- Bydd yr Ail Labordy Effeithlonrwydd Dŵr (WEL 2) yn rhoi cymhellion ac yn gwobrwyo atebion arloesol sy’n lleihau gollyngiadau mewn cartrefi a busnesau er mwyn lleihau gwastraff dŵr ac arbed arian.
- Mae rhwng 1 ac 1.5 biliwn litr o ddŵr yn cael ei golli oherwydd gollyngiadau yn ein cartrefi a’n busnesau bob dydd, gan gostio hyd at £1.6 biliwn y flwyddyn i dalwyr biliau.
- Mae Lloegr yn wynebu diffyg o 5 biliwn litr y dydd ar gyfer cyflenwadau dŵr cyhoeddus erbyn 2055 – a diffyg pellach o 1 biliwn litr y dydd ar gyfer yr economi ehangach.
- Mae Cymru yn wynebu her sylweddol o ran rheoli dŵr oherwydd effeithiau newid hinsawdd, gyda rhagolygon y bydd cynnydd mawr yn y galw erbyn 2055 os na chymerir camau gweithredu.
Bydd yr ail Labordy Effeithlonrwydd Dŵr (WEL2) yn dyfarnu hyd at £5 miliwn i arloeswyr sy’n datblygu offer ac atebion a all helpu i nodi a lleihau’r 1 i 1.5 biliwn litr o ddŵr a gollir oherwydd gollyngiadau mewn cartrefi a busnesau bob dydd.
Amcangyfrifir bod rhwng 1 a 1.5 biliwn litr y dydd[1] yn cael ei golli oherwydd gollyngiadau yn ein cartrefi a’n gweithleoedd – sy’n cyfateb i hyd at 547 biliwn litr y flwyddyn ac yn costio rhwng £1-1.6 biliwn i gwsmeriaid a busnesau.[2] Gall hyn gynnwys gollyngiadau o bibellau neu ffitiadau dŵr, gan gynnwys plymwaith mewnol a phibellau cyflenwi allanol o fewn ffiniau eiddo.
Yn ogystal â’r gost uniongyrchol i gwsmeriaid, costiodd hawliadau “dŵr yn dianc” gan fusnesau ac aelwydydd £1.25 biliwn i yswirwyr y DU yn 2024, gyda bron i dri chwarter o’r swm hwnnw’n dod o ollyngiadau mewn cartrefi.[3]
Mae canfod a thrwsio gollyngiadau ar ochr y cwsmer yn hanfodol er mwyn sicrhau gwell gwydnwch dŵr, cyflenwadau dŵr i bawb, ac atal y difrod amgylcheddol os caiff gormod o ddŵr ei dynnu o ddyfrhaenau neu afonydd. Drwy nodi a thrwsio gollyngiadau yn rhagweithiol, gall cwsmeriaid leihau eu biliau dŵr a lleihau’r risg o ddifrod costus i eiddo a biliau atgyweirio annisgwyl.
Drwy’r Labordy Effeithlonrwydd Dŵr, bydd Ofwat yn dyfarnu £5 miliwn i’r atebion mwyaf addawol sy’n helpu i atal, rhagweld, nodi a/neu drwsio gollyngiadau ar ochr y cwsmer mewn cartrefi a busnesau – gyda hyd at £1.5 miliwn ar gael i bob enillydd:
- ATAL: Atal gollyngiadau trwy ddeunyddiau gwell, gosodiadau hygyrch, neu ôl-osod cydrannau gwydn
- RHAGFYNEGI: Defnyddio ddata neu fodelau i ragfynegi ble a phryd mae gollyngiad yn debygol o ddigwydd cyn i fethiant ddigwydd
- NODI LLEOLIAD: Nodi union leoliad gollyngiad a amheuir neu a gadarnhawyd – fel ‘toiled yn yr ystafell ymolchi ar yr ail lawr’ yn hytrach na ‘rhywle yn yr eiddo hwn’
- TRWSIO: Galluogi atgyweiriadau sy’n cynnwys ymyrraeth isel, aflonyddwch isel neu gost isel, neu symleiddio’r daith atgyweirio o’i chanfod i’w chwblhau
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd Llywodraeth Cymru:
“Mae dŵr yn un o adnoddau mwyaf gwerthfawr Cymru, ac mae meithrin gwydnwch hirdymor yn golygu ei ddefnyddio’n ddoeth a lleihau gwastraff lle bynnag y gallwn. Wrth i’r galw gynyddu a newid hinsawdd roi pwysau cynyddol ar adnoddau dŵr, bydd gwella effeithlonrwydd dŵr yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu cyflenwadau i bobl, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd. Mae’r Labordy Effeithlonrwydd Dŵr yn union y math o ddull ymarferol, dan arweiniad arloesedd, sydd ei angen arnom, gan gefnogi offer newydd sy’n helpu pobl a busnesau i atal, rhagfynegi, nodi a thrwsio gollyngiadau yn gyflymach.
Edrychaf ymlaen at weld beth all y rownd nesaf hon o arloeswyr ei gyflawni i Gymru.”
Dywedodd Paul Hickey, Rheolwr Gyfarwyddwr RAPID, Ofwat:
“Mae hafau cynhesach a sychach a gaeafau gwlypach yn rhoi pwysau ar ein cyflenwad dŵr, a bydd newid hinsawdd ond yn cyflymu’r duedd hon. Mae hyn yn golygu mewn llawer o ardaloedd ein bod ni’n defnyddio dŵr yn gyflymach nag y gall natur ei roi yn ei ôl. Fel mae pethau, ni fydd digon o ddŵr i ddiwallu’r galw os bydd yn aros ar y lefelau presennol, ond gyda’r data a’r dechnoleg i ddefnyddio dŵr yn fwy doeth, gallwn amddiffyn yr amgylchedd a lleihau defnydd i gyd ar unwaith.
“Mae chwarter o’r holl ddŵr sy’n cael ei golli oherwydd gollyngiadau yn digwydd yn ein cartrefi a’n busnesau, ond bydd torri eu nifer yn arbed dŵr, ynni ac arian cwsmeriaid. Fodd bynnag, ni ellir disgwyl i ddefnyddwyr dŵr leihau eu defnydd o ddŵr ar eu pen eu hunain – dyna pam mae angen offer, technolegau a mewnwelediadau newydd arnynt a ariennir gan y Labordy Effeithlonrwydd Dŵr i leihau eu defnydd o ddŵr mewn ffordd sy’n cefnogi, neu’n gwella mewn gwirionedd, ansawdd bywyd neu weithrediadau busnes.”
Dywedodd Dr Dan Simmons, Rheolwr Gyfarwyddwr, Quensus Intelligent Water Management & Leak Detection, sy’n arwain y prosiect buddugol Labordy Effeithlonrwydd Dŵr 1, The WIN Initiative:
“Mae eiddo masnachol y DU yn colli hyd at 30% o’u dŵr i ollyngiadau cudd ar ochr y cwsmer fel falfiau toiled diffygiol. Nid yw data yn unig yn atal hyn. Drwy’r Fenter WIN, rydym yn cyfuno data synhwyrydd dŵr byw â meddiannaeth a defnydd ynni adeilad i wahanu problemau go iawn oddi wrth amrywiadau arferol mewn defnydd dŵr. Mae cyllid rownd un eisoes wedi ein helpu i oresgyn rhwystr sylweddol: cael tenantiaid, landlordiaid, rheolwyr cyfleusterau, manwerthwyr dŵr ac yswirwyr i gytuno i’r gosod a’r rhannu data. Pe bai’n cael ei chyflwyno’n genedlaethol, gallai’r dechnoleg hon arbed hyd at 35 miliwn metr ciwbig o ddŵr y flwyddyn.”
Mae Deddf yr Amgylchedd wedi gosod targed uchelgeisiol i leihau’r defnydd o gyflenwad dŵr cyhoeddus fesul person 20% i 122 litr y dydd erbyn diwedd mis Mawrth 2038 (gan anelu yn y pen draw at 110 litr y dydd erbyn 2050) er mwyn amddiffyn yr amgylchedd a sicrhau cyflenwadau yfed. Ar gyfartaledd, rydym yn defnyddio 144 litr o ddŵr y dydd ar hyn o bryd, sef cyfanswm o 8.8 biliwn litr.
Mae gollyngiadau mewn cartrefi a busnesau yn cyfrif am tua chwarter y dŵr a gollir oherwydd gollyngiadau yng Nghymru a Lloegr, gyda thri chwarter (bron i 3 biliwn litr y dydd) yn digwydd yn y prif rwydwaith.[4] Mae gan gwmnïau dŵr lefelau uchaf erioed o gyllid i gyflawni’r uwchraddiad mwyaf a welwyd i seilwaith dŵr, gan wella cyflenwad dŵr a gwydnwch. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad targedig o 17% mewn gollyngiadau erbyn 2030, ar ben y gostyngiad o 43% a gyflawnwyd yn y 35 mlynedd diwethaf. Os bydd cwmnïau’n methu â chyflawni hyn, bydd Ofwat yn eu dwyn i gyfrif gan gynnwys dychwelyd arian i gwsmeriaid.
Mae cefnogi defnyddwyr i nodi a lleihau gollyngiadau mewn cartrefi a busnesau yn helpu i fynd i’r afael â gollyngiadau y tu allan i reolaeth cwmnïau dŵr. A bydd newidiadau bach gan bawb gartref ac yn y gwaith yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’r Labordy Effeithlonrwydd Dŵr yn meithrin arloesedd er mwyn grymuso pobl a busnesau i leihau eu defnydd o ddŵr a chefnogi’r sector dŵr i adeiladu system ddŵr fwy cynaliadwy, gwydn ac effeithlon.
Gall un toiled sy’n gollwng golli cymaint â 250 litr y dydd – a chostio tua £20 y mis i gwsmeriaid. Gyda’r offer a’r technolegau cywir i atal gollyngiadau ar eu heiddo, nod y Labordy Effeithlonrwydd Dŵr yw arbed arian i gwsmeriaid wrth leihau gollyngiadau.
Ym mis Mehefin 2026, cyhoeddodd Ofwat enillwyr WEL1, sy’n ariannu arloesiadau sy’n rhoi mewnwelediadau sy’n seiliedig ar ddata i ddefnyddwyr dŵr i’w helpu i wneud dewisiadau effeithlon o ran dŵr. Mae’r enillwyr yn cynnwys rhaglen gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) i helpu perchnogion tai i wneud dewisiadau effeithlon o ran dŵr yn eu gardd, cynllun peilot sy’n gosod offer cartref effeithlon o ran dŵr mewn cartrefi i leihau eu defnydd o ddŵr i ddim ond 50 litr y dydd, a phartneriaeth ag archfarchnadoedd, tafarndai a manwerthwyr er mwyn deall sut i ddefnyddio dŵr yn glyfar ar draws eu hadeiladau.
Mae enillydd WEL arall, sef Menter WIN, dan arweiniad Quensus, wedi derbyn £495,000 i osod mwy na 1,000 o synwyryddion ar draws 30 o adeiladau masnachol er mwyn mynd i’r afael â’r 10 i 30 y cant o ddŵr a gollir mewn lleoliadau masnachol oherwydd gollyngiadau a llif parhaus. Bydd y prosiect hefyd yn profi a allai cysylltu effeithlonrwydd dŵr â phremiymau yswiriant droi arbed dŵr o fod yn ymrwymiad gwirfoddol i un â chymhelliant ariannol, gyda’r cwmni yswiriant Aviva yn archwilio sut y gallai safon Cynllun Rheoli Dŵr newydd ddatgloi manteision i berchnogion adeiladau.
Caiff y Labordy Effeithlonrwydd Dŵr ei gyflwyno gan arbenigwyr gwobrau arloesi Challenge Works (rhan o Nesta), mewn partneriaeth ag Arup ac Isle, ac mae wedi’i ariannu gan Gronfa Effeithlonrwydd Dŵr Ofwat.
Mae ceisiadau’n agor am 1pm ar 3 Awst 2026 ac yn cau ar 20 Hydref 2026. Am fanylion llawn ac i wneud cais, ewch i waterinnovation.challenges.org
-DIWEDD-
Nodiadau i Olygyddion
[1] Tua 750-800 miliwn litr y dydd ar gyfer gollyngiadau pibell gyflenwi cwsmeriaid (y bibell o dan eich dreif/rhwng eich mesurydd a’ch cartref). Yn ogystal â hynny, 300-700 miliwn litr y dydd ar gyfer colledion plymwaith sy’n anodd iawn i’w gwerthuso, yn enwedig gan eu bod yn gostwng yn sylweddol cyn gynted ag y bydd gennych fesurydd clyfar, felly ni allwn eu mesur heb effeithio arnynt FFYNHONNELL: Diffiniadau ar gyfer adrodd ar ollyngiadau pibellau cyflenwi cwsmeriaid a cholledion plymwaith, Artesia a HR Wallingford, Ebrill 2026 (ar gyfer Ofwat)
[2] Cost nodweddiadol litr o ddŵr tap yw 0.3c/litr (neu £0.003/litr), sy’n cyfateb i rhwng £3,000,000 a £4,500,000 y dydd am 1-1.5 biliwn litr o ddŵr a gollir oherwydd gollyngiadau ar ochr y cwsmer, neu £1,095,000,000 i £1,642,500,000 y flwyddyn.
[3] Amcangyfrifon gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain
[4] Mae tua 3 biliwn litr o ddŵr yn cael ei golli oherwydd gollyngiadau yn rhwydwaith y prif gyflenwad bob dydd yng Nghymru a Lloegr. Mae gan gwmnïau dŵr dargedau i leihau gollyngiadau rhwydwaith 17% erbyn 2030. FFYNHONNELL: Ofwat: Gollyngiadau.
Ar gyfer pob ymholiad gan y cyfryngau ynglŷn â’r Labordy Effeithlonrwydd Dŵr neu’r Gronfa Arloesi Dŵr, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch +44 (0) 20 7754 3610
Ar gyfer pob ymholiad gan y cyfryngau ynglŷn â Dewch i Arbed Dŵr, yr ymgyrch effeithlonrwydd dŵr, cysylltwch â swyddfa’r wasg Ofwat ar [email protected] neu ffoniwch 0121 644 7700
Ynglŷn â’r Labordy Effeithlonrwydd Dŵr
Mae’r Labordy Effeithlonrwydd Dŵr (WEL) yn gystadleuaeth flynyddol sy’n cael ei harwain gan heriau er mwyn datgloi a chyflwyno ar raddfa ehangach arloesiadau sy’n lleihau’r defnydd o ddŵr gan aelwydydd a busnesau ledled Cymru a Lloegr. Canolbwyntiodd rownd gyntaf gwerth £5 miliwn WEL ar yr her o roi mewnwelediadau ymarferol i gwsmeriaid dŵr a fydd yn eu helpu i ddeall a lleihau eu defnydd o ddŵr. Mae’r WEL yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr gwobrau her Challenge Works ochr yn ochr ag Arup ac Isle Utilities.
Mae’r WEL yn rhan o Gronfa Effeithlonrwydd Dŵr (WEF) Ofwat gwerth £100 miliwn a gynlluniwyd i ysgogi gostyngiad trawsnewidiol, parhaus a mesuradwy yn y galw am ddŵr ledled Cymru a Lloegr trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau effeithlonrwydd dŵr, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad. Ei nod yw meithrin cydweithio ac arloesedd ar effeithlonrwydd dŵr ar raddfa na welwyd ei thebyg o’r blaen. Mae’r WEF hefyd yn cynnwys Ymgyrch Effeithlonrwydd Dŵr (WEC), ‘Dewch i Arbed Dŵr’, sy’n hyrwyddo newid ymddygiad sy’n annog pobl a busnesau i ddefnyddio llai o ddŵr. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar gael yn letssavewater.com/cymru.
Ynglŷn â Challenge Works
Mae Challenge Works yn dylunio ac yn cynnal gwobrau her i sbarduno arloesedd mewn gwyddoniaeth, technoleg a chymdeithas. Mae’n rhan o Nesta, y sefydliad ymchwil ac arloesi. Mae ei wobrau her yn cynnig cyfres o gymhellion yn gyfnewid am ddatrys her ddiffiniedig, creu arloesiadau arloesol, helpu arloeswyr i ffynnu, a datgloi newid systemig. Rydym wedi cynnal dros 100 o wobrau her gan ddyfarnu dros £310m ar ran cyllidwyr cyhoeddus, preifat a dyngarol ledled y byd.
Ynglŷn ag Arup
Wedi’i ymroi i ddatblygu cynaliadwy, mae Arup yn gasgliad o ddylunwyr, ymgynghorwyr ac arbenigwyr sy’n gweithio’n fyd-eang. Wedi’i sefydlu i fod yn ddyngar ac yn rhagorol, rydym yn cydweithio â’n cleientiaid a’n partneriaid gan ddefnyddio dychymyg, technoleg a thrylwyredd i lunio byd gwell. Gyda’n gilydd rydym yn helpu ein cleientiaid i ddatrys eu heriau mwyaf cymhleth – gan droi syniadau cyffrous yn realiti pendant wrth i ni ymdrechu i ddod o hyd i ffordd well a llunio byd gwell. Gyda chymuned o dros 1800 o weithwyr proffesiynol dŵr, mae Arup yn arwain meddwl byd-eang ar draws meysydd allweddol fel arloesedd, gwydnwch, carbon sero net a rheoli dŵr cynaliadwy. Dysgwch fwy: www.arup.com
Ynglŷn ag Isle Utilities
Mae Isle yn gwmni ymgynghori byd-eang, sy’n partneru ar draws y system ddŵr i gyflymu trawsnewidiad amgylcheddol dŵr. Mae ein gwasanaethau a’n platfformau’n helpu i leihau’r risg o ddatblygu, masnacheiddio a mabwysiadu technolegau, gan greu gwerth a chyflymu atebion arloesol. Dysgwch fwy: www.isleutilities.com