Y cofrestri pridiannau tir a’r gofrestr credydau amaethyddol: cofrestru, chwiliad swyddogol, copi swyddfa a dileu (CY63)
Gwybodaeth am Adran Pridiannau Tir Cofrestrfa Tir EF: ceisiadau i gofrestru, chwiliad swyddogol, copi swyddfa a dileu (cyfarwyddyd ymarfer 63)
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyngor ynghylch ceisiadau i Adran Pridiannau Tir Cofrestrfa Tir EF, i gofrestru budd mewn tir digofrestredig, i chwilio’r mynegai, i gael copi swyddfa ac i ddileu cofnod. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am y gofrestr credydau arwystlon amaethyddol, a gedwir gan yr Adran Pridiannau Tir.
Mae wedi ei anelu at drawsgludwyr a dylech ddehongli cyfeiriadau atoch ‘chi’ felly.
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.
Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn cynnwys gwybodaeth am bridiannau tir lleol. I gael arweiniad ar bridiannau tir lleol gweler cyfarwyddyd ymarfer 79: pridiannau tir lleol.
Gweminarau
Gallwch ymuno â’n gweminarau di-dâl i gael cyngor ar ystod o bynciau cofrestru tir a sut i baratoi ceisiadau o safon.