I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- England Lloegr
- Scotland Alban
- Wales Cymru
Cyflwyniad
Mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn diogelu ac yn siapio bywydau bob dydd pobl. Maent yn sylfaen i gymdeithas deg a chynhwysol i bawb. Yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt i sicrhau urddas, tegwch a gwell canlyniadau i unigolion a chymdeithas yn gyffredinol ac fel fframwaith i’n helpu i fyw’n dda gyda’n gilydd.
Ein gweledigaeth yw cymdeithas sy’n seiliedig ar gydraddoldeb a hawliau dynol, lle mae gan bawb ym Mhrydain gyfle i ffynnu a byw’n dda ochr yn ochr ag eraill. Ein pwrpas yw gwarchod a hyrwyddo’r hawliau hyn fel y gall pob person fwynhau cyfleoedd teg mewn bywyd.
Rydym yn parhau i ganolbwyntio ein gwaith mewn meysydd lle:
- mae tystiolaeth gref o angen
- gallwn wneud cyfraniad unigryw
- mae modd cyflawni newid cadarnhaol
I wneud hyn, rydym yn ymdrechu i weithio mewn ffyrdd ystwyth, ymatebol ac effeithlon. Mae hyn yn ein galluogi i ymateb yn rhagweithiol i faterion cyfredol a rhai sy’n datblygu, ni waeth pa mor ddadleuol neu gynhennus ydynt, a blaenoriaethu ein hadnoddau cyfyngedig. Mae hyn yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar feysydd sy’n debygol o gael yr effaith fwyaf.
Yn 2026 a 2027, byddwn yn parhau i weithredu fel rheoleiddiwr cadarn ac effeithiol, corff cydraddoldeb cenedlaethol a Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI).
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- bod yn llais awdurdodol ac annibynnol sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ein cenhadaeth i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol
- darparu rheolau, safonau a chanllawiau clir i helpu pobl i wybod beth yw eu hawliau a bod cyflogwyr yn deall eu rhwymedigaethau
- sicrhau cytundebau gyda sefydliadau i’w helpu i gael gwared ar wahaniaethu ac aflonyddu, a chymryd camau pan nad yw hyn yn digwydd
- enwi sefydliadau sy’n methu â rhoi gwybod am eu bylchau cyflog rhwng y rhywiau
- dwyn llywodraethau i gyfrif am ymrwymiadau eu cytuniad rhyngwladol a chyhoeddi ein hasesiadau o’u cynnydd
- parhau i gyflwyno’r achos dros gydraddoldeb a hawliau dynol i’r cyhoedd yn ehangach mewn ffordd sy’n cysylltu â bywydau go iawn pobl
- gweithio gyda llywodraethau a Seneddau Cymru a’r Alban ar faterion cydraddoldeb yn dilyn etholiadau mis Mai 2026
- meithrin perthnasoedd cryf a dylanwadol gyda llywodraeth y DU a chynghori’r Senedd ar oblygiadau deddfwriaeth arfaethedig ar hawliau dynol
- helpu pobl i lywio hawliau sy’n cystadlu â’i gilydd gan gynnwys y cydbwysedd rhwng rhyddid mynegiant a rhyddid rhag aflonyddu
- parhau i weithio gyda’n gwasanaethau mewn lifrai i fynd i’r afael ag aflonyddu, gwahaniaethu ac erledigaeth
- helpu’r sector trafnidiaeth i wella mynediad at drafnidiaeth fel y gall pawb fwynhau’r gwasanaethau hyn yn gyfartal
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith, yn cynnal ac yn amddiffyn hawliau pawb ac yn creu tegwch a chyfle. Byddwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a pharhaol i fywydau pobl ledled Prydain.
Sut byddwn yn blaenoriaethu ac yn cyflawni ein gwaith
Mae ein cynllun busnes ar gyfer 2026 i 2027 yn cwmpasu’r ail flwyddyn o gyflawni yn erbyn ein cynllun strategol 2025 i 2028. Mae ein cynllun strategol yn trefnu ein gwaith o dan dair colofn a byddwn yn parhau â’r dull hwn. Mae’r strwythur hwn yn ein galluogi i gyflawni ein cyfrifoldebau craidd ar yr un pryd â datblygu rhaglenni gweithredu cydlynol, tymor hwy. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan ddull ystwyth, sy’n ein galluogi i ymateb yn gyflym i faterion sy’n dod i’r amlwg a bygythiadau i gydraddoldeb a hawliau dynol.
Rydym yn defnyddio dull unedig o gyflawni, gan ddefnyddio arbenigedd a gwybodaeth gan y sefydliad cyfan ar draws ffiniau daearyddol. Rydym yn cydnabod y gwahanol heriau a chyfleoedd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ac yn addasu’r ffordd rydym yn cyflawni ein gwaith yn unol â hynny.
Ein dull tair colofn o weithio ar gyfer 2026 i 2027
Colofn Un: Byddwn yn parhau i ddarparu rhaglen reoleiddio i gefnogi cydymffurfiad â chyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae’r gwaith hwn yn cyflawni ein cylch gwaith statudol a chraidd fel y nodir yn Neddfau Cydraddoldeb 2006 a 2010.
Colofn Dau: Byddwn yn blaenoriaethu ein hadnoddau cyfyngedig i fynd i’r afael â’r risgiau a’r cyfleoedd mwyaf sylweddol yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae’r gwaith hwn yn adweithiol ac yn ymatebol ac yn mynd i’r afael â’r materion sy’n dod i’r amlwg a’r materion presennol sy’n effeithio ar gydraddoldeb a hawliau dynol.
Colofn Tri: Byddwn yn ymgymryd â rhaglenni cydlynol, tymor hwy gan ddefnyddio ystod o’n pwerau i ganolbwyntio ar heriau cydraddoldeb a hawliau dynol sydd wedi hen ennill eu plwyf.
Mae ein rhaglen gorfforaethol fewnol, ‘Cryfhau ein sefydliad’, yn ein galluogi i gyflawni ein cynllun strategol. O dan y rhaglen, ein nod yw:
- datblygu ein seilwaith i wella sut rydym yn dadansoddi data
- gwella dealltwriaeth sy’n seiliedig ar wybodaeth
- gwneud y defnydd gorau o dechnoleg lle mae’n gyfrifol gwneud hynny
Byddwn yn cysoni ein rhaglen gorfforaethol fewnol â’n rhaglen newid. Bydd y rhaglen newid yn ein helpu i gyflawni ein cynllun yn effeithlon. Bydd yn ystyried ein pobl, ein prosesau a’n dulliau gweithredu, y strwythur a’r diwylliant sydd eu hangen arnom i’w cefnogi a chyfleoedd drwy dechnoleg a deallusrwydd artiffisial (AI).
Ein gweithgaredd arfaethedig
Colofn Un: Rheoleiddio cydraddoldeb a hawliau dynol
Yn 2026 i 2027, bydd ein gwaith o dan y golofn hon yn darparu rhaglen reoleiddio gynhwysfawr i gefnogi cydymffurfiad â chyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol. Bydd yn cael ei sbarduno gan ein diben statudol ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein rôl fel rheoleiddiwr, corff cydraddoldeb cenedlaethol, Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI) a’n bod yn parhau i gydymffurfio ag Egwyddorion Paris.
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus a sefydliadau sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus hyrwyddo cydraddoldeb a chyfrannu at gymdeithas decach ym mhob agwedd ar eu gwaith. Byddwn yn parhau i fonitro cydymffurfiad â’r ddyletswydd hon, gan sicrhau bod sefydliadau’n gweithio i ddileu ymddygiad anghyfreithlon a bod pawb ym Mhrydain yn gallu elwa o gyfle cyfartal a chysylltiadau da rhwng gwahanol grwpiau.
Byddwn yn parhau i gyfrannu at adolygiadau hawliau dynol rhyngwladol ac yn hyrwyddo cyfrifoldebau a chyfleoedd hawliau dynol ymysg rhanddeiliaid cymdeithas sifil. Byddwn yn ceisio helpu i lunio safonau hawliau dynol byd-eang sy’n dod i’r amlwg a pharhau i ddal llywodraethau Cymru a’r DU i gyfrif am ymrwymiadau eu cytuniad rhyngwladol. Byddwn hefyd yn datblygu ein Traciwr Hawliau Dynol ymhellach, gan asesu camau gweithredu Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn erbyn argymhellion y Cenhedloedd Unedig.
Byddwn yn datblygu ein swyddogaeth adrodd statudol wrth i ni weithio tuag at gyhoeddi Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2028 ac adroddiadau cyfatebol ar gyfer y gwledydd: ‘A yw Cymru’n Decach’ ac ‘A yw’r Alban yn Decach’.
Byddwn yn parhau i orfodi adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a hygyrchedd gwefannau. Bydd hyn yn cynnwys monitro cydymffurfiad, adrodd ar faterion a chefnogi achosion cyfreithiol strategol i ddiogelu rhag unrhyw ostyngiad mewn amddiffyniadau cydraddoldeb a hawliau dynol.
Byddwn yn parhau i flaenoriaethu adolygu a diweddaru ein cyngor a’n canllawiau. Mae hon yn elfen graidd o’n cefnogaeth i’r sectorau cyhoeddus a phreifat i sicrhau y glynir wrth Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a rhwymedigaethau hawliau dynol. Fel arbenigwr annibynnol ar gydraddoldeb a hawliau dynol mewn amgylchedd sy’n esblygu, mae’n hanfodol bod yr wybodaeth hon yn parhau i fod yn gywir, yn berthnasol ac yn effeithiol.
Byddwn yn cynyddu ein gallu a’n capasiti i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y cyd. Mae hyn yn gynyddol bwysig ar gyfer gwella’r gefnogaeth i gydraddoldeb a hawliau dynol. Byddwn yn strategol o ran sut rydym yn ymgysylltu ag eraill, gan chwilio am gyfleoedd i ddangos pam mae ein gwaith yn bwysig a sut mae’n ychwanegu gwerth. I gefnogi hyn, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, gyda Seneddwyr a Sefydliadau Cymdeithas Sifil.
Byddwn yn ymgymryd â rhaglen waith i gryfhau ein delwedd gorfforaethol a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o bwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu naratif corfforaethol newydd, gan sicrhau bod tôn ein llais a’n negeseuon yn cyflwyno’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyson fel llais awdurdodol, clir ac annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol. Byddwn hefyd yn datblygu ac yn darparu ymgyrchoedd wedi’u targedu i wella dealltwriaeth y cyhoedd o’n rôl a’r mesurau diogelu rydym yn eu cynnal.
Byddwn yn hyrwyddo hawliau dynol ac yn archwilio sut y gallwn ddefnyddio ein rôl statudol unigryw i feithrin dealltwriaeth a chefnogaeth y cyhoedd. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau sy’n datblygu ac yn hyrwyddo ein hasedau presennol fel y Traciwr Hawliau Dynol a’n gwybodaeth gyhoeddus. Byddwn yn cydweithio â chymdeithas sifil i helpu pobl i ddeall perthnasedd a phwysigrwydd hawliau dynol yn well yn eu bywydau bob dydd, yn ogystal â’n rôl o ran eu diogelu.
Colofn Dau: Ymateb ystwyth i risgiau a chyfleoedd cydraddoldeb a hawliau dynol
Ar ôl symud i ffordd fwy ystwyth ac ymatebol o weithio, mae ein dull newydd yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau mwyaf arwyddocaol a brys. Mae Colofn Dau, sef ein colofn hyblyg, wedi cael ei dylunio i’n helpu i gyflawni hyn. Mae’n ein galluogi i wneud y canlynol:
- ymateb yn effeithiol i faterion sy’n dod i’r amlwg
- blaenoriaethu ein gwaith
- gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- sicrhau ein bod yn defnyddio’r offer a’r adnoddau cywir i gael yr effaith fwyaf
Rhan bwysig o’r gwelliant hwn i’r broses fu datblygu a lansio ein system brysbennu ac asesu Colofn Dau newydd yn llwyddiannus. Mae’r system yn adeiladu ar strwythur presennol ein canolfan reoleiddio. Mae’n golygu bod modd casglu a defnyddio gwybodaeth yn fwy effeithiol, yn cefnogi ein nod o gael ein harwain gan dystiolaeth ac yn darparu fframwaith clir ar gyfer blaenoriaethu.
Er mwyn galluogi’r strwythur newydd hwn i weithio, rhaid i ni ganiatáu ar gyfer capasiti ar gyfer blaenoriaethu adweithiol. Fodd bynnag, mae yna ymrwymiadau presennol a thebygol rydym yn disgwyl ymateb iddynt drwy gydol y flwyddyn.
Mae ein hymrwymiadau presennol yn cynnwys:
- cwblhau ein cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau
- adolygu ein canllawiau technegol ar gyfer ysgolion yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
- gwaith parhaus sy’n codi o ymchwiliad ac asesiad yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae ein hymrwymiadau tebygol yn cynnwys:
- cynghori a dylanwadu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a allai gynnwys meysydd fel y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Lloegr, Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes), arferion trosi a thechnoleg adnabod wynebau
- paratoi ar gyfer dyletswyddau, pwerau a gofynion statudol newydd, a allai gynnwys canllawiau ar aflonyddu rhywiol, diwygio cyfraith cyflogaeth a dyletswyddau penodol newydd yn yr Alban
- ymgysylltu â llywodraethau a Seneddau Cymru a’r Alban, a dadansoddi eu blaenoriaethau yn dilyn etholiadau ym mis Mai 2026
- nodi cyfleoedd i ddefnyddio ein hadnoddau gorfodi a chydymffurfio yn strategol
Colofn Tri: Rhaglenni gweithredu cydlynol sy'n canolbwyntio ar heriau cydraddoldeb a hawliau dynol hirsefydlog
O dan y cynllun busnes ar gyfer 2026 i 2027, byddwn yn parhau i gyflawni ein rhaglenni gwaith cydlynol tymor hwy. Mae’r rhaglenni hyn yn mynd i’r afael â heriau cydraddoldeb a hawliau dynol sefydledig. Maent wedi’u nodi yn ein cynllun strategol ar gyfer 2025 i 2028, o dan Golofn Tri. Mae’r rhaglenni’n cefnogi ein hamcan o sicrhau gwelliannau clir a mesuradwy ym mhrofiadau pobl o gydraddoldeb a hawliau dynol.
Rhaglen 1: Mynd i'r afael ag aflonyddu, gwahaniaethu ac erledigaeth yn y gwasanaethau mewn lifrai
Mae’r sector gwasanaethau mewn lifrai yn un risg uchel a heriol, gyda’r rhai sy’n gwasanaethu yn gweithio’n ddiflino i amddiffyn y cyhoedd, a hynny’n aml tra’n wynebu perygl personol. Ac eto, mae rhai pobl yn y gwasanaethau tân a heddlu a’r lluoedd arfog yn parhau i brofi aflonyddu hiliol a rhywiol, gwahaniaethu ac erledigaeth. Mae’r materion hyn yn parhau i fod wedi’u gwreiddio er gwaethaf adroddiadau beirniadol blaenorol.
Bydd y rhaglen hon, a lansiwyd yn 2024, yn parhau i fabwysiadu dull cydlynol o hyrwyddo cydraddoldeb, gwella cydweithio rheoleiddiol a chefnogi’r gwasanaethau hyn i gyflawni eu dyletswyddau cydraddoldeb. Bydd yn canolbwyntio ar wella amgylcheddau yn y gweithle a meithrin diwylliannau sy’n gynhwysol ac sy’n rhydd o wahaniaethu ac aflonyddu. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod y rhai sy’n gweithio yn y sector gwasanaethau mewn lifrai yn cael eu trin gyda’r tegwch a’r parch y maent yn eu haeddu.
Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:
- meithrin partneriaethau â rheoleiddwyr, arolygiaethau, ombwdsmyn a chymdeithasau proffesiynol eraill, gan ganiatáu i ni rannu gwybodaeth a chreu dulliau cyson a chydweithredol o wreiddio safonau cydraddoldeb a hawliau dynol
- cynnal y Rhwydwaith Cyfnewid Cydraddoldeb, sy’n fforwm ar gyfer dysgu ar y cyd, gyda chyfarfodydd wedi’u cynllunio sy’n cefnogi cyd-ddealltwriaeth a chyfnewid arferion gorau
- cefnogaeth barhaus i Heddlu’r Alban ac Awdurdod Heddlu’r Alban i wella’r ffordd y maent yn gweithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
- gweithio i wreiddio’r ddyletswydd atal aflonyddu rhywiol, sy’n cynnwys cynnal gweminarau, trafodaethau â chymheiriaid a thrafodaethau bwrdd crwn ar draws y sector
- cymryd camau gorfodi fel cytundebau Adran 23, sy’n ymrwymiadau ffurfiol lle mae sefydliad yn ymrwymo i fynd i’r afael ag amheuaeth o ymddygiad anghyfreithlon ac yn cymryd camau i wella ymddygiad a diwylliant
Rhaglen 2: Egluro'r gyfraith a chefnogi ymatebion effeithiol i gydbwyso hawliau, gan gynnwys rhyddid mynegiant
Mae ein rôl yn cynnwys egluro’r gyfraith a rhoi cyngor ar sut y gellir ei llunio mewn ffordd sy’n parchu hawliau pawb. Efallai y bydd adegau hefyd pan fydd angen cydbwyso hawliau gwahanol neu hawliau gwahanol bobl. Ein hamcan yw cefnogi ymgysylltu gwybodus a chyfrifol ynghylch cydbwysedd hawliau, a hyrwyddo polisi a deddfwriaeth effeithiol sy’n gwella parch at hawliau dynol a’r mwynhad ohonynt.
Un maes gwaith penodol yn y rhaglen hon yw rhyddid mynegiant, a sut mae hyn yn rhyngweithio â mynegi credoau gwarchodedig ac aflonyddu anghyfreithlon yn y gweithle. Bydd hyn yn cynnal ein ffocws ar feysydd lle mae anghydfod yn parhau. Yn ystod 2026 i 2027, byddwn yn asesu maint y mater hwn ac yn datblygu cynigion ar yr un pryd â hyrwyddo manteision Hawliau Dynol a’r mesurau diogelu yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Rhaglen 3: Cryfhau cyfranogiad gweithredol mewn cymdeithas drwy fynd i'r afael â’r rhwystrau rhag cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus
Mae gwasanaethau fel trafnidiaeth gyhoeddus yn galluogi pobl i gymryd rhan weithredol mewn cymdeithas. Fodd bynnag, i lawer o bobl hŷn ac anabl, mae rhwystrau sylweddol o ran cael gafael ar y gwasanaethau hyn. Gall amgylcheddau o amgylch trenau, bysiau, gorsafoedd a chanolfannau trafnidiaeth achosi problemau ffisegol. Mae cael gafael ar wybodaeth, defnyddio systemau archebu a dod o hyd i gymorth hefyd yn heriol i bobl. Mae pobl hefyd yn profi agweddau negyddol gan staff neu deithwyr eraill.
Mae ein gwaith ar fynediad at drafnidiaeth i bobl hŷn ac anabl yn canolbwyntio ar y materion hyn. Bydd y gwaith hwn yn helpu i leihau rhwystrau a gwella mynediad at drafnidiaeth i’r bobl hyn er mwyn iddynt allu mwynhau gwasanaethau ar sail gyfartal â phawb arall.
Bydd ein gweithgareddau a’r hyn sydd i’w gyflawni yn cael eu trefnu o amgylch tair thema benodol gan ganolbwyntio ar fysiau, trenau a seilwaith cysylltiedig. Mae’r themâu hyn yn dilyn gweithgarwch cwmpasu sylweddol ym mlwyddyn gyntaf ein cynllun strategol ar gyfer 2025 i 2028 ac maent yn seiliedig ar yr heriau rydym wedi’u nodi, ein cyfraniad at fynd i’r afael â nhw a’r effaith rydym yn gweithio tuag ati.
Thema un
Mae thema un yn ymwneud â dylanwadu ar y dirwedd ddeddfwriaethol a pholisi sy’n esblygu er mwyn sicrhau mwy o gydlyniad i ofynion hygyrchedd. Er enghraifft, parhau i ymgysylltu â’r Bil Rheilffyrdd, Teithio i Bawb (Cymru) a gwaith dilynol ynghylch y Fframwaith Teithio Hygyrch (yr Alban). Byddwn hefyd yn ymgysylltu â chyfleoedd newydd fel adolygiad Comisiwn y Gyfraith o’r cyfreithiau sy’n llywodraethu hygyrchedd trafnidiaeth i bobl anabl.
Thema dau
O dan thema dau, byddwn yn defnyddio ein rôl gynnull strategol i gynyddu gweithio cydgysylltiedig. Er enghraifft, rydym yn edrych ar sut gallwn ddod â sefydliadau at ei gilydd i wreiddio cydraddoldeb mewn masnachfreinio bysiau ar draws y tair gwlad, yn ogystal â sut gallwn ni gefnogi rheoleiddwyr i wreiddio cydraddoldeb ymhellach yn eu goruchwyliaeth o’r sector trafnidiaeth.
Thema tri
Mae thema tri yn canolbwyntio ar wella cydymffurfiaeth ac atebolrwydd a sicrhau bod y sector trafnidiaeth yn cael ei reoleiddio’n fwy effeithiol. Mae hyn yn cynnwys parhau i fonitro Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yr Adran Drafnidiaeth (Prydain) fel rhan o’n goruchwyliaeth ehangach o adrannau Llywodraeth y DU o dan ein rhaglen PSED gyffredinol. Byddwn hefyd yn adolygu cydymffurfiad rhanddeiliaid perthnasol â’r dyletswyddau penodol yn yr Alban.
Rhaglenni Gwella Sefydliadol
Wrth lansio ein cynllun strategol ar gyfer 2025 i 2028, roeddem wedi ymrwymo i adolygu ein hadnoddau a’n systemau, buddsoddi mewn gwelliannau technolegol a gwneud y defnydd gorau o’n swyddfeydd. Mae hyn ochr yn ochr â’n rhaglen newid ar draws y sefydliad a fydd yn ein galluogi i gyflawni ein cynllun strategol.
Yn 2026 i 2027, bydd ein rhaglen gwella corfforaethol yn cyd-fynd â’n rhaglen newid. Eleni, byddwn yn canolbwyntio ar gyflwyno model gweithredu newydd gyda strwythurau, prosesau a ffyrdd newydd o weithio ar draws ein sefydliad.
Byddwn yn cryfhau ein seilwaith data, a fydd yn galluogi defnyddio datrysiadau data mwy datblygedig fel awtomeiddio a gwyddor data i wella ein gallu technegol, a symleiddio prosesau gyda’r uchelgais o wella’r Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Bydd hyn yn cefnogi ein huchelgais i ddod yn sefydliad sy’n cael ei arwain yn fwy gan dystiolaeth. Dros y tair i bum mlynedd nesaf, byddwn yn diffinio gweledigaeth a thrywydd clir sy’n dod â’n ffrydiau gwaith data, digidol a thechnoleg at ei gilydd mewn un cynllun cydlynol ac integredig.
Footnotes
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
18 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf
18 Mai 2026