Talu’ch bil treth Hunanasesiad
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Dim ond os yw’r ddau amod isod yn berthnasol y gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen:
-
rydych yn dal i gael datganiadau papur oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF)
-
mae gennych y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘HM Revenue and Customs only’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, ar gefn y siec. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’. Bydd y cyfeirnod i’w weld ar y slip talu.
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi ddefnyddio i dalu’r bill treth anghywir, cysylltwch ag Ymholiadau Cyffredinol Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg) i ofyn i’ch taliad gael ei drosglwyddo.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (cyn belled â’ch bod yn talu o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Os nad oes gennych slip talu
Bydd angen i chi dalu drwy ddull arall yn lle hynny, er enghraifft: