Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Os nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF cyn gynted â phosibl os ydych o’r farn nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach.
Bydd angen amser ar CThEF i adolygu’ch cais cyn y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad, sef 31 Ionawr.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os nad ydych yn rhoi gwybod i CThEF yn ddigon cynnar.
Pan nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach
Gallai’r canlynol fod yn rhesymau pam nad oes angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth mwyach:
- rydych wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig
- nid ydych yn rhoi eiddo ar osod mwyach
- nid ydych yn talu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel mwyach
Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.
Rhowch wybod i CThEF
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein hwn i roi gwybod i CThEF:
- nad oes angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth mwyach (er enghraifft, oherwydd nad oes angen i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel mwyach)
- nad oes angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth flaenorol
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth i roi gwybod i CThEF eich bod wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig
Bydd angen i chi fewngofnodi i roi gwybod i CThEF. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Mae ffordd wahanol o roi gwybod i CThEF os ydych am roi’r gorau i dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel drwy Hunanasesiad, a dechrau talu’r tâl drwy TWE.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Gallwch ffonio neu ysgrifennu at CThEF (yn agor tudalen Saesneg) i roi gwybod eich bod wedi peidio â bod angen cyflwyno Ffurflen Dreth.
Os ydych yn asiant
Ni allwch defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein os ydych yn asiant. Dylech ffonio neu ysgrifennu at CThEF i roi gwybod nad oes angen i’ch cleient gyflwyno Ffurflen Dreth.
Beth sy’n digwydd nesaf
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth.