Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny
Gwirio a oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i roi gwybod am eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo.
Pwy sydd angen defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- rydych yn unig fasnachwr neu’n landlord sydd wedi’i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad
- rydych yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau
- mae’ch incwm cymhwysol yn fwy na’r trothwy perthnasol ar gyfer y flwyddyn dreth — cyfrifwch eich incwm cymhwysol
Mae pryd y mae angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dibynnu ar eich incwm cymhwysol o fewn blwyddyn dreth. Os yw’ch incwm cymhwysol dros y terfynau canlynol:
- £50,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, dylech fod wedi dechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen — gallwch gofrestru neu gofrestru eich cleient, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny
- £30,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2027 ymlaen
- £20,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2028 ymlaen
Bydd angen i bartneriaethau ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol hefyd. Byddwn ni’n nodi’r amserlen ar gyfer hyn yn nes ymlaen.
Bydd yn dal i fod angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth cyn i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
I gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud y canlynol:
- cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
- cyflwyno Ffurflen Dreth yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf
Gwirio a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Gallwch ddefnyddio ein hofferyn i wirio:
- a oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
- pryd bydd angen i chi ddechrau
- a ydych wedi’ch esemptio
Gallwch hefyd ddefnyddio’r offeryn hwn ar ran rhywun arall.
Cyn i chi ddechrau
Bydd yr offeryn yn gofyn rhagor o wybodaeth ynghylch y blynyddoedd treth canlynol:
- 2024 i 2025
- 2025 i 2026
- 2026 i 2027
Ar gyfer y blynyddoedd treth hyn, bydd angen i chi ystyried y canlynol:
- a ydych wedi cyflwyno Ffurflen Dreth, neu a fydd angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth
- y ffynonellau incwm yr ydych wedi’u datgan neu y bydd angen i chi eu datgan
- faint o incwm hunangyflogaeth neu incwm o eiddo yr ydych wedi’i gael neu y byddwch yn ei gael yn ystod pob blwyddyn dreth
Pwy sydd wedi’i esemptio rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae yna wahanol resymau pam y gallech gael esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Er enghraifft, gallech gael esemptiad os ydych wedi’ch cau allan o’r byd digidol.
Os ydych chi’n esempt, ni fydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, ond bydd yn rhaid i chi barhau i roi gwybod am eich incwm a’ch enillion mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gallwch ddysgu a allwch gael esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Yr hyn i’w wneud os oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth
Os oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm nawr neu mewn blwyddyn dreth ddiweddarach, dylech ddilyn y camau a mynd ati i gofrestru. Er enghraifft, bydd angen i chi ddewis ac awdurdodi eich meddalwedd dewisol neu benderfynu sut y bydd eich asiant yn gweithredu ar eich rhan, os oes gennych un.
Gallwch ddysgu pa gamau y mae angen i chi eu cymryd a mynd ati i gofrestru os ydych yn:
Yr hyn fydd yn digwydd ym mhob blwyddyn dreth
Bydd CThEF yn adolygu’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ac yn gwirio eich incwm cymhwysol pob blwyddyn dreth.
Os yw’ch incwm yn fwy na’r trothwy perthnasol, bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod angen i chi ddechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm erbyn dechrau’r flwyddyn dreth ddilynol.
Er enghraifft, er mwyn gwirio a oedd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2026, rydym wedi adolygu’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2024 i 2025. Os oedd eich incwm cymhwysol ar gyfer y flwyddyn dreth dros £50,000, dylech fod wedi cael llythyr yn cadarnhau bod angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os nad ydych wedi cael llythyr, mae’n dal i fod yn gyfrifoldeb arnoch chi i wirio a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth a phryd y bydd angen i chi wneud hynny. Mae hefyd yn dal i fod yn gyfrifoldeb arnoch chi i wneud yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru ac yn barod i ddefnyddio’r gwasanaeth pan fydd angen.
Os ydych yn credu bod angen i chi gofrestru oherwydd bod eich incwm cymhwysol yn fwy na’r trothwy perthnasol, ond nid ydych wedi cael llythyr, dylech wneud y canlynol:
- defnyddio’r offeryn yn yr arweiniad hwn i wirio a oes angen i chi gofrestru a phryd i wneud hynny
- gofyn i’ch ymgynghorydd treth, os oes un gennych
- gwirio hyn â ffrind neu aelod o’r teulu, os ydyn nhw’n eich helpu chi gyda’ch treth
Os ydych yn anghytuno â CThEF bod angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych o’r farn bod angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.