Skip to main content

Talu’ch bil treth Hunanasesiad

Sgipio cynnwys

Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Dim ond os yw’r ddau amod isod yn berthnasol y gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen:

  • rydych yn dal i gael datganiadau papur oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF)

  • mae gennych y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘HM Revenue and Customs only’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, ar gefn y siec. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’. Bydd y cyfeirnod i’w weld ar y slip talu.

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi ddefnyddio i dalu’r bill treth anghywir, cysylltwch ag Ymholiadau Cyffredinol Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg) i ofyn i’ch taliad gael ei drosglwyddo.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (cyn belled â’ch bod yn talu o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Os nad oes gennych slip talu

Bydd angen i chi dalu drwy ddull arall yn lle hynny, er enghraifft: