Prydlesi: pryd i gofrestru (CY25)
Cyngor i drawsgludwyr yn ymdrin â'r agweddau gorfodol a gwirfoddol ar ystadau prydlesol mewn tir (cyfarwyddyd ymarfer 25).
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn trafod agweddau cofrestru gorfodol a gwirfoddol ar ystadau prydlesol mewn tir, gan gynnwys y rhai nad oes modd eu cofrestru.
Mae hefyd yn trafod sut i wneud cais i gofrestru a nodi prydlesi (gan gynnwys pryd y byddwn yn nodi prydles yn awtomatig yn erbyn teitl rifersiwn cofrestredig) a gweithredoedd amrywio.
Nid yw’n delio â’r prydlesi hynny a ddadlennwyd fel buddion dadlenadwy; gweler cyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a’u dadlennu.
Mae’r cyfarwyddyd wedi ei anelu at drawsgludwyr a dylech ddehongli cyfeiriadau atoch ‘chi’ felly.
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.
Gweminarau
Gallwch ymuno â’n gweminarau di-dâl i gael cyngor ar ystod o bynciau cofrestru tir a sut i baratoi ceisiadau o safon.