Skip to main content
Ffurflen

Gwneud cais am help i dalu ffioedd llysoedd a thribiwnlysoedd: Ffurflen EX160

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am gymorth gyda’r ffi wrth wneud cais llys neu dribiwnlys. Dylech ddarllen y canllaw ‘Sut i wneud cais am gymorth gyda ffioedd’ (EX160A).

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Dogfennau

Ffurflen gais: EX160

Gwneud cais am fformat hygyrch
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch wneud cais am gymorth gyda ffi llys neu dribiwnlys yn defnyddio’r ffurflen EX160. Gallwch hefyd wneud cais ar-lein.

Darllenwch Sut i wneud cais am gymorth gyda ffioedd (EX160A) i ddeall os byddwch yn gymwys.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gyfrifiannell dileu ffioedd (EX160C)  i weithio allan os ydych yn gymwys am help gyda ffioedd.

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1. Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
  3. Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.

Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.

Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori. 

Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Argraffu'r dudalen hon