Talu Treth Dir y Tollau Stamp
Sut i dalu Treth Dir y Tollau Stamp, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Nid ydych yn talu Treth Dir y Tollau Stamp os ydych yn prynu eiddo:
- yn yr Alban o 1 Ebrill 2015 ymlaen – dylech dalu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny
- yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen — dylech dalu Treth Trafodiadau Tir yn lle hynny
Caiff Treth Dir y Tollau Stamp ei thalu pan gaiff eiddo ei brynu, neu ei drosglwyddo, yn y DU.
Ni ddylid drysu rhwng talu Treth Dir y Tollau Stamp â thalu:
- Tollau Stamp ar gyfranddaliadau wedi’u prynu ar ffurflen trosglwyddo stoc
- Treth Tollau Stamp Wrth Gefn ar brynu cyfranddaliadau yn ddi-bapur
- Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau ar gyfer trafodiadau yn yr Alban — dysgwch ragor ar wefan Cyllid yr Alban (yn agor tudalen Saesneg)
Pryd i dalu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad (yn agor tudalen Saesneg) a thalu unrhyw doll cyn pen 14 diwrnod i ddyddiad ‘dod i rym’ y trafodyn. Fel arfer, dyddiad cwblhau’r trafodyn yw hyn, ond gall hefyd fod yn un o’r dyddiadau canlynol:
- y dyddiad y mae’r prynwr â’r hawl i gymryd meddiant o’r eiddo
- y dyddiad y mae’r taliad rhent cyntaf yn ddyledus
- y dyddiad cwblhau sylweddol — pan wneir o leiaf 90% o’r taliad (neu gyfnewid arall)
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen cyfeirnod unigryw eich trafodyn arnoch, sy’n 11 o gymeriadau. Bydd y cyfeirnod hwn bob amser yn cynnwys 9 rhif a 2 gymeriad (er enghraifft 123456789MC.)
Mae hwn i’w weld ar eich Ffurflen Dreth bapur neu ar eich tystysgrif SDLT5 electronig.
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir:
- gall eich taliad gael ei ohirio
- gall eich taliad gael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch
- byddwch yn cael nodyn i’ch atgoffa i wneud taliad
Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau Treth Dir y Tollau Stamp (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Talu ar-lein
Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:
- cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’r cyfrif banc ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwyd gennych yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn dod i law ar yr un diwrnod gwaith neu’r diwrnod gwaith nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Dylech wneud taliadau ar wahân ar gyfer pob cyfeirnod trafodyn unigryw. Os ydych am wneud un taliad i dalu am nifer o drafodion, anfonwch ffurflen ymholiad CHAPS ar-lein.
Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
- cod didoli — 08 32 10
- rhif y cyfrif — 12001020
- enw’r cyfrif — HMRC Shipley
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
- rhif y cyfrif (IBAN) — GB03 BARC 2011 4783 9776 92
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
- enw’r cyfrif — HMRC Shipley
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
Talu â siec
Sicrhewch y bydd eich taliad yn cyrraedd CThEF cyn y dyddiad cau.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.
Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.
Os ydych yn anfon siec ar gyfer mwy nag un cyfeirnod trafodyn unigol, dylech anfon rhestr o’r holl gyfeirnodau yn erbyn pob swm.
Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.
Os gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r slip talu (ar gefn y Ffurflen Dreth) ac anfon hyn gyda’ch siec.
Anfonwch eich Ffurflen Dreth a’ch siec i:
BT Stamp Duty Land Tax
HM Revenue and Customs
BX9 1LT
Os gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth electronig
Anfonwch eich siec (gan gynnwys slip talu, neu gan nodi’r cyfeirnod trafodyn unigryw) i:
HMRC
Direct
BX5 5BD