Skip to main content

Taliad Tanwydd Gaeaf

Printable version

1. Trosolwg

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 27 Mehefin 1960 gallech gael rhwng £100 a £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer gaeaf 2026 i 2027. Gelwir hyn yn ‘Daliad Tanwydd Gaeaf’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd i’w ddarllen.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud faint fyddwch yn ei gael.

Caiff y rhan fwyaf o bobl gymwys eu talu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr 2026.

Ad-dalu’r Taliad Tanwydd Gaeaf os yw’ch incwm dros £35,000

Os yw cyfanswm eich incwm dros £35,000, bydd CThEF yn cymryd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl. Nid yw incwm eich partner yn cyfrif tuag at eich cyfanswm.

Gallwch wirio a yw eich incwm dros y trothwy a sut bydd CThEF yn ei gymryd yn ôl

Os ydych yn byw yn Yr Alban

Efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad Pension Age Winter Heating.

Sgamiau

Efallai y byddwch yn cael galwadau ffôn, e-byst neu negeseuon destun yn honni i fod o wasanaeth y llywodraeth. Os ydych yn cael neges yn gofyn am eich manylion personol (er enghraifft, manylion banc neu gyfrineiriau) gallai hyn fod yn sgam. Rhowch wybod am unrhyw beth rydych yn amau

Help arall gyda biliau gwresogi

Gallech hefyd gael:

2. Cymhwysedd

Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os cawsoch eich geni ar neu cyn 27 Mehefin 1960 ac os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.

Pan na fyddwch yn gymwys

Ni fyddwch yn gymwys os:

  • ydych fel arfer yn byw y tu allan i Gymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon
  • roeddech yn ymweld â Chymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon ar 21 i 27 Medi 2026 (yr ‘wythnos gymhwyso’), ond rydych fel arfer yn byw yn rhywle arall
  • roeddech yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim am yr wythnos gyfan rhwng 21 a 27 Medi 2026 a’r flwyddyn cyn hynny
  • rydych angen caniatâd i ddod i mewn i’r DU ac mae eich caniatâd a roddwyd yn dweud na allwch hawlio arian cyhoeddus
  • roeddech yn y carchar am yr wythnos gyfan rhwng 21 a 27 Medi 2026

Os ydych yn byw mewn cartref gofal

Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn byw mewn cartref gofal. Ni fyddwch yn gymwys os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn cael Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • rydych wedi byw mewn cartref gofal am y cyfnod llawn ers 29 Mehefin 2026 neu’n gynharach

3. Faint fyddwch chi'n ei gael

Byddwch yn cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn rhoi gwybod i chi faint o Daliad Tanwydd Gaeaf byddwch yn ei gael, os ydych yn gymwys.

Os nad ydych yn cael llythyr ond rydych yn meddwl eich bod yn gymwys, gwiriwch a oes angen i chi wneud cais.

Mae faint rydych yn ei gael yn seiliedig ar pryd y cawsoch eich geni a’ch amgylchiadau rhwng 21 i 27 Medi 2026. Mae hwn yn cael ei alw yn ‘wythnos gymhwyso’.

Ni fydd unrhyw arian a gewch yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Os yw’ch incwm dros £35,000

Bydd CThEF yn adennill eich Taliad Tanwydd Gaeaf naill ai drwy:

  • newid eich cod treth
  • ychwanegu’r swm at eich ffurflen dreth Hunanasesiad

Gallwch wirio a yw cyfanswm eich incwm dros y trothwy a sut y bydd CThEF yn ei adennill.

Os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu nid oes neb rydych yn byw gyda hwy yn gymwys ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf

Byddwch yn cael naill ai:

  • £200 os cawsoch eich geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
  • £300 os cawsoch eich geni cyn 28 Medi 1946

Os ydych yn byw gyda rhywun arall sy’n gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf

Efallai y bydd eich taliad yn wahanol os ydych yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)

Os nad ydych yn cael unrhyw un o’r budd-dalidadau

Cewch daliad o:

  • £100 os ydych chi a’r person rydych chi’n byw gyda wedi’ch geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
  • £100 os cawsoch eich geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960 ond bod y person rydych chi’n byw gyda wedi’u geni cyn 28 Medi 1946
  • £200 os cawsoch eich geni cyn 28 Medi 1946 ond bod y person rydych chi’n byw gyda wedi cael eu geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
  • £150 os ydych chi a’r person rydych chi’n byw gyda wedi cael eich geni cyn 28 Medi 1946

Os oes gennych chi a’ch partner cais ar y cyd am unrhyw un o’r budd-daliadau

Bydd un ohonoch yn cael taliad o naill ai:

  • £200 os ganwyd y ddau ohonoch rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
  • £300 os ganwyd un neu’r ddau ohonoch cyn 28 Medi 1946

Byddwch yn cael eich talu i’r cyfrif banc y telir eich budd-daliadau iddo fel arfer.

Os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau (nid fel rhan o gais ar y cyd)

Byddwch yn cael taliad o naill ai:

  • £200 os cawsoch eich geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
  • £300 os cawsoch eich geni cyn 28 Medi 1946

Os ydych chi’n byw mewn cartref gofal

Os ydych chi’n gymwys byddwch chi’n cael naill ai:

  • £100 os cawsoch eich geni rhwng 28 Medi 1946 a 27 Mehefin 1960
  • £150 os cawsoch eich geni cyn 28 Medi 1946

4. Gwirio a oes angen i chi wneud cais

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Nid oes angen i chi wneud cais os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • dyfarniadau gan y Cynllun Pensiwn Rhyfel
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Budd-dal Marwolaeth Diwydiannol

Os nad ydych yn cael unrhyw un o’r rhain, mae angen i chi wneud cais os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych chi wedi cael y Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen
  • rydych chi wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth ers eich Taliad Tanwydd Gaeaf diwethaf

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf:

  • drwy’r post - o 21 Medi 2026
  • dros y ffôn - o 19 Hydref 2026

Dyddiad cau er mwyn gwneud cais ar gyfer gaeaf 2026 i 2027 yw 31 Mawrth 2027.

Gwneud cais drwy’r post

Cwblhewch ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf a’i anfon i’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf.

Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad ar eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.

5. Pryd fyddwch chi'n cael eich talu

Mae’r rhan fwyaf o daliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.

Dylech gael llythyr yn dweud wrthych:

  • faint fyddwch yn ei gael
  • pa gyfrif banc y bydd yn cael ei dalu iddo - fel arfer mae hwn yr un cyfrif â’ch Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau eraill

Os nad ydych yn cael llythyr ac nad yw’r arian wedi’i dalu i’ch cyfrif erbyn 27 Ionawr 2027, cysylltwch â’r Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf.

6. Rhoi gwybod am newid

Cysylltwch â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn gymwys am Daliad Tanwydd Gaeaf ac rydych:

  • angen rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
  • angen newid eich cyfeiriad neu fanylion personol

Rhowch wybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau cyn gynted ag y bo modd er enghraifft, os byddwch yn symud tŷ neu yn mynd fewn i gartref gofal. Gall y rhain effeithio faint o Daliad Tanwydd Gaeaf rydych yn ei gael.

Cysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf

Pan fyddwch yn cysylltu â’r ganolfan daliadau, byddwch angen dweud wrthynt eich manylion personol fel:

Gallwch naill ai ffonio’r llinell gymorth neu anfon llythyr trwy’r post.

Ffurflen ymholiadau e-bost
Ffôn: 0800 731 0160
Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 ac yna 0800 731 0160
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych yn denfyddio cyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR

Os ydych wedi cael eich gordalu

Efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu’r arian os:

  • nad ydych yn rhoi gwybod am newid ar unwaith
  • rydych wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • cawsoch eich gordalu mewn camgymeriad

Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.

7. Os yw’ch incwm dros £35,000

Os yw cyfanswm eich incwm dros £35,000, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cymryd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl.

Nid yw incwm eich partner yn cyfrif tuag at gyfanswm eich incwm.

Gallwch wirio a yw’ch incwm dros y trothwy. Bydd angen i chi nodi cyfanswm yr incwm rydych yn disgwyl ei gael yn y flwyddyn dreth wrth law, cyn unrhyw ddidyniadau.

Fel arfer, bydd CThEF yn casglu’r swm sy’n ddyledus gennych drwy’ch cod treth. Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, byddwch yn ei dalu drwy’ch bil treth yn lle hynny.

Gallwch eithrio allan o gael Taliad Tanwydd Gaeaf os yw’ch incwm dros £35,000 neu os nad ydych am gael y taliad.

Os bydd CThEF yn newid eich cod treth

Os bydd CThEF yn newid eich cod treth er mwyn talu’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl, byddant yn cysylltu â chi drwy e-bost neu drwy’r post. Mae hyn yn golygu bydd y dreth sy’n cael ei didynnu oddi wrth eich cyflog, salari neu bensiwn yn cynyddu.

Os na all CThEF gasglu’r swm llawn yn ystod y flwyddyn dreth, bydd yn anfon llythyr cyfrifiad treth atoch.

Os bydd angen i CThEF gasglu 2 daliad

Bydd CThEF yn casglu 2 daliad drwy’ch cod treth ar yr un pryd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu mwy o dreth bob mis.

Enghraifft

Os yw CThEF eisoes yn casglu’ch taliad ar gyfer 2025, bydd eich cod treth yn newid ym mis Ionawr 2027 er mwyn casglu eich taliad ar gyfer 2026. Byddwch yn talu tua £30 i £33 yn fwy o dreth bob mis os mai £200 yw’ch Taliad Tanwydd Gaeaf yn y ddwy flynedd dan sylw.

Os na fyddwch yn eithrio allan o gael Taliad Tanwydd Gaeaf, bydd CThEF yn newid eich cod treth eto ym mis Ebrill 2027 er mwyn parhau i gasglu’ch taliad ar gyfer 2026 ac i ddechrau casglu’ch taliad ar gyfer 2027 ymlaen llaw.

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Mae’n rhaid i chi gynnwys eich Taliad Tanwydd Gaeaf ar eich Ffurflen Dreth, a hynny ar gyfer bob blwyddyn y byddwch yn ei gael.

Os ydych yn cyflwyno Ffurflenni Treth ar-lein, fel arfer bydd CThEF yn cynnwys y swm yn awtomatig. Bydd yn ymddangos fel ‘Tâl Taliad Tanwydd Gaeaf’ a bydd yn cael ei gynnwys yn eich cyfrifiad treth.

Os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Ni allwch dalu’ch Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’ch meddalwedd sy’n cydweddu.

Ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i gadarnhau’r canlynol:

  • y swm y bydd angen i chi ei dalu
  • sut i wneud taliad, a phryd i wneud hynny, gan ddefnyddio gwasanaeth talu ar-lein CThEF

Dylech aros i CThEF gysylltu â chi cyn i chi geisio gwneud y taliad.

Os ydych yn delio ag ystâd rhywun sydd wedi marw

Os cafodd y person a fu farw Daliad Tanwydd Gaeaf ac roedd ei incwm dros £35,000, fel arfer bydd y taliad yn cael ei dalu’n ôl pan fyddwch yn setlo ei ystâd. Dysgwch sut i setlo dyledion a threthi ar gyfer rhywun a fu farw.

8. Eithrio allan o’r Taliad Tanwydd Gaeaf

Ni allwch eithrio allan o’r Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer 2026 i 2027 mwyach.

Byddwch yn gallu eithrio allan o’r Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer 2027 i 2028 o 21 Rhagfyr 2026.

Os nad ydych yn eithrio allan ac mae cyfanswm eich incwm dros £35,000 byddwch yn derbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf ond bydd CThEF yn ei gymryd yn ôl.

Os ydych eisiau eithrio yn ôl i mewn

Gallwch eithrio yn ôl i fewn drwy gysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf. I gael taliad ar gyfer gaeaf 2026 i 2027 bydd angen i chi gysylltu â hwy cyn 31 Mawrth 2027.

Cysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf

Pan fyddwch yn cysylltu â’r ganolfan daliadau, byddwch angen dweud wrthynt eich manylion personol fel:

Gallwch naill ai ffonio’r llinell gymorth neu anfon llythyr trwy’r post.

Ffurflen ymholiadau e-bost
Ffôn: 0800 731 0160
Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 ac yna 0800 731 0160
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych yn denfyddio cyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR