Skip to main content
Canllawiau

Taenlen ar gyfer hawlio treth yn ôl ar gyfraniadau Rhodd Cymorth

Cyflwynwch gyfraniadau Rhodd Cymorth unigol, cyfraniadau cyfansymiol a cheisiadau am ddigwyddiadau a noddir drwy ddefnyddio’r gwasanaeth 'Elusennau Ar-lein'.

Yr hyn i’w gynnwys

Mae’n rhaid i chi gael Datganiadau Rhodd Cymorth (yn agor tudalen Saesneg) dilys ar gyfer rhoddion yn eich taenlen sy’n dangos atodlen. Dylech gadw hyn ar gyfer eich cofnodion.

Bydd angen i chi nodi’r canlynol ar gyfer pob rhoddwr unigol:

  • teitl, gan ddefnyddio uchafswm o 4 cymeriad ar bob llinell

  • enw, gan ddefnyddio uchafswm o 35 cymeriad ar bob llinell - rydym yn argymell enw llawn i’n helpu i adnabod rhoddwyr (os yw’r cyfenw yn ddau faril, defnyddiwch ofod yn lle’r cysylltnod)

  • enw neu rif y tŷ

  • cod post, gan ddefnyddio prif lythrennau a bwlch er enghraifft, S19 2BD

  • cyfraniadau cyfansymiol (sawl cyfraniad o dan £30 wedi’u grwpio gyda’i gilydd) os yw’n berthnasol

  • digwyddiadau a noddir

  • dyddiad y cyfraniad, gan ddefnyddio’r fformat DD/MM/BB, neu nodwch y dyddiad diweddaraf mewn cyfres o gyfraniadau a wnaed gan y cyfrannwr

  • swm y cyfraniad, heb ddefnyddio’r arwydd £ ac yn dangos symiau i 2 bwynt degol, er enghraifft, 200.00 nid £200

Os nad yw maes yn y daenlen yn berthnasol i chi, gadewch ef yn wag.

Ar gyfer cyfraniad unigol, mae angen i chi gynnwys y dyddiad y cawsoch y cyfraniad. Ar gyfer cyfraniad rheolaidd neu gyfraniad cyfansymiol, nodwch ddyddiad yr olaf ohonynt.

Hefyd, gallwch nodi’r cyfanswm ar gyfer y cyfrannwr dros y cyfnod yr ydych yn hawlio ar ei gyfer. Efallai y bydd angen i chi ddangos dyddiad gwahanol os yw’r cyfraniadau hyn yn cwmpasu mwy nag un cyfnod cyfrifyddu.

Bydd angen i chi ddod o hyd i’r codau post ar gyfer cyfeiriadau yn y DU gan y rhoddwr neu drwy ddefnyddio gwasanaeth canfod codau post ar-lein y Post Brenhinol, sy’n rhad ac am ddim. Nodwch nhw yn eich cofnodion.

Mae’n rhaid i’r cyfeiriad a ddarperir fod lle mae’r rhoddwr yn byw. Ni all fod yn gweithle nac yn gyfeiriad dan ofal.

Dynodi rhoddwyr sy’n byw y tu allan i’r DU fel rhai nad ydynt yn breswyl yn eich taenlen. Mae hyn yn cynnwys rhoddwyr sy’n byw ar Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.

Bydd angen i chi ddarparu manylion llawn ar gyfer rhoddwyr nad yw’n breswyl yn y DU. Dylai’r manylion hyn gynnwys:

  • rhif neu enw’r tŷ

  • stryd

  • dinas

  • rhanbarth

  • cod post (cod zip lle bo’n briodol)

  • gwlad lle bo’n berthnasol

Ni ddylech gynnwys codau post ar gyfer cyfeiriadau yn Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.

Cyfraniadau cyfansymiol

Gallwch ‘cyfansymu’ (adio at ei gilydd) cyfraniadau o £20 neu lai gan gyfranwyr gwahanol a’u dangos fel un cofnod ar y daenlen. Ni all cyfanswm y cyfraniad ar un llinell:

  • fod yn uwch na £1,000

  • gynnwys rhoddion sy’n gysylltiedig â mynediad i atyniadau i ymwelwyr sy’n elusennau

I hawlio Rhodd Cymorth ar gyfraniadau cyfansymiol, peidiwch â nodi enw a chyfeiriad cyfranwyr unigol, gan y bydd hyn yn arafu eich cais am ad-daliad. Yn lle hynny, dylech nodi’r canlynol:

  • disgrifiad syml, megis ‘Cyfranwyr clwb dydd Iau’, yn y blwch ‘cyfraniadau cyfansymiol’ (uchafswm o 35 o gymeriadau)

  • dyddiad y cyfraniad diwethaf

  • y cyfanswm a godwyd

Dim ond cyfraniadau a wnaed yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu y dylech eu hadio at ei gilydd. Mae eich cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar y dyddiad y mae’r cyfrifon yn cael eu paratoi ar ei gyfer, oni bai y cafodd eich sefydliad ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys, neu ei sefydlu y tu allan i’r DU. Yn yr achosion hynny, mae eich cyfnod cyfrifyddu’n dod i ben ar 5 Ebrill.

Digwyddiadau a noddir

Bydd angen i chi nodi’r canlynol:

  • ‘iawn’ yn y blwch digwyddiad a noddwyd

  • y dyddiad y derbyniodd yr elusen y taliadau nawdd

  • cyfanswm yr holl Gyfraniadau Rhodd Cymorth a godwyd gan y cyfranogwr

Os ydych yn hawlio Rhodd Cymorth ar roddion o ddigwyddiad a noddwyd, nid oes angen i chi gynnwys manylion am roddwyr unigol, oni bai bod unigolyn yn rhoi mwy na £500.

Dangoswch gyfraniadau dros £500 fel rhodd Rhodd Cymorth ar wahân gydag enw a chyfeiriad y rhoddwr. Peidiwch â nodi ‘iawn’ yn erbyn y cyfraniadau hyn yn y blwch ‘digwyddiad a noddir’.

Os ydych yn adio cyfraniadau sy’n llai na £500 o ddigwyddiadau a noddir, nodwch enw, cyfeiriad a chod post pob cyfranogwyr yn y digwyddiad.

Gall y cyfeiriad fod yn gyfeiriad cartref y cyfranogwyr, ei le gwaith neu gyfeiriad ysgol os yw’r cyfranogwyr yn blentyn sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad a drefnwyd gan ysgol.

Cyfraniadau rheolaidd

Gellir dangos cyfraniadau rheolaidd gan un person ar un llinell. Gallwch adio’r holl gyfraniadau at ei gilydd a nodi dyddiad y cyfraniad diweddaraf yn unig. Dim ond cyfraniadau a wnaed yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu y dylech eu hadio at ei gilydd.

Mae eich cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar y dyddiad y mae’r cyfrifon yn cael eu paratoi ar ei gyfer, oni bai y cafodd eich sefydliad ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys, neu ei sefydlu y tu allan i’r DU. Yn yr achosion hynny, mae eich cyfnod cyfrifyddu’n dod i ben ar 5 Ebrill.

Er enghraifft, os caiff taliadau misol o £10 eu gwneud gan yr un person o 10 Gorffennaf 2013 i 10 Mehefin 2023, a 30 Mehefin yw eich cyfnod cyfrifyddu:

Taliad misol Dyddiad diweddaraf Yn syrthio yn y cyfnod cyfrifyddu hyd at
£120 10 Mehefin 2020 30 Mehefin 2020
£90 10 Mawrth 2021 30 Mehefin 2021
£30 10 Mehefin 2022 30 Mehefin 2022
£120 10 Mehefin 2023 30 Mehefin 2023

Symiau a or-hawliwyd

Defnyddiwch y daenlen sy’n dangos atodlen i roi gwybod i CThEF am wall a achosodd i chi gael eich gordalu y tro diwethaf i chi wneud cais.

Mae’n rhaid i chi nodi swm y dreth a hawliwyd yn ormodol yn y maes cywir, nid gwerth y rhodd. Yna, caiff y swm hwn ei ddidynnu o’r cais yr ydych yn ei gyflwyno.

Os yw’r swm a ordalwyd yn fwy na’ch cais am ad-daliad, bydd angen i chi wneud taliad ychwanegol i CThEF.

Terfyn fesul taenlen

Mae gan y daenlen amserlen Cyfraniadau Rhodd Cymorth uchafswm o 1,000 o linellau, felly gallwch hawlio ar gyfer 1,000 o gyfraniadau ar un daenlen yn unig. Os ewch chi dros yr uchafswm, ni fydd y llinellau ychwanegol yn cael eu hatodi fel rhan o’ch hawliad.

Fodd bynnag, gallwch gyflwyno cymaint o geisiadau ar-lein ag y dymunwch, er enghraifft os oes gennych 1,600 o Gyfraniadau Rhodd Cymorth, gallwch gyflwyno dau gais gyda 800 o gyfraniadau ym mhob cais. Mae’n rhaid i chi lenwi a chyflwyno un cais ar-lein cyn cael dechrau un arall.

Y feddalwedd gywir

Mae’r daenlen amserlen ar fformat OpenDocument (ODF), fformat rhad ac am ddim a ddefnyddir ledled y byd. Mae defnyddio ODF yn golygu y gall y daenlen sy’n dangos atodlen agor mewn amrywiaeth o raglenni meddalwedd.

Cyn i chi ei agor, gwnewch yn siŵr bod un o’r rhaglenni meddalwedd hyn wedi’u gosod ar eich cyfrifiadur:

  • Microsoft Excel

  • LibreOffice ar gyfer Microsoft Windows, Apple Mac OS a Linux

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, lawrlwythwch y daenlen sy’n dangos atodlen gywir ar gyfer MS Excel. Sicrhewch fod eich cyfrifiadur yn defnyddio ‘English UK’ fel iaith. Ewch i ‘File > Options > Languages’ i weld.

Os ydych yn defnyddio LibreOffice, mae’n rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen ar gyfer LibreOffice. Mae lawrlwytho LibreOffice yn rhad ac am ddim. Mae’n rhaid i chi lawrlwytho’r fersiwn ‘English (GB)’. Ewch i ‘Tools > Options > Languages’ i weld.

Peidiwch â lawrlwytho’r daenlen LibreOffice a’i throsi i Microsoft Excel (neu i’r gwrthwyneb). Os gwnewch hyn, efallai y cewch broblemau.

Efallai y bydd angen i’r rheiny sy’n defnyddio Mac osod ‘English (GB)’. Gwnewch hyn ar wefan LibreOffice a chliciwch ar ‘LibreOffice in other languages.’

Gall rhaglenni ODF eraill caniatáu i chi agor ffeiliau’r daenlen sy’n dangos atodlen. Efallai na fyddant yn caniatáu i chi atodi eich taenlen i’ch hawliad ar-lein na bwrw golwg dros y cynnwys yn Elusennau Ar-lein.

Lawrlwythwch y daenlen sy’n dangos atodlen Rhodd Cymorth.

Cadw a chyflwyno

Cadwch y taenlenni ar eich cyfrifiadur. Gallwch ddefnyddio’r daenlen yn syth.

Mae gan bob taflen waith yn y daenlen tab ag enw ar y gwaelod ar yr ochr chwith. Enw’r tab yw: R68GAD_V1_00_0_CY (neu EN ar gyfer y fersiwn Saesneg) – Taenlen o gyfraniadau Rhodd Cymorth. Peidiwch â newid yr enw, neu ni fyddwch yn gallu atodi’r daenlen amserlen i’r ffurflen ar-lein yn Elusennau Ar-lein.

Mae taenlenni sydd wedi’u cadw yn y fformat OpenDocument yn cynnwys y terfyniad ‘.ods’ ar ôl enw’r ffeil. Er enghraifft, byddai ffeil o’r enw ‘Hawlio Rhodd Cymorth 2013’ yn ‘Hawlio Rhodd Cymorth 2013.ods’. Os byddwch yn newid y rhagddodiad, efallai y byddwch yn profi problemau wrth geisio uwchlwytho’ch taenlen i ‘Elusennau Ar-lein’.

Negeseuon Gwall

Os cewch neges gwall sy’n dechrau gydag ‘ASM’, sicrhewch nad ydych wedi ei chopïo a’i phastio i mewn i’r daenlen, a’ch bod wedi cadw’r ffeil fel taenlen ODF.

Os cewch fath arall o neges gwall, sicrhewch nad ydych wedi teipio unrhyw fylchau gwag yn eich taenlen cyn neu ar ôl gwybodaeth am gyfrannwr.

Argraffu'r dudalen hon