Skip to main content
Canllawiau

Cael help gydag eiddo ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Dewch o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi’r adran ‘eiddo yn y DU’ ac adrannau eiddo eraill eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Bydd angen i chi ddatgan incwm o eiddo ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os yr ydych wedi ennill dros £1,000 o’r ffynhonellau canlynol:

  • rhoi eiddo ar osod yn y DU neu dramor

  • rhoi ystafelloedd wedi’u dodrefnu yn eich cartref eich hun ar osod

  • llety gwyliau wedi’i ddodrefnu yn y DU neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)

  • premiymau sy’n codi o brydlesu tir yn y DU

Cyn llenwi’ch Ffurflen Dreth, gallwch wneud y canlynol:

Taflenni cymorth ar gyfer llenwi’ch Ffurflen Dreth

Mae taflenni cymorth yn darparu gwybodaeth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad, megis:

  • gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer rhyddhad penodol
  • cyfrifo ffigurau y bydd angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth

Rhoi eiddo ar osod

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Rhyddhadau Treth

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Lwfansau cyfalaf

Darllenwch y daflen gymorth ynghylch lwfansau cyfalaf a thaliadau mantoli (HS252)(yn agor tudalen Saesneg).

Fideos YouTube CThEF

Rhestr o fideos ynghylch eiddo yn y DU ar ein sianel YouTube

Gwyliwch restr chwarae o fideos YouTube ynghylch incwm o eiddo yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) ar eich Ffurflen Dreth. Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • llenwi’ch Ffurflen Dreth os oes gennych incwm o eiddo

  • rhyddhad Rhentu Ystafell

  • rhoi eiddo ar osod ar y cyd

  • y lwfans incwm o eiddo

  • rhentu, ardrethi, yswiriant a rhent tir

  • gwaith atgyweirio a chynnal a chadw eiddo

  • llog benthyciad a chostau ariannol eraill

  • treuliau eiddo caniataol eraill

Gweminar a recordiwyd ynghylch eiddo yn y DU

Gwyliwch fideo o weminar a recordiwyd ynghylch adran ‘eiddo yn y DU’ eich Ffurflen Dreth ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • rhyddhad Rhentu Ystafell

  • rhoi eiddo ar osod ar y cyd

  • llety gwyliau wedi’i ddodrefnu

  • treuliau a lwfansau

Ffurflen Dreth ar bapur

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio tudalennau atodol SA105 er mwyn cofnodi incwm o eiddo yn y DU ar eich Ffurflen Dreth SA100.

Argraffu'r dudalen hon