Gwneud hysbysiad oddi ar y ffordd statudol (HOS) (ffurflen V890W)
Ffurflen gais (V890W) i gofrestru eich cerbyd fel oddi ar y ffordd, a elwir hefyd yn HOS.
Dogfennau
Manylion
Gallwch wneud HOS ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 4321 os ydych wedi eich cofrestru fel ceidwad y cerbyd.
Os nad ydych wedi eich cofrestru eto fel ceidwad y cerbyd, mae’n rhaid ichi wneud HOS drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen V890W. Llenwch yr adran berthnasol o’r V5CW a’i hanfon ynghyd â’r V890W.
Os nad yw’r V5CW gennych, llenwch ffurflen V62W (mae ffi yn daladwy) a’i hanfon ynghyd â’r V890W.