Skip to main content
Canllawiau

Sut i godi pryder

Ynglŷn ag atwrnai, dirprwy neu warcheidwad

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sut i godi pryder

Y ffordd gyflymaf i adael inni wybod am eich pryder yw  llenwi’r ffurflen ar-lein. Llenwch y ffurflen gyda chymaint o wybodaeth â phosibl.

Rhowch y canlynol yn eich adroddiad:

  • manylion y rhoddwr neu’r cleient (gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni)
  • y dyddiad y gwnaethoch sylwi ar y pryder am y tro cyntaf
  • unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r pryder – er enghraifft, cofnodion ariannol
  • yr hyn rydych yn ei wybod am alluedd meddyliol yr unigolyn, gan gynnwys copi o unrhyw adroddiad galluedd meddyliol neu enwau pwy fyddai ag adroddiadau
  • eich manylion cyswllt

Yna bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried a oes ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i ymchwilio.

Hyd yn oed os nad oes gennych chi’r holl wybodaeth, bydd dal yn bosib i chi roi gwybod inni am bryder sydd gennych.

Ffyrdd eraill i adrodd am bryderon i’r OPG

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen PDF isod i greu eich adroddiad. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom, ysgrifennu atom neu ein ffonio.

OPG130 Codi pryder

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch customerservices@publicguardian.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

OPG130 Codi pryder - ODT

Anfonwch neges e-bost at Uned Ddiogelu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
opg.safeguardingunit@publicguardian.gov.uk

  • Ffôn: 0300 456 0300
  • Ffonio o tu allan i’r DU: +44 (0)203 518 9639
  • Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 0300 123 1300

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Dydd Mercher, 10am i 5pm

Sylwer, oherwydd diffyg staff sy’n siarad Cymraeg, ni allwn ateb galwadau yn Gymraeg. Gallwch naill ai barhau â’ch galwad yn Saesneg, neu ysgrifennu eich ymholiad mewn e-bost a’i anfon i opgcasework@publicguardian.gov.uk Yna, byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg

Dysgu mwy am gostau galwadau

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Ffyrdd eraill o godi pryder

Gallwch hefyd gysylltu â’r canlynol:

Ffoniwch 999 os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu eich heddlu lleol os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi cyflawni trosedd.

Argraffu'r dudalen hon