Skip to main content
Canllawiau

Gwirio Statws Cyflogaeth at ddibenion Treth (CEST)

Defnyddiwch yr offeryn CEST i wirio a ddylech chi, neu weithiwr mewn swydd benodol, gael eich nodi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig at ddibenion treth.

Mae’r offeryn CEST yn dangos safbwynt CThEF o ran statws cyflogaeth gweithiwr, a hynny’n seiliedig ar yr wybodaeth a roddir gennych.

Bydd statws cyflogaeth gweithiwr yn pennu pwy sy’n gyfrifol am gyfrifo’r dreth a’r Cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus a’u talu wedyn i CThEF.

Bydd CThEF yn glynu wrth bob canlyniad a gynhyrchir gan yr offeryn, cyn belled â bod yr wybodaeth a rowch yn parhau i fod yn gywir a’i bod yn cael ei defnyddio yn unol â’n harweiniad.

Pwy all ddefnyddio’r offeryn

Gall unrhyw un ddefnyddio’r offeryn i wirio statws cyflogaeth at ddibenion treth, er enghraifft:

  • hurwyr
  • gweithwyr
  • asiantaethau neu drydydd parti

Pryd i ddefnyddio’r offeryn

Defnyddiwch yr offeryn i wneud y canlynol:

  • gwirio a ddylid eich ystyried chi neu weithiwr yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig at ddibenion treth
  • p’un a yw’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) yn berthnasol i swydd
  • gwirio a fydd newid i gontract neu drefniant gweithio yn effeithio ar ganlyniad
  • gwirio neu ddeall canlyniad sydd eisoes wedi’i roi

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid bod contract ar waith, neu fod disgwyl i un gael ei roi ar waith. Gall hyn fod yn ysgrifenedig, ar lafar, yn ddealledig neu’n gyfuniad o’r rhain.

Bydd angen i chi wybod y canlynol:

  • manylion y contract
  • beth yw cyfrifoldebau’r gweithiwr
  • pwy sy’n penderfynu ar ba waith sydd angen eu gwneud
  • pwy sy’n penderfynu pa bryd, ym mha le a sut y gwneir y gwaith
  • sut y bydd y gweithiwr yn cael ei dalu
  • os yw’r swydd yn cynnwys unrhyw fuddiannau corfforaethol neu ad-daliadau ar gyfer treuliau

Mae defnydd o’r offeryn yn anhysbys. Nid ydym yn casglu manylion adnabod y rhai sy’n defnyddio’r offeryn.

Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi manylion ar gyfer yr offeryn hwn ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

Gwirio nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Ar ôl i chi ddefnyddio’r offeryn, byddwch yn gallu:

  • cadw eich atebion a’r canlyniad
  • defnyddio’r canlyniad fel datganiad penderfynu statws dilys

Gwybodaeth bellach

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllaw Statws Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Rydym yn cofnodi ac yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol gan ddangos dadansoddiad o’r canlyniadau a’r rhesymeg ar gyfer yr offeryn CEST (yn agor tudalen Saesneg).

Argraffu'r dudalen hon