Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau sylweddol i ddileu tlodi plant yng Nghymru, yn ôl yr asesiad hawliau dynol diweddaraf gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Er bod cynnydd wedi'i wneud, mae gan Gymru o hyd y cyfraddau uchaf o dlodi plant yn y DU. Mae'r EHRC, fel y Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol, yn mynegi pryder bod hyn yn parhau er gwaethaf y ffaith bod mynd i'r afael â thlodi plant wedi bod yn flaenoriaeth hirdymor i Lywodraethau Cymru olynol ers datganoli.
Yn dilyn argymhellion a wnaed gan y Cenhedloedd Unedig yn 2025 i weithredu dull sydd wedi’i seilio ar hawliau plant i leihau tlodi, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd sawl cam, gan gynnwys:
- cyhoeddi strategaeth newydd i fynd i'r afael â thlodi plant ym Mehefin 2026
- gwneud cynnydd ar weithredu’r cynllun peilot Cynnal, cynllun taliadau plant uniongyrchol
- diweddaru ei Fframwaith Monitro Tlodi Plant gyda data newydd i fesur cynnydd, yn Rhagfyr 2025
- cyhoeddi adroddiad ar yr incwm sylfaenol i bobl ifanc sy'n gadael gofal yn Chwefror 2026, yn dilyn cynllun peilot dwy flynedd lle’r oedd plant â phrofiad o fod mewn gofal yn cael taliadau misol o £1600
Fodd bynnag, wrth i dlodi plant barhau, mae'r EHRC wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r holl argymhellion a wnaed gan y Cenhedloedd Unedig er mwyn hyrwyddo hawliau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol yng Nghymru.
Yn ogystal â chamau i ddileu tlodi plant, mae asesiadau'r EHRC yn gwerthuso'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar amrywiaeth o argymhellion y Cenhedloedd Unedig. Mae'r rhain yn cynnwys bylchau mewn meysydd fel mynediad cyfartal i wasanaethau iechyd mamolaeth i fenywod o leiafrifoedd ethnig, casglu data manwl ar fwlio mewn ysgolion, a gwella argaeledd ac ansawdd tai cymdeithasol.
Dywedodd Martyn Jones JP DL, Comisiynydd Cymru yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae gan bob un ohonom hawl i do uwchben ein pennau, digon o fwyd i'w fwyta a digon o arian i fyw arno. Mae ein hawliau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol yn sail i'r disgwyliadau sylfaenol hyn – ac eto, mae llawer o blant yng Nghymru yn mynd heb y pethau yma.
“Dyma pam mae ein gwaith – fel y Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol – mor bwysig. Rydym yn dwyn llywodraethau i gyfrif yn achos eu hymrwymiadau i hawliau dynol fel y gallwn i gyd fyw’n dda gyda’n gilydd.
“Mae llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â thlodi plant. Ond er mwyn rhoi cyfle teg i bawb mewn bywyd, dylai'r llywodraeth weithredu holl argymhellion y Cenhedloedd Unedig yn llawn.”
Mae asesiadau newydd yr EHRC yn gwerthuso’r camau – neu’r diffyg camau – a gymerwyd gan lywodraethau Cymru a’r DU yn erbyn eu hymrwymiadau hawliau dynol a nodir yng Nghyfamod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR). Mae hyn yn cynnwys dyletswydd ddatganoledig Llywodraeth Cymru i hybu hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru.
Barnwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd 'camau sylweddol' yn dilyn yr argymhellion a wnaed gan y Cenhedloedd Unedig ym mis Mawrth 2025 i fynd i'r afael â thlodi plant. Serch hynny, mae argymhellion heb eu gweithredu o hyd, ac mae'r EHRC yn annog Llywodraeth Cymru i'w gweithredu'n llawn cyn adolygiad nesaf y Cenhedloedd Unedig ym mis Mawrth 2027.
- Mae’r EHRC wedi cyhoeddi 57 o asesiadau newydd - 33 sy’n ymwneud â chamau Llywodraeth y DU a 24 yn ymwneud â chamau Llywodraeth Cymru. Mae rhai meysydd yn rhai a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU. Mae’r EHRC wedi darparu gwybodaeth ar y tri maes lle mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau ar feysydd a gedwir yn ôl ond nid yw wedi’u hasesu.
- Gwnaeth Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol argymhellion i lywodraethau Cymru a’r DU ym mis Mawrth 2025.
- Mae asesiadau’r EHRC wedi’u seilio ar dystiolaeth hyd at 30 Mehefin 2026.
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com