Gweithdrefn gwyno
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau rhagorol i'n cwsmeriaid. Byddwn yn atebol pan fydd pethau'n mynd o chwith a byddwn yn cymryd camau i unioni pethau lle bynnag y gallwn.
Sut i wneud cwyn
Llenwch ein ffurflen gwyno ar-lein, neu os yw’n well gennych, gallwch ein ffonio. Darllenwch am sut i wneud cwyn.
Yr hyn i’w ddisgwyl
Mae dau gam i’n trefn gwyno.
Cam 1
Ar ôl inni gael eich cwyn:
-
byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn anelu at roi ymateb llawn i chi o fewn 20 niwrnod gwaith, ond os yw’r mater yn gymhleth a bod angen mwy o amser arnom i ymchwilio i’ch pryderon, byddwn yn cysylltu â chi ac yn rhoi gwybod ichi
-
byddwn yn cadw cysylltiad â chi gydol ein hymchwiliad
-
byddwn yn dweud y canlyniad wrthych ac yn egluro’n penderfyniad yn glir
-
os ydym wedi disgyn islaw ein safonau gwasanaeth byddwn yn ymddiheuro ac yn unioni pethau cyn gynted â phosibl
-
os ydym wedi gwneud gwall, byddwn yn egluro’r hyn sydd wedi digwydd ac yn ei unioni cyn gynted â phosibl os gallwn
Rydym yn gwerthfawrogi cwynion a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddir inni i’n helpu i wella’n gwasanaeth.
Cam 2
Os ydych yn parhau i fod yn anhapus gyda chanlyniad ein hymchwiliad, gallwch ofyn inni edrych ar eich cwyn eto a bydd yn cael ei hadolygu gan uwch aelod o’n tîm arbenigol. Byddwn yn cysylltu â chi eto o fewn 20 niwrnod gwaith os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom neu i roi gwybod ichi os yw’n mynd i gymryd mwy o amser i ddatrys eich cwyn.
Os ydych yn anfodlon o hyd
Os yw’ch cwyn wedi bod trwy ddau gam ein gweithdrefn gwyno fewnol ac rydych yn parhau’n anfodlon â chanlyniad eich cwyn neu’r ffordd y cafodd ei thrin, gallwch gwyno i un o’r cyrff annibynnol isod.
Adolygydd Cwynion Annibynnol
Yr Adolygydd Cwynion Annibynnol (ACA) ar gyfer Cofrestrfa Tir EF. Rôl yr ACA yw adolygu cwynion yn annibynnol ar Gofrestrfa Tir EF.
Dim ond cwynion am y canlynol y bydd yr ACA yn eu hystyried:
-
methiannau yn ein safonau gwasanaeth
-
problemau neu bryderon a achosir gan ein gweithredoedd
Nid oes gan yr ACA unrhyw bŵer i adolygu neu wrthdroi unrhyw un o’n penderfyniadau am faterion cofrestru tir, nac i wneud sylwadau ar bwyntiau cyfreithiol.
Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad ymchwiliad yr ACA, gallwch ofyn i’ch AS gyfeirio’r gŵyn at Ombwdsman y Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Yn ogystal, efallai byddwch yn gallu uwchgyfeirio i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion diogelu data.
Adolygiad barnwrol
Os ydych am herio penderfyniad cofrestru tir, efallai byddwch yn gallu mynd i’r llys i ofyn am adolygiad barnwrol o’r ffordd y gwnaed y penderfyniad.
Math o achos llys lle mae barnwr yn adolygu cyfreithlondeb penderfyniad neu weithred a wneir gan gorff cyhoeddus yw adolygiad barnwrol.
Os na ellir datrys eich cwyn trwy ein trefn gwyno a’ch bod yn ystyried achos llys, dylech feddwl am y canlynol:
-
cael cyngor cyfreithiol annibynnol cyn dechrau achos
-
darllen y Rheolau Trefniadaeth Sifil i gael arweiniad
Dylid cychwyn achos adolygiad barnwrol yn erbyn y Prif Gofrestrydd Tir a’i gyflwyno iddo.
Trefn gwyno Pridiannau Tir Lleol
Mae Cofrestrfa Tir EF yn y broses o gymryd cyfrifoldeb statudol am y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol. Gallwch weld a yw Cofrestrfa Tir EF yn gyfrifol am eich awdurdod lleol.
Ni fyddwn yn gallu ystyried cwynion am ddogfennau yn ymwneud â phridiannau a ddarparwyd gan awdurdodau lleol, gan eu bod yn cadw cyfrifoldeb amdanynt. Hefyd, mae ymholiadau a chwynion CON 29 y tu allan i gwmpas y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF.
Os yw eich cwyn yn ymwneud ag unrhyw un o’r materion hyn neu am bridiannau tir lleol mewn ardal nad yw’n Cofrestrfa Tir EF yn gyfrifol amdani eto, dylech gysylltu â’r awdurdod lleol perthnasol.
Trefn gwyno diogelu data
Llenwch ein ffurflen gwyno diogelu data ar-lein neu os yw’n well gennych, gallwch ein ffonio neu ysgrifennu atom.
Trwy ffurflen gwyno ar-lein
Wrth lenwi’r ffurflen gwyno diogelu data ar-lein ceisiwch ddarparu cymaint o fanylion ag y gallwch i’n helpu i ymchwilio i’ch cwyn. Er enghraifft:
-
cyfeirnod Hawliau Gwybodaeth (os yw’n berthnasol)
-
rhif teitl
-
cyfeiriad neu ddisgrifiad eiddo
-
unrhyw gyfeirnod Cofrestrfa Tir EF
-
unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth yn ymwneud â’ch cwyn
Dros y ffôn
Lle bynnag bo modd, bydd ein harbenigwyr cymorth i gwsmeriaid yn ceisio datrys eich pryderon dros y ffôn ond os bydd angen ymchwilio ymhellach i’r mater, caiff eich cwyn ei throsglwyddo i’r Tîm Hawliau Gwybodaeth.
Mae ein llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 8.00am i 4.30pm (ac eithrio gwyliau banc).
Gwasanaeth Cymraeg: 0300 006 0422
Gwasanaeth Saesneg: 0300 006 0411
Trwy’r post
Gallwch argraffu’n ffurflen gwyno diogelu data ar-lein:
ffurflen gwyno diogelu data ar-lein
Neu gallwch ysgrifennu atom am eich cwyn a’i hanfon atom trwy’r post i:
Information Rights Team
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
United Kingdom
Trwy ebost
dataprotection@landregistry.gov.uk
Yr hyn fydd yn digwydd nesaf
Ein nod yw cydnabod eich cwyn diogelu data o fewn 5 niwrnod gwaith ac ymateb o fewn 20 niwrnod gwaith. Byddwn yn ysgrifennu atoch os na allwn gyflawni hyn. Byddwn yn cysylltu â chi hefyd os bydd angen tystiolaeth o’ch hunaniaeth arnom neu wybodaeth yn ymwneud â’ch cais.
Efallai bydd angen inni gysylltu â chydweithwyr ar draws y sefydliad i ymchwilio i’ch cwyn.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Os nad ydych yn fodlon, gallwch uwchgyfeirio eic h cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion diogelu data.
Adolygiad barnwrol
Os ydych am herio penderfyniad cofrestru tir, efallai byddwch yn gallu mynd i’r llys i ofyn am adolygiad barnwrol o’r ffordd y gwnaed y penderfyniad.
Math o achos llys lle mae barnwr yn adolygu cyfreithlondeb penderfyniad neu weithred a wneir gan gorff cyhoeddus yw adolygiad barnwrol.
Os na ellir datrys eich cwyn trwy ein trefn gwyno a’ch bod yn ystyried achos llys, dylech feddwl am y canlynol:
-
cael cyngor cyfreithiol annibynnol cyn dechrau achos
-
darllen y Rheolau Trefniadaeth Sifil i gael arweiniad
Dylid cychwyn achos adolygiad barnwrol yn erbyn y Prif Gofrestrydd Tir a’i gyflwyno iddo.
Os oes gennych anghenion cyfathrebu penodol, rhowch wybod inni a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol lle bo modd.