Skip to main content
Canllawiau

Newid y gofrestr trwy dynnu tir o gynllun teitl (CY77)

Sut i wneud cais i dynnu tir o gynllun teitl a’r hyn sy’n digwydd ar ôl ichi wneud eich cais.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Dogfennau

Map proses ar gyfer newidiadau

Gwneud cais am fformat hygyrch
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch customersupport@mail.landregistry.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn egluro:

  • pryd y gellir gwneud cais i newid y gofrestr trwy dynnu tir oddi mewn i’r amlinelliad coch ar gynllun teitl
  • sut i wneud cais
  • yr hyn sy’n digwydd ar ôl gwneud y cais
  • indemniad statudol a phryd y gellid ei dalu yn y cyd-destun hwn.

Mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â thynnu tir oddi mewn i amlinelliad coch ar gynllun teitl rhywun arall. Weithiau, rydym yn newid yr amlinelliad coch i gynnwys tir yn unig (os yw’r perchennog cofrestredig, er enghraifft, yn dangos bod y tir y mae ganddo deitl ar ei gyfer yn cynnwys y tir ychwanegol hwn, ac nad yw’r tir o fewn teitl cofrestredig neb arall) ond bron bob tro mae’r cais yn ymwneud â thir yn cael ei dynnu o amlinelliad coch cynllun teitl rhywun arall.

Mae cyfeiriadau at dynnu tir o gynllun teitl yn ffordd fer o gyfeirio at dynnu tir o’r amlinelliad coch ar gynllun teitl.

Weithiau, rydym yn defnyddio arlliwio pinc neu arlliwio arall yn hytrach nag amlinellu coch ar gynllun teitl; mae’r hyn a ddywedir yn y cyfarwyddyd hwn yn briodol pa bynnag ffordd a ddefnyddir i ddangos ardal o dir.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.

Gweminarau

Gallwch ymuno â’n gweminarau di-dâl i gael cyngor ar ystod o bynciau cofrestru tir a sut i baratoi ceisiadau o safon.

Argraffu'r dudalen hon