Ailymgeisio am drwydded yrru yn dilyn cyflwr iechyd
Sut i ailymgeisio
Bydd DVLA yn anfon llythyr atoch os cafodd eich trwydded ei chymryd i ffwrdd, neu os gwrthodwyd eich cais am drwydded yrru oherwydd cyflwr iechyd.
Bydd y llythyr yn dweud wrthych os oes angen ichi aros am gyfnod cyn y gallwch gael trwydded newydd. Gallwch ailymgeisio am drwydded hyd at 8 wythnos cyn diwedd y cyfnod hwn.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae yna reolau gwahanol ar gyfer pryd y gallwch yrru eto os gwnaethoch ildio’ch trwydded yn wirfoddol
Gwiriwch gyda’ch meddyg eich bod yn gallu bodloni’r safonau meddygol ar gyfer gyrru cyn ailymgeisio am eich trwydded.
Trwydded gar neu feic modur
Gallwch ailymgeisio am eich trwydded gar neu feic modur ar-lein neu drwy’r post.
Bydd y llythyr gan DVLA yn dweud wrthych a oes angen ichi anfon tystiolaeth feddygol o’ch ffitrwydd i yrru. Os oes angen ichi anfon tystiolaeth feddygol, rhaid ichi wneud cais drwy’r post.
Ailymgeisio ar-lein
Bydd gennych awr i ychwanegu gwybodaeth ar ôl ichi ddechrau. Ni allwch gadw’ch cais a dychwelyd ato yn nes ymlaen.
Gallwch roi gwybod am gyflwr iechyd ar yr un pryd.
Defnyddiwch wasanaeth gwahanol i:
-
adnewyddu eich trwydded yrru feddygol tymor byr os oes gennych un oherwydd cyflwr iechyd ac mae ar fin dod i ben (neu eisoes wedi dod i ben)
Ailymgeisio drwy’r post
I ailymgeisio, llenwch y ffurflen ar gyfer eich cyflwr meddygol a ffurflen gais D1W, a’u hanfon i DVLA.
Dewiswch eich cyflwr iechyd i ddod o hyd i’r ffurflen gywir.
Gallwch gael ffurflen gais D1W gan Swyddfa’r Post sy’n cynnig gwasanaethau DVLA. Gwiriwch a oes gan eich Swyddfa’r Post leol y ffurflen D1W cyn ichi fynd.
Trwydded fws, coets neu lori
Bydd y llythyr gan DVLA yn dweud wrthych a oes angen ichi anfon tystiolaeth feddygol o’ch ffitrwydd i yrru.
Llenwch ffurflen gais D2W a’r ffurflen ar gyfer eich cyflwr meddygol, a’u hanfon i DVLA.
Dewiswch eich cyflwr meddygol i ddod o hyd i’r ffurflen gywir.
Os ydych rhwng 45 a 65 oed, rhaid ichi hefyd lenwi ffurflen D4 a’i hanfon i DVLA os nad ydych wedi gwneud hynny yn y 5 mlynedd diwethaf. Anfonwch hi gyda’ch ffurflen D2W.
Cael ffurflen D2W neu D4 gan Swyddfa’r Post sy’n cynnig gwasanaethau DVLA.
O 65 oed, bydd angen adnewyddu eich trwydded bob blwyddyn a rhaid i’ch cais gynnwys ffurflen adroddiad meddygol D4 wedi’i chwblhau.
Oedi os yw’ch cais yn cael ei gyfeirio at feddyg
Efallai y bydd eich cais yn cymryd mwy o amser nag arfer os oes angen ei gyfeirio at feddyg.
Efallai y byddwch yn gallu gyrru tra bod DVLA yn ystyried eich cais os yw’r ddau ganlynol yn berthnasol:
-
mae gennych drwydded yrru bresennol
-
nid yw’ch meddyg neu’ch optegydd wedi dweud wrthych na ddylech yrru
Darllenwch ‘Gaf i yrru tra bod fy nghais gyda DVLA?’ am ragor o ganllawiau.
Ble i anfon eich cais
Anfonwch eich cais wedi’i gwblhau i Grŵp Meddygol Gyrwyr drwy’r post.
Grŵp Meddygol Gyrwyr
DVLA
Abertawe
SA99 1TU
Cael gwybod am gostau galwadau