Skip to main content
Ffurflen

Gwneud cais am gredydau Yswiriant Gwladol os ydych yn rhiant neu’n ofalwr

Hawlio neu drosglwyddo credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gan ddefnyddio ffurflen CF411A.

Dogfennau

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais drwy’r post

Nodiadau arweiniad

Manylion

Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr i blentyn sydd o dan 12 oed

Dylech gael credydau yn awtomatig os ydych yn hawlio Budd-dal Plant.

Os ydych chi neu’ch partner wedi cofrestru i gael Budd-dal Plant, gallwch wneud y canlynol:

  • gwneud cais am gredydau sydd ar goll o’ch cofnod Yswiriant Gwladol
  • trosglwyddo credydau o’ch priod neu’ch partner

Os ydych yn ofalwr maeth neu’n ofalwr sy’n berthynas

Gallwch wneud cais am gredydau Yswiriant Gwladol. Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth ategol gyda’ch ffurflen.

Sut i lenwi’r ffurflen

Defnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi i wneud cais ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi greu rhai.

Os ydych yn cyflwyno llythyr o gadarnhad neu dystiolaeth ategol, dylai fod ar ffurf PDF neu JPEG, ac ni ddylai fod yn fwy na 5MB.

Byddwch yn cael cyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.

Anfon y ffurflen bost

Cyn i chi ddechrau

Sicrhewch fod eich porwr wedi’i ddiweddaru (yn Saesneg).

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi. Bydd angen i chi bostio unrhyw dystiolaeth ategol gyda’r ffurflen.

I ble y dylid anfon y ffurflen

Gweithrediadau Treth Bersonol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Argraffu'r dudalen hon