Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Talu TAW ar fewnforion cerbydau i Ogledd Iwerddon o’r UE
Mae angen i chi dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) cyn i chi gofrestru cerbyd os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
- os wnaethoch chi fewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
- os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW neu eich bod yn unigolyn preifat
Yr hyn bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud taliad
Defnyddiwch eich rhif cyfeirnod Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) 13 o gymeriadau pan fyddwch chi’n talu. Gallwch gael hyd iddo:
- ar yr e-bost anfonodd CThEF atoch os gwnaethoch ddefnyddio’r gwasanaeth NOVA
- ar yr hysbysiad talu anfonodd CThEF atoch
Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng y cymeriadau yn eich cyfeirnod.
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, cysylltwch â’r adran ymholiadau ynghylch mewnforion ac allforion (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Talu ar-lein
Gallwch dalu’n uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol. Pan fyddwch chi’n barod i dalu, dechreuwch eich taliad am fewnforio cerbydau i mewn i’r DU.
Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein neu symudol i gymeradwyo’ch taliad.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr)
- drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
- drwy ffonio’ch banc
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
- cod didoli - 08 32 00
- rhif y cyfrif – 12000903
- enw’r cyfrif - HMRC Indirect Miscellaneous
Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB20 BARC 2005 1730 3364 91
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
- enw’r cyfrif - HMRC Indirect Miscellaneous
Dylai taliadau tramor fod mewn sterling, ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEM ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.