Skip to main content
Casgliad

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i unig fasnachwyr a landlordiaid: cam wrth gam

Os ydych yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, dysgwch sut i gofrestru ar gyfer a defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd i unig fasnachwyr a landlordiaid adrodd am eu hincwm a’u treuliau i CThEF. 

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae’n rhaid i unig fasnachwyr a landlordiaid ei ddefnyddio os yw cyfanswm eu hincwm blynyddol o hunangyflogaeth ac eiddo dros £50,000.

Bydd angen i chi, neu’ch asiant os oes gennych un, ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn:

  • creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o’ch hunangyflogaeth ynghyd ag incwm a threuliau eiddo
  • anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF
  • cyflwyno’ch Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol

Pwy sydd angen cofrestru

Bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol. Rydych:

O fis Medi 2026 ymlaen, os bydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 a’ch bod heb gofrestru’n yn barod, bydd CThEF yn mynd ati i’ch cofrestru. Mae hyn yn berthnasol dim ond os yw’n cofnodion yn dangos yr oedd incwm cymhwysol dros £50,000 ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025.

Os yw CThEF wedi cysylltu â chi, gallwch gael gwybod beth i’w wneud nesaf.

Os nad oes neb wedi cysylltu â chi, mae yna ddigon o amser i chi gofrestru eich hun drwy ddilyn y 5 cam isod.

1. Cyfrifo’ch incwm cymhwysol

Dysgwch am beth sydd wedi’i gynnwys yn eich incwm cymhwysol at ddibenion y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd hyn yn eich helpu i wirio a oes angen i chi gofrestru a defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm erbyn 6 Ebrill 2026.

2. Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun

Gwiriwch a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod am eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo. Gallwch ddefnyddio ein hofferyn ar-lein i ddysgu pryd mae angen i chi ddechrau.

3. Cael meddalwedd gydnaws

Nid yw CThEF yn darparu meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.  

Dysgwch am yr opsiynau sydd ar gael o ran meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i ddewis y feddalwedd gywir at eich.

4. Cofrestrwch ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch pa dasgau y mae angen i chi eu cwblhau cyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

5. Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch am beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl cofrestru a’r gwahanol dasgau y mae angen i chi eu gwneud yn ystod y flwyddyn dreth.

Mae’r rhain yn cynnwys creu a storio cofnodion digidol, anfon diweddariadau chwarterol, cyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu, a beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid.