Estyn prydlesi: rhestr wirio ar gyfer cyflwyno cais i gofrestru ildiadau ac ail-roi ystad brydlesol (CY28a1)
Rhestr wirio o ystyriaethau wrth wneud cais i gofrestru ildiadau ac ail-roi ystad brydlesol (cyfarwyddyd ymarfer 28, atodiad 1).
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r atodiad hwn yn disgrifio’r ystyriaethau y dylid eu gwneud wrth wneud cais i gofrestru ildiadau ac ail-roi ystad brydlesol. Mae’n cynnwys ildiadau (trwy weithrediad y gyfraith) ac ail-roi sy’n codi:
- pan roddir prydles newydd i’r un tenant, i ddod i rym ar unwaith
- pan wneir prydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993
- pan fydd gweithred amrywio yn newid hyd prydles gofrestredig trwy gynyddu’r cyfnod neu’n ychwanegu tir newydd i’r graddau a brydlesir gan brydles gofrestredig
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.
Gweminarau
Gallwch ymuno â’n gweminarau di-dâl i gael cyngor ar ystod o bynciau cofrestru tir a sut i baratoi ceisiadau o safon.