Skip to main content
Canllawiau

Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd

Efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd gyda neu yn lle Credyd Cynhwysol (UC), yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Trosolwg

Os ydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd efallai y gallwch gael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd.

Mae JSA Dull Newydd yn daliad bob bythefnos a ellir gwneud cais amdano ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol.

Mae JSA Dull Newydd yn fudd-dal sy’n seiliedig ar gyfraniadau. Fel arfer mae hyn yn golygu efallai y gallech ei gael os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG), fel arfer yn y 2 flynedd dreth lawn cyn y flwyddyn rydych yn gwneud cais ynddo. Gall credydau Yswiriant Gwladol hefyd gyfrif.

Os ydych yn gymwys, gallwch gael JSA Dull Newydd am hyd at 182 diwrnod. Ar ôl hyn bydd eich anogwr gwaith yn siarad gyda chi am eich opsiynau.

Os ydych yn gymwys am JSA Dull Newydd a Chredyd Cynhwysol, bydd unrhyw JSA Dull Newydd a gewch yn cael ei gymryd i ystyriaeth fel incwm ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Pam ddylwn i wneud cais am JSA Dull Newydd?

Ni fydd eich cynilion a chyfalaf chi (neu gynilion, cyfalaf ac incwm eich partner) yn cael ei gymryd i ystyried wrth wneud cais am JSA Dull Newydd. Fodd bynnag, gall eich enillion neu unrhyw daliad rydych yn ei gael o bensiwn effeithio’r swm y gallech ei gael.

Tra rydych yn cael JSA Dull Newydd byddwch yn cael dyfarniad o gredydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, a all helpu tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill sy’n seiliedig ar gyfraniadau yn y dyfodol. Mae’n daliad rheolaidd bob pythefnos.

Mae’r tabl canlynol yn dangos beth allech chi wneud cais amdano yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

Eich sefyllfa JSA Dull Newydd Credyd Cynhwysol
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd ac rydych angen cymorth rhwng swyddi.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG Dosbarth 1 yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd - hyd yn oed os yw eich partner yn gweithio neu fod gennych chi a’ch partner gynilion dros £16,000. Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych chi (a’ch partner) blant neu gostau tai.

Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych chi (a’ch partner) £16,000 neu lai o gynilion rhyngoch.

Bydd incwm eich partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth oherwydd byddwch angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpwl.

Bydd unrhyw JSA Dull Newydd a gewch hefyd yn cael ei gymryd i ystyriaeth fel incwm, ond gallech ddal i gael Credyd Cynhwysol.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Rydych angen cymorth rhwng swyddi ac nid ydych wedi talu neu gael eich credydu gydag unrhyw gyfraniadau Dosbarth 1 YG, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf. Rydych yn annhebygol o gael JSA Dull Newydd os nad ydych wedi talu neu gael eich credydu gyda chyfraniadau YG. Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych chi (a’ch partner) blant neu gostau tai.

Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych chi (a’ch partner) £16,000 neu lai o gynilion rhyngoch.

Bydd incwm eich partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth oherwydd byddwch angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpwl.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG Dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.

Rhyngoch chi, mae gennych chi a’ch partner fwy na £16,000 mewn cynilion.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd.

Nid yw JSA Dull Newydd yn cael ei effeithio gan eich cynilion chi a’ch partner.
Rydych yn annhebygol o gael Credyd Cynhwysol oherwydd bod eich cynilion yn rhy uchel.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG Dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.

Mae eich partner yn gweithio.

Rhyngoch chi, mae gennych chi a’ch partner llai na £16,000 mewn cynilion.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd, oherwydd nad yw gwaith eich partner yn effeithio eich hawl. Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol oherwydd bod gennych chi a’ch partner llai na £16,000 mewn cynilion.

Bydd incwm eich partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth oherwydd byddwch angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpwl.

Bydd unrhyw JSA Dull Newydd a gewch hefyd yn cael ei gymryd i ystyriaeth fel incwm, ond gallech ddal i gael Credyd Cynhwysol.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Rydych yn cael incwm o bensiwn gan gyflogaeth flaenorol.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG Dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd.

Efallai bydd eich incwm o bensiwn yn cael ei gymryd i ystyriaeth.
Os oes gennych chi a’ch partner llai na £16,000 o gynilion, efallai gallech hefyd gael Credyd Cynhwysol.

Bydd eich incwm o bensiwn yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

Bydd unrhyw JSA Dull Newydd a gewch hefyd yn cael ei gymryd i ystyriaeth fel incwm, ond gallech ddal gael Credyd Cynhwysol.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Mae gennych blant.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG Dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd oherwydd eich bod wedi talu/cael eich credydu gyda chyfraniadau YG, felly efallai byddwch yn gymwys.

Nid yw JSA Dull Newydd yn cynnwys symiau ychwanegol ar gyfer plant.
Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol gan ei fod yn asesiad i’r cartref a gallwch gael swm ar gyfer plant.
Rydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Rydych yn byw mewn llety rhent, neu mae gennych forgais neu fenthyciad cartref, ac rydych angen help i dalu’r gost.

Rydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG Dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 mlynedd diwethaf fel gweithiwr cyflogedig.
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd oherwydd eich bod wedi talu/cael eich credydu gyda chyfraniadau YG, felly efallai byddwch yn gymwys.

Nid yw JSA Dull Newydd yn cynnwys swm ychwanegol ar gyfer costau tai.
Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol gan ei fod yn asesiad i’r cartref a gallwch gael swm ar gyfer eich costau tai.

Cymhwyster

I fod yn gymwys am JSA Dull Newydd bydd angen i chi fod wedi:

  • gweithio fel cyflogai
  • talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 blynedd diwethaf.

Ni fyddwch yn gymwys os oeddech yn hunangyflogedig a dim ond wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, oni bai roeddech yn gweithio fel pysgotwr ar y cyd neu weithiwr datblygu gwirfoddol.

Mae yna reolau cymhwysedd gwahanol os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon.

Rhaid i chi hefyd:

  • fod yn 18 oed neu’n hŷn
  • bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • bod ym Mhrydain Fawr
  • peidio â bod yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos

Ni fyddwch yn gymwys os ydych chi’n rhan o anghydfod gyda’ch cyflogwr ynghylch materion sy’n gysylltiedig â chyflogaeth (‘anghydfod masnachu’).

Ni fyddwch yn gymwys os oes gennych salwch neu anabledd sy’n eich atal rhag gweithio. Gwiriwch a allwch chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle.

Ni fydd eich cynilion a chynilion eich partner yn effeithio ar eich cais.

Eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol

I fod yn gymwys, rhaid i chi fel arfer fod wedi gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y 2 flynedd dreth flaenorol. Gall credydau Yswiriant Gwladol gyfrif am un o’r blynyddoedd hyn os na wnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Enghraifft

Os byddwch yn gwneud cais am JSA ar neu cyn 3 Ionawr 2026, rhaid i chi fod wedi talu neu wedi cael eich credydu ag Yswiriant Gwladol yn y blynyddoedd treth:

  • 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024
  • 6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023

Os ydych chi’n gwneud cais am JSA ar neu ar ôl 4 Ionawr 2026, mae’n rhaid eich bod wedi talu neu wedi cael eich credydu ag Yswiriant Gwladol yn y blynyddoedd treth:

  • 6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025
  • 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024

Efallai y byddwch yn gymwys yn seiliedig ar gyfraniadau o wahanol flynyddoedd treth os, yn ystod y ddwy flynedd dreth flaenorol, rydych wedi:

  • hawlio JSA, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Lwfans Gofalwr, Lwfans Mamolaeth neu Daliad Cymorth i Ofalwyr
  • byw dramor gyda’ch partner sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog

Os ydych chi’n gweithio

Fel arfer, ni allwch chi gael JSA Dull Newydd os ydych chi’n gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos.

Gall eich enillion leihau faint o JSA Dull Newydd a gewch.

Gwiriwch beth sydd angen i chi ei ddweud wrth eich anogwr gwaith os ydych chi neu’ch partner yn gwneud unrhyw waith tra byddwch chi’n cael JSA Dull Newydd.

Os ydych chi mewn addysg

Os ydych chi’n astudio’n rhan-amser efallai y byddwch chi’n gymwys i gael JSA.

Os ydych chi’n astudio’n llawn amser, efallai y byddwch chi’n gymwys os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • mae’r cymhwyster rydych chi’n astudio ar ei gyfer ar Lefel 4 neu’n is
  • nid ydych chi’n cael benthyciad cynhaliaeth, grant na bwrsariaeth ar gyfer y cymhwyster rydych chi’n ei astudio
  • gallwch chi fodloni’r gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith y cytunwyd arnynt gyda’ch anogwr gwaith

Os oes gennych salwch neu anabledd sy’n eich stopio rhag gweithio ni allwch gael JSA Dull Newydd, ond efallai byddwch yn gallu cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ‘Dull Newydd’.

Sut i wneud cais

I wneud cais, bydd angen eich:

  • rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (neu fanylion aelod o’r teulu neu ffrind gallwch ymddiried ynddynt)
  • manylion cyflogaeth am y 6 mis diwethaf, gan gynnwys manylion cyswllt eich cyflogwr a’r dyddiadau roeddech yn gweithio iddynt
  • llythyr datgan pensiwn preifat

Gwneud cais ar-lein

Ni allwch wneud cais ar-lein os ydych o dan 18 oed.

Gwneud Cais am JSA dull newydd

Os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes angen fformatiau arall arnoch

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych rhwng 16 a 17 oed
  • mae angen help arnoch i wneud cais
  • mae angen i gyfathrebiadau gael eu hanfon atoch mewn fformat arall, fel braille, print bras neu CD sain

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon

Os na allwch wneud cais ar-lein neu mae angen fformatau amgen arnoch cysylltwch â’r Jobseeker’s Allowance Processing Centre.

Ar ôl i chi wneud eich cais

Os rhoddoch eich rhif ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost yn eich cais ar-lein, byddwch yn cael neges destun neu e-bost i gadarnhau ei fod wedi’i gyflwyno.

Yna bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi o fewn 14 diwrnod o wneud cais. Byddwch naill ai yn:

  • cael eich gwahodd i gyfweliad yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol
  • derbyn llythyr i esbonio pam nad ydych yn gymwys i gael JSA

Nid oes angen i chi gysylltu â DWP oni bai ei bod hi’n fwy na 14 diwrnod ers i chi wneud cais ac nad ydych wedi clywed gennym.

Eich cyfweliad JSA

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, rhaid i chi fynychu. Bydd yn cael ei gynnal yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Gofynnir rhai cwestiynau i chi i gadarnhau pwy ydych ac yna byddwch yn dod i gytundeb ynghylch pa gamau y byddwch yn eu cymryd i chwilio am waith.

Bydd angen i chi ddod â’r canlynol i gyd:

  • un prawf adnabod ffotograffig
  • un prawf o gyfeiriad
  • un prawf hunaniaeth pellach

Os oes gennych P45 gan eich cyflogwr, dewch â hwn i’ch cyfweliad. Gallwch hefyd ddefnyddio hwn fel eich prawf hunaniaeth pellach.

Tystiolaeth hunaniaeth ffotograffig

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • pasbort dilys
  • trwydded gyrru
  • eFisa sy’n dangos eich bod yn cael aros yn y DU am 6 mis neu fwy
  • tystysgrif brodori fel dinesydd Prydeinig
  • trwydded preswylio parhaol

Tystiolaeth o’ch cyfeiriad

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • slip cyflog neu ddatganiad pensiwn wedi’i dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • bil cyfleustodau wedi’i dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • bil Treth Cyngor wedi’i dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • dogfennau benthyciad myfyriwr

Tystiolaeth pellach o’ch hunaniaeth

Mae enghreifftiau’n cynnwys eich:

  • P60
  • llyfr cyfrif cynilo
  • llyfr siec personol
  • cerdyn debyd, credyd neu siop gyda datganiad yn cadarnhau manylion y cerdyn

Gall biliau cyfleustodau cael eu defnyddio am dystiolaeth o’ch cyfeiriad a thystiolaeth bellach o’ch hunaniaeth os ydyn nhw o ddarparwyr gwahanol.

Darllenwch restr lawn y dogfennau gallwch ddod i’r cyfweliad

Cymorth yn eich cyfweliad

Gallwch gymryd rhywun gyda chi i’ch cyfweliad JSA.

Cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith cyn y cyfweliad os oes angen:

  • cymorth arnoch oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd (er enghraifft, rydych yn fyddar ac angen dehonglwyr iaith arwyddion).
  • cyfieithydd ar y pryd iaith tramor ac nad oes gennych rywun a all eich helpu gyda chyfieithu.

Llofnodwch gytundeb i chwilio am waith (‘Ymrwymiad Hawlydd’)

Yn eich cyfweliad JSA, rhaid i chi lofnodi cytundeb ynghylch pa gamau y byddwch yn eu cymryd i chwilio am swydd. Gelwir hyn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’.

Byddwch chi a’ch anogwr gwaith yn cytuno ar yr hyn sy’n mynd yn eich Ymrwymiad Hawlydd. Gallai hyn gynnwys:

  • beth sydd angen i chi ei wneud i chwilio am waith - er enghraifft cofrestru gydag asiantaethau recriwtio, ysgrifennu CV
  • faint o oriau sydd angen i chi eu treulio yn chwilio am waith bob wythnos

Bydd yr hyn rydych chi’n cytuno i’w wneud yn dibynnu ar bethau fel:

  • eich iechyd
  • eich cyfrifoldebau gartref
  • faint o help sydd ei angen arnoch i gael gwaith neu gynyddu eich incwm

Efallai y bydd eich JSA yn cael ei leihau neu ei atal os nad ydych yn gwneud yr hyn rydych wedi cytuno iddo yn eich Ymrwymiad Hawlydd ac na allwch roi rheswm da.

Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Mae hwn yn cael ei alw’n gofyn am ailystyriaeth orfodol.

Argraffu'r dudalen hon