Skip to main content

Talu’ch bil treth Hunanasesiad

Sgipio cynnwys

 cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Wrth dalu, defnyddiwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’. Bydd hwn naill ai:

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi ddefnyddio i dalu’r bill treth anghywir, cysylltwch ag Ymholiadau Cyffredinol Hunanasesiad i ofyn i’ch taliad gael ei drosglwyddo.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc – gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Os na allwch dalu’ch bil treth Hunanasesiad yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull talu arall megis trosglwyddiad banc.