframweithiau sy'n asesu cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010 a'r PSED
  • sefydlu mecanweithiau atebolrwydd tryloyw i fonitro ac adrodd ar gynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu diwylliant y gweithlu ar draws y tri FRSau

​Bydd ffocws gwell ar gydymffurfiaeth â'r PSED a deddfwriaeth gysylltiedig yn mynd i'r afael â phroblemau hirhoedlog a nodwyd yn eich dogfen ymgynghori, adolygiadau diwylliant annibynnol yr FRS ac adroddiadau pwyllgor y Senedd. Bydd yn cefnogi datblygiad gwasanaethau tân ac achub cynhwysol, cynrychioliadol a pherfformiad uchel.

Yn gywir,

Parch. Ruth Coombs

Pennaeth Cymru